Jump to content
Gwasanaethau gofal cymdeithasol sy'n ymwreiddio ac yn defnyddio dulliau gofal a chymorth sy'n seiliedig ar gryfderau

Trosolwg o'n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn yn 2023-2024

O safbwynt y gweithlu, rydyn wedi gweld tystiolaeth o ddefnyddio gwasanaethau cymdeithasol mewn ffordd gadarnhaol o ganlyniad i ganolbwyntio ar yr egwyddorion. Yn yr un modd, mae ethos cyffredinol y Ddeddf [Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)], sy'n rhoi mwy o lais a rheolaeth a dulliau gweithredu i bobl, fel sgyrsiau am ‘beth sy'n bwysig’, wedi helpu i oresgyn rhaniadau a allai fodoli o fewn diwylliannau gweithlu, er nad yn gyson bob amser. Mae hyn wedi galluogi gweithwyr i weithio y tu hwnt i ffiniau rhagnodedig ac archwilio opsiynau ehangach.”

Adroddiad terfynol: gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Mawrth 2023

“Dywedodd 5% o bobl eu bod wedi derbyn cymorth iddyn nhw eu hunain gan wasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru yn ystod y 12 mis diwethaf. O'r bobl sy'n derbyn gofal, mae gan 33% becyn gofal sy'n cael ei drefnu gan y cyngor lleol, ac mae 37% o'r grŵp hwn yn talu tuag at y gofal maen nhw'n ei dderbyn. Dywedodd 3% arall o bobl fod angen cymorth arnynt ond nad oeddent wedi derbyn cymorth gan wasanaethau gofal a chymorth yn ystod y 12 mis diwethaf.”

Prif ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru: Ebrill 2022 i Fawrth 2023

Cefnogi dull canlyniadau sy'n seiliedig ar gryfderau

Mae dull canlyniadau sy'n seiliedig ar gryfderau yn cefnogi pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth a'u teuluoedd i fyw'r bywydau gorau posibl trwy ddatblygu eu cryfderau a'u galluoedd. Mae'n ymwneud â chydnabod bod pawb yn gallu cyfrannu at eu bywydau a derbyn cyfrifoldeb am eu bywydau: yr unigolyn, ei rwydwaith o ffrindiau a theulu, a'i gymuned.

Fe wnaethom barhau i gefnogi pum awdurdod lleol i ddatblygu a darparu hyfforddiant er mwyn datblygu hyder a sgiliau'r rhai sy'n gweithio mewn timau gwaith cymdeithasol, plant ac oedolion wrth gymhwyso'r dull hwn. Hefyd, fe wnaethom gefnogi eu timau rheoli i baratoi ar gyfer y newid systemig sydd ei angen i gefnogi'r dull gweithredu. Rydyn yn paratoi adnoddau hyfforddi ar-lein ar gyfer rheolwyr yn y sector gofal cymdeithasol ehangach, a bydd cynnig i gefnogi rheolwyr ar gael yn 2024 i 2025. 

Cefnogi'r agenda drawsnewid ym maes gwasanaethau plant  

Yn 2023 i 2024, fe wnaethom ganolbwyntio ein cefnogaeth ar y rhan o'r rhaglen drawsnewid sydd â'r lefel uchaf o gymhlethdod a goblygiadau ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol a lle gallwn ychwanegu'r gwerth mwyaf – dileu elw ym maes gwasanaethau plant. Yn benodol, dileu elw ym maes gofal preswyl i blant.

Er mwyn ein helpu i gefnogi'r gwaith o feithrin gallu mewn awdurdodau lleol, fe wnaethom anfon holiadur atyn nhw ym mis Rhagfyr er mwyn derbyn gwybodaeth am anghenion recriwtio, cadw a hyfforddiant yn ymwneud â dulliau gweithredu therapiwtig. Byddwn ni'n mynd ati i ddadansoddi'r data a rhannu'r prif ganfyddiadau gyda Llywodraeth Cymru.

Sicrhau cydbwysedd rhwng hawliau a chyfrifoldebau: gwerthusiad 

Ym mis Mehefin, fe wnaethom gyhoeddi gwerthusiad o raglen newydd sy'n canolbwyntio ar ryddhau cleifion o ysbytai. Nod y rhaglen oedd datblygu sgiliau a galluogrwydd newydd er mwyn adfer y cydbwysedd yn ymwneud â dibynnu ar ddulliau gweithredu sy'n seiliedig ar risg a phroblemau, gyda'r bwriad o ddatblygu a darparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Roedd y rhaglen ar y cyd (BRR) yn rhaglen hybrid o 'Sgiliau Cyfathrebu Cydweithredol' (gofal cymdeithasol) a Nodau Gofal (iechyd) ym maes datblygu hyfforddiant a sgiliau. 

Yn ôl gwerthusiad y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth, roedd y rhan fwyaf o bobl a gymerodd ran yn y rhaglen yn teimlo'n fwy hyderus yn siarad â chleifion am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Dywedodd bron pawb eu bod yn deall y ddyletswydd gofal yn well erbyn hyn.

O'r 68 o bobl a gymerodd ran yn y rhaglen, daeth 12 yn 'fentoriaid' neu'n 'eiriolwyr' gan fynychu rhagor o hyfforddiant i'w helpu i ymgorffori'r dull gweithredu.

Cefnogi'r newid i ymarfer sy'n seiliedig ar ganlyniadau trwy ddefnyddio ymchwil gyfoes

Rydym wedi cyhoeddi gwaith ymchwil perthnasol a chyfredol am ofal sy'n seiliedig ar le a dulliau gweithredu sy'n ystyriol o drawma, a'u cyfraniad at ddarparu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cynnwys cysylltiedig

Cyhoeddwyd gyntaf: 19 Medi 2024
Diweddariad olaf: 19 Medi 2024
Diweddarwyd y gyfres: 19 Medi 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (41.0 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (156.4 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch