Jump to content
Gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig sydd â hyder y cyhoedd

Trosolwg o'n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn yn 2023-2024

Mae gan y cyhoedd yng Nghymru ganfyddiad cadarnhaol o sgiliau a phroffesiynoldeb y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru:

  • mae gan 72% hyder yn y rhai sy'n gweithio yn y sector gofal
  • mae 82% yn gwybod beth yw safon gofal derbyniol
  • mae 63% yn meddwl bod gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol yn cael eu rheoleiddio (o'i gymharu â 58% yn 2021)
  • dim ond 29% sy'n gwybod sut i godi pryder am weithiwr cymdeithasol neu weithiwr gofal cymdeithasol 
  • mae 70% yn meddwl bod gweithwyr gofal plant a'r blynyddoedd cynnar yn cael eu rheoleiddio yng Nghymru - dim ond 8% sy'n gwybod nad ydyn nhw'n cael eu rheoleiddio
  • mae 67% yn cytuno y dylai pobl dderbyn gofal trwy gyfrwng y Gymraeg os mai dyna yw eu dewis (yr un ganran ag yn 2021) - mae cefnogaeth yn uwch ymhlith y rhai sy'n siarad Cymraeg (76%), ond mae'n gymharol uchel ymhlith pobl ddi-Gymraeg (63%) hefyd

(Ffynhonnell: Arolwg Omnibws Cymru 2023)

Rheoleiddio

Rydyn yn diogelu'r cyhoedd trwy sicrhau bod y gweithlu a reoleiddir wedi'i gofrestru ac yn addas i ymarfer.

Rydyn am i bobl sy'n dibynnu ar ofal a chymorth fod yn sicr bod gan weithwyr cofrestredig y cymwysterau a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddarparu gofal a chymorth, a'u bod yn gweithio yn unol â'r safonau rydym wedi'u pennu ar gyfer y sector.

Gweithlu cofrestredig

Ym mis Mawrth 2024 roedd 61,000 o bobl wedi'u cofrestru gyda ni (8,000 yn fwy nag ar ddiwedd 2023):

  • 1,299 o reolwyr cartrefi gofal i oedolion
  • 24,970 o weithwyr cartrefi gofal i oedolion
  • 988 o reolwyr gofal cartref
  • 21,578 o weithwyr gofal cartref
  • 6,763 o weithwyr cymdeithasol
  • 383 o reolwyr gofal plant preswyl
  • 4,342 o weithwyr gofal plant preswyl
  • 749 o fyfyrwyr gwaith cymdeithasol.

Addasrwydd i ymarfer

Mae addasrwydd i ymarfer yn golygu bod gan weithiwr cofrestredig y sgiliau, y wybodaeth a'r cymeriad i wneud ei waith yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae'n fframwaith rheoleiddio sydd wedi'i gynllunio i ddiogelu'r cyhoedd trwy sicrhau mai dim ond y rhai sy'n addas i ymarfer sy'n cael gwneud hynny.

Yn 2023 i 2024:

  • cafodd 465 o weithwyr gofal cymdeithasol eu cyfeirio at ein tîm addasrwydd i ymarfer
  • cynhaliwyd 51 gwrandawiad terfynol

cafodd 46 o bobl (0.08% o'r Gofrestr) eu tynnu oddi ar y Gofrestr, sy'n golygu na allant weithio mewn swydd gofal cymdeithasol gofrestredig yng Nghymru mwyach, sef:   

  • 4 o weithwyr gofal plant preswyl 
  • 2 o reolwyr cartrefi gofal i oedolion 
  • 8 o weithwyr cartrefi gofal i oedolion 
  • 1 gweithiwr cymdeithasol
  • 31 o weithwyr gofal cartref. 

Newidiadau cofrestru ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a rheolwyr

Wrth i'r gweithlu gofal cymdeithasol dyfu, gwyddom pa mor bwysig yw gwneud ein proses gofrestru’n symlach, fel ei bod mor hawdd â phosibl i bobl weithio yn y sector.

Rhwng mis Mehefin a mis Gorffennaf, fe wnaethom holi'r gweithlu gofal cymdeithasol am ei farn ar ein newidiadau arfaethedig i gofrestru. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig ffordd newydd o gofrestru, ynghyd â rhoi mwy o amser i weithwyr gwblhau'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i adnewyddu eu cofrestriad.

Hefyd, fe wnaethom ofyn i'r gweithlu am adborth ar ein gofynion cofrestru a'r canllawiau ymarfer drafft ar gyfer gweithwyr a rheolwyr preswyl ysgolion arbennig. Ar ôl ystyried yr adborth a gawsom, daeth y newidiadau arfaethedig i rym ym mis Medi 2023.

“Bydd y newidiadau hyn yn gwneud y broses gofrestru’n symlach ac yn fwy effeithiol i Gymru, gan sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddenu'r gweithlu gorau ar gyfer gofal cymdeithasol.” David Pritchard, ein Cyfarwyddwr Rheoleiddio

Cynnwys cysylltiedig

Cyhoeddwyd gyntaf: 19 Medi 2024
Diweddariad olaf: 19 Medi 2024
Diweddarwyd y gyfres: 19 Medi 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (42.1 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (156.4 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch