Jump to content
Newidiadau cofrestru ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a rheolwyr
Newyddion

Newidiadau cofrestru ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a rheolwyr

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n newid sut mae rheolwyr gofal cymdeithasol yn cofrestru gyda ni ac rydyn yn rhoi mwy o amser i weithwyr gofal cymdeithasol gwblhau cymwysterau.

Beth sy’n newid?

  • Bellach gall gweithwyr gofal cymdeithasol nad oes ganddynt y cymhwyster lefel 3 gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol os gallant ddangos profiad rheoli digonol.
  • Rydyn ni'n cydnabod y gall llawer o bobl gwblhau’r cymhwyster mewn tair blynedd, ac rydyn ni'n dal i ddisgwyl y bydd y rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol yn gwneud hynny. Ond, bydd gan bob gweithiwr gofal cymdeithasol chwe blynedd i gwblhau'r cymhwyster gofynnol ar gyfer eu rôl.

Yn gynharach eleni, fe wnaethom ni ofyn eich barn am y newidiadau roeddem am eu gwneud i gofrestru. Fe wnaethom ni hefyd ofyn eich barn am ofynion cofrestru ar gyfer gweithwyr a rheolwyr preswyl ysgolion arbennig.

Gwnaethom edrych ar eich ymatebion a defnyddio'ch adborth i lunio ein hymagwedd a'n hamserlen ar gyfer gwneud newidiadau i gofrestriad.

Newidiadau cofrestru

Gofynion cofrestru ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol

O fis Hydref ymlaen, byddwn ni'n derbyn gweithwyr gofal cymdeithasol nad oes ganddynt y cymhwyster lefel 3 ond sy’n gallu dangos profiad rheoli digonol.

Yn fras, ‘profiad rheoli digonol’ yw pan fydd gan weithiwr o leiaf tair blynedd o brofiad cyfwerth o reoli lleoliad gofal cymdeithasol, iechyd neu leoliad tebyg a reoleiddir yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Bydd y Cofrestrydd yn ystyried pob achos yn unigol, a bydd rhaid i'r ymgeisydd fod wedi'i gofrestru ar y cwrs rheoli gofynnol y bydd angen ei gwblhau o fewn tair blynedd gyntaf y cofrestriad.

Adnewyddu cofrestriad ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol

Er ein bod yn dal i ddisgwyl y bydd y rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol yn cyflawni’r cymhwyster gofynnol ar gyfer eu rôl o fewn tair blynedd, bellach bydd gan bob gweithiwr gofal cymdeithasol chwe blynedd i’w gwblhau, os bydd ei angen arnyn nhw.

Fe wnaethom ni wrando ar eich adborth am yr effaith gadarnhaol y byddai’r newid hwn yn ei gael ar bobl sy’n gweithio’n rhan amser, neu sydd â nodweddion gwarchodedig neu amgylchiadau eraill sy’n ei gwneud yn anodd cwblhau’r cymhwyster ymhen tair blynedd.

Rydyn ni eisoes wedi cyflwyno’r newid hwn a byddwn ni’n diweddaru ein gwefan yn fuan.

Meddai David Pritchard, ein Cyfarwyddwr Rheoleiddio: “Mae ein hymgynghoriad wedi dangos cefnogaeth gref i’r cynigion hyn, ac rwy’n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd.

“Rwy’n credu y bydd y newidiadau hyn yn gwneud cofrestru’n fwy syml ac effeithiol i Gymru, ac yn gwneud yn siŵr y gallwn ni barhau i ddenu’r gweithlu gorau oll ar gyfer gofal cymdeithasol.”