Rydym yn arwain ar ddatblygu ymagwedd mwy strategol ar ddata gofal cymdeithasol mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Rydym am wneud gwell defnydd o ddata i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'r rhai sy'n derbyn gwasanaethau gofal a chymorth.
Datganiad o fwriad strategol
Rydym wedi creu y Datganiad hwn gyda chymorth arweinwyr a sefydliadau ledled gofal cymdeithasol yng Nghymru a’i bartneriaid, gan gynnwys y llywodraeth, gofal iechyd, awdurdodau lleol, mudiadau annibynnol a thrydydd sector, ac ymchwilwyr, ynghyd â phobl sydd wedi byw’r profiad o roi a derbyn gofal a chymorth.
Ein hymrwymiad ffurfiol yw gweithio ar y cyd â chydweithwyr o bob rhan o’r sectorau iechyd a gofal i adeiladu strategaeth data gofal cymdeithasol gynhwysfawr a chynhwysol, a gweithio tuag at wasanaeth gofal cymdeithasol cryfach, wedi’i ymrymuso gan ddata, yng Nghymru.
Ymagwedd strategol at ddata gofal cymdeithasol yng Nghymru - Adroddiad ar y cam darganfod
Yn dilyn adolygiad cyflym o’r cyd-destun data presennol, uchelgeisiau, heriau a chyfleoedd, mae’r adroddiad yn amlinellu ymagwedd a awgrymir i ddatblygu strategaeth ddata genedlaethol ar gyfer gofal cymdeithasol.
Cynhyrchwyd yr adroddiad hwn gan Gofal Cymdeithasol Cymru mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.