Mae Sarah McCarty wedi’i phenodi i rôl Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru.
Bydd Sarah yn ymgymryd â’r rôl yr haf hwn, gan gymryd lle Sue Evans sy’n ymddeol ym mis Gorffennaf ar ôl wyth mlynedd wrth y llyw.
Dywedodd Sue Evans: “Rwy’n gwybod y bydd Sarah yn Brif Weithredwr gwych a dymunaf y gorau iddi yn ei rôl newydd.”
Ar hyn o bryd mae Sarah yn Gyfarwyddwr Gwella a Datblygu gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, rôl y mae wedi’i chyflawni ers mis Ebrill 2016.
Dechreuodd Sarah ei gyrfa fel gweithiwr ieuenctid ac un o aelodau sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc Cymru gynt. Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, bu Sarah yn gweithio mewn awdurdodau lleol ym maes gwella ac fel Cyfarwyddwr Gweithredol Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dywedodd Sarah McCarty: “Mae’n anrhydedd ac yn bleser mawr cael y cyfle i adeiladu ar etifeddiaeth Sue ac arwain Gofal Cymdeithasol Cymru yng ngham nesaf ein datblygiad. Byddwn ni’n parhau i weithio mewn partneriaeth ac i adeiladu ar ein cefnogaeth i’r gweithlu gofal cymdeithasol a gwasanaethau yng Nghymru.
“Bydd angen i ni i gyd dynnu ar ofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant ar ryw adeg – boed hynny i ni ein hunain, ein teulu neu ein ffrindiau. Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi gwasanaethau i ddarparu’r gofal a’r cymorth gorau oll i bobl ledled Cymru.”
Dywedodd Mick Giannasi, Cadeirydd Gofal Cymdeithasol Cymru: “Rwy’n falch iawn o gyhoeddi y bydd ein Cyfarwyddwr Gwella a Datblygu presennol, Sarah McCarty, yn camu i fyny i rôl y Prif Weithredwr pan fydd Sue Evans yn ymddeol ym mis Gorffennaf.
“Cawsom ymateb ardderchog i’n hymgyrch recriwtio a daeth Sarah i’r amlwg fel yr ymgeisydd rhagorol mewn maes cryf iawn. Gwnaeth ei hanes o gyflawni newid strategol ar lefel genedlaethol a’i gweledigaeth gymhellol ar gyfer cyfeiriad Gofal Cymdeithasol Cymru yn y dyfodol argraff arbennig ar y panel recriwtio.
“Roedd ei hangerdd am degwch a chyfiawnder cymdeithasol yn disgleirio trwodd ac roedd ei huchelgais i weithio ar y cyd ag eraill ar lefel system i fynd i’r afael â rhai o’r heriau anodd a hirsefydlog, y mae’r sector yn eu hwynebu, nawr ac yn y dyfodol, yn gwbl amlwg.
“Mae Sarah wedi dangos sgiliau arwain rhagorol yn gyson yn ei rôl bresennol. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth y bydd yn cynnal ac yn cryfhau’r gwerthoedd y mae’r sefydliad yn anelu atynt tra’n parhau i ddarparu’r un arddull arweinyddiaeth dosturiol, grymusol a chydweithredol, y mae’r bobl sy’n gweithio yn y sefydliad a’n rhanddeiliaid a’n partneriaid allweddol wedi dod yn gyfarwydd ag ef.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Sarah fel Prif Weithredwr ac rwy’n hyderus, o dan ei harweiniad, y bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn mynd o nerth i nerth ac yn gynyddol yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl yng Nghymru sydd angen gofal a chymorth i fyw’r bywydau sy’n bwysig iddyn nhw."
Dysgwch fwy am Sarah
Dechreuodd Sarah ei gyrfa fel gweithiwr ieuenctid yng Nghymru. Bu’n gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau statudol a gwirfoddol, yn enwedig gyda phobl ifanc agored i niwed, ac yn cefnogi cyfranogiad pobl ifanc.
Roedd hi’n un o aelodau sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc gynt ac aeth ymlaen i ddal swyddi mewn awdurdodau lleol mewn gwaith ieuenctid a chynllunio busnes ehangach, a gwella gwasanaethau, gyda chefnogaeth Radd Meistr mewn Rheolaeth Strategol.
Aeth Sarah ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Gweithredol Sgiliau Gofal a Datblygu lle bu’n gweithio i bartneriaeth y DU gyfan o 2005.
Daeth yn Gyfarwyddwr yn 2008 ac ehangu gwaith y Cyngor Sgiliau Sector i fynd i’r afael ag ystod eang o heriau o ran y gweithlu a wynebir gan y sector.
Ymunodd Sarah â Gofal Cymdeithasol Cymru fel Cyfarwyddwr ym mis Ebrill 2016.