Pwy oedd enillwyr y Gwobrau 2023 a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol? Dysgwch yma, a gwyliwch y seremoni wobrwyo
Gwyliwch y seremoni wobrwyo
Cafodd seremoni wobrwyo’r Gwobrau 2023 ei gynnal yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar 27 Ebrill 2023.
Cafodd y seremoni ei gyflwyno gan y darlledwr Garry Owen a’n Prif Weithredwr Sue Evans, a’i ffrydio’n fyw dros YouTube.
Cafodd y seremoni ei gyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain a’n cyfieithwyr ar gyfer y seremoni oedd Julie Doyle a Stephen Brattan-Wilson.
Yr enillwyr a’r rhai a gyrrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau 2023
Dewiswyd naw prosiect a chwe unigolyn neu dîm gan ein panel o feirniaid ar gyfer rownd derfynol Gwobrau 2023. Roedd pum categori.
Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd
Noddir gan Blake Morgan
Mae'r categori hwn yn dathlu sefydliadau, lleoliadau neu brosiectau sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd a'u gofalwyr i'w helpu i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.
Enillydd:
Cyngor Dinas Casnewydd am ei Wasanaeth Seibiannau Byr Oaklands
Mae Oaklands yn darparu seibiant tymor byr i blant ag anghenion ychwanegol. Mae'r gwasanaeth yn cynorthwyo teuluoedd drwy ddarparu cartref oddi cartref sy’n ddiogel ac yn ofalgar lle mae’r teulu’n ganolog i bopeth. Cyn i'r plant ddod i aros, bydd y gwasanaeth yn gofyn i deuluoedd beth sy'n bwysig i'r plant, fel y gall gynorthwyo'r plant mewn ffordd bositif yn ystod eu harhosiad a lleddfu unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw.
Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a derbyn cymeradwyaeth uchel:
Adoption UK Cymru am ei brosiect ‘TESSA (LLWYBRAU:PATHWAYS)’
Mae'r prosiect hwn yn gweithio mewn partneriaeth â'r pum gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol yng Nghymru er mwyn cynnig cefnogaeth gynnar i deuluoedd sy'n mabwysiadu plant o'r system ofal. Mae'r rhaglen chwe mis yn rhoi cymorth cymheiriaid i deuluoedd gan riant profiadol sydd wedi mabwysiadu, yn ogystal â chymorth gan seicolegwyr neu seicotherapyddion a fydd yn helpu rhieni i ddeall sut y gallai'r byd edrych o safbwynt y plentyn.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful am ei brosiect 'Llwybr at Waith'
Mae'r prosiect hwn yn helpu pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, sydd â phrofiad o ofal, i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gael prentisiaeth, cael swydd, neu astudio yn y coleg neu’r brifysgol. Mae’n gweithio mewn partneriaeth ag EE hefyd i dreialu cynllun cyflogadwyedd, Seren Dyfodol, ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed sy'n derbyn gofal, i'w cynorthwyo a'u mentora gyda gwaith cartref, profiad gwaith a gweithgareddau chwaraeon.
Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu
Noddir gan Data Cymru
Mae'r categori hwn yn cydnabod sut mae cyflogwyr wedi cynorthwyo staff ers y pandemig a'r camau mwy hirdymor y mae cyflogwyr yn eu cymryd i ofalu am lesiant eu gweithwyr a'i wella.
Enillydd:
Right at Home Cardiff & Newport
Mae Right at Home Cardiff & Newport wedi bod yn cymryd camau ers y pandemig i wella llesiant staff. Ers y pandemig, mae wedi ei gwneud hi'n haws i staff dreulio mwy o amser gyda'r teulu, rhoi cyfleoedd hyfforddi a datblygu i staff, cynnal diwrnodau agored i staff drafod eu nodau a'u dyheadau, a darparu mwy o geir cwmni, yn ogystal â chyfraddau milltiroedd uwch.
Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a derbyn cymeradwyaeth uchel:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful am ei brosiect 'Adfer a Gwytnwch'
Sefydlwyd y prosiect hwn yn ystod pandemig Covid-19 i wella llesiant staff y cyngor. Erbyn hyn mae’n cynnig pedair sesiwn y flwyddyn i staff y gwasanaethau cymdeithasol, lle maen nhw'n treulio amser gyda'u tîm yn gwneud gweithgareddau i wella gwytnwch eu tîm, lleihau teimladau ynysig a'u helpu i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel pobl. Mae'r gweithgareddau hyn wedi cynnwys dosbarthiadau crochenwaith, barbeciws ar y traeth a theithiau cerdded o gwmpas yr aber a pharciau lleol.
Seren Support Services am ei 'Brosiect Gwella Llesiant'
Sefydlodd Seren Support Services ei 'Brosiect Gwella Llesiant' yn 2022, ar ôl i arolwg staff ddangos bod angen mwy o gymorth llesiant arnyn nhw. Ei nod yw gwella pob agwedd ar lesiant staff. Ers ei sefydlu, mae'r prosiect wedi trefnu bod cymorth iechyd meddwl a chorfforol ar gael, cymorth i bobl sy'n teimlo eu bod wedi'u heithrio'n gymdeithasol, a hyfforddiant i helpu rheolwyr i ddeall materion llesiant.
Cefnogi gofalwyr di-dâl
Noddir gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Mae'r categori hwn yn dathlu timau neu grwpiau o weithwyr sy'n cynorthwyo gofalwyr di-dâl.
Enillydd:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent am ei brosiect 'Teuluoedd yn Gyntaf – Gofalwyr Ifanc'
Mae'r prosiect yn cynorthwyo gofalwyr ifanc di-dâl pump i 25 oed ym Mlaenau Gwent trwy roi cymorth uniongyrchol a chyfleoedd hyfforddiant iddyn nhw, a hyrwyddo eu hawliau. Mae’n cynnig seibiant hefyd, fel y gall gofalwyr ifanc wneud ffrindiau newydd, rhoi cynnig ar weithgareddau newydd, a chael amser i ffwrdd o'u cyfrifoldebau gofalu mewn amgylchedd diogel, cyfeillgar a chynhwysol.
Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a derbyn cymeradwyaeth uchel:
Cyngor Dinas Casnewydd am ei Wasanaeth Cysylltydd Cymunedol Casnewydd
Mae'r Gwasanaeth Cysylltydd Cymunedol yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr di-dâl yng Nghasnewydd bob dydd. Mae tîm y prosiect yn rhedeg Caffi Gofalwyr, sy'n darparu cymorth proffesiynol a chymorth gan gymheiriaid i ofalwyr, yn ogystal â Rhwydwaith Gofalwyr, sy'n rhannu gwybodaeth reolaidd ac e-fwletinau gyda mwy na 230 o aelodau. Mae’n gwneud gwaith allgymorth penodol hefyd mewn digwyddiadau ac mewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig.
Prosiect Cefnogi Gofalwyr, Gwynedd a Môn
Nod y prosiect yw gwella ansawdd bywyd gofalwyr ifanc yng Ngwynedd a Môn. Mae wedi creu ap, AIDI, i gynorthwyo gofalwyr ifanc mewn ysgolion uwchradd a cholegau – y cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae'r ap yn eu helpu i hysbysu eu hysgol neu goleg os ydyn nhw'n mynd i fod yn absennol neu angen cymorth ychwanegol. Mae'r prosiect wedi gweithio gyda busnesau lleol hefyd i gynnig gostyngiadau i ofalwyr ifanc drwy gerdyn adnabod.
Categorïau ar gyfer gweithwyr gofal unigol
Ym mhob categori, bydd ein beirniaid yn chwilio am weithwyr gofal eithriadol sy'n mynd y tu hwnt i ofynion arferol eu rôl o ddydd i ddydd ac sy'n helpu pobl i gyflawni'r hyn sy'n wirioneddol bwysig iddyn nhw.
Enillydd:
- Polly Duncan, Rheolwr Recriwtio Seren Support Services yng Nghastell-nedd Port Talbot
Enwebwyd gan: David Jones-Isaac, cyn Bennaeth Pobl (AD) yn Seren Support Services
Polly sy'n gyfrifol am ddod o hyd i staff newydd, eu recriwtio a’u sefydlu yn Seren Support Services.
Pan oedd y sefydliad yn ei chael hi'n anodd staffio'r busnes yn ddigonol, creodd Polly strategaeth arloesol i oresgyn yr heriau hynny.
Roedd y strategaeth yn cynnwys gwneud cais i'r swyddfa Fisa a Mewnfudo i fod yn gyflogwr gweithwyr medrus Haen A. Roedd hyn yn golygu y gallai Seren Support Services recriwtio gweithwyr mudol oedd eisiau aros yn y DU ac adeiladu bywyd diogel a chynhyrchiol yng Nghymru.
Datblygodd a defnyddiodd Polly ymgyrchoedd hysbysebu effeithiol i ddenu gweithwyr newydd, gan ddefnyddio ei gwybodaeth am y rheolau cyfreithiol cymhleth ar gyfer recriwtio gweithwyr mudol.
Ers i Seren Support Services ddechrau defnyddio ei strategaeth, mae llesiant ac ymgysylltiad staff a bodlonrwydd cleientiaid wedi gwella, ac mae absenoldebau staff wedi gostwng yn sylweddol.
Meddai David: “Strategaeth adnoddau Polly yw'r rheswm bod y busnes yn ffynnu erbyn hyn. Mae ei harweinyddiaeth a'i pherchnogaeth wrth fwrw’r maen i’r wal gyda’r fenter allweddol hon wedi bod yn eithriadol.”
Yng ngeiriau Nick Pambianchi, Rheolwr Gyfarwyddwr Seren Support Services: “Dwi ddim yn meddwl y bydden ni yma nawr yn gwenu, yn tyfu ac yn cynllunio nodau ein cwmni am y tair blynedd nesaf, oni bai am Polly.”
Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a derbyn cymeradwyaeth uchel:
- Cathie Long, Rachel Gavin a Mary Cartlidge, gweithwyr cymdeithasol annibynnol yng Ngheredigion, Pen-y-bont ar Ogwr a Swydd Efrog
Enwebwyd gan: Zoey Luster, cyfreithiwr wedi ymddeol o Gaerdydd
Mae Cathie, Rachel a Mary i gyd yn weithwyr cymdeithasol annibynnol, sy'n gwirfoddoli fel grŵp i gynorthwyo gweithwyr proffesiynol yn y trydydd sector.
Maen nhw’n eiriolwyr cryf dros gyd-gynhyrchu, ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a gweithio gyda disgyblaethau eraill, ac mae'r grŵp yn boblogaidd gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol yn y gymuned anghenion addysgol arbennig.
Mae Zoey wedi gweld ymroddiad y triawd â’i llygaid ei hun i arwain a gwella ymarfer drwy eu gweminarau.
Mae eu gweminarau'n dod â gweithwyr proffesiynol at ei gilydd gan gynnwys cyfreithwyr, bargyfreithwyr a seiciatryddion i rannu gwybodaeth gyda phobl sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion niwroamrywiol.
Fe wnaethon nhw rhoi cyngor a chymorth trwy gydol y pandemig i deuluoedd ag aelodau niwroamrywiol i gryfhau eu galluoedd ymdopi.
Fe wnaethon nhw ymuno â sesiynau paned a sgwrs ar-lein gydag elusennau, a chynnal sesiynau holi ac ateb a darparu cyngor gofal cymdeithasol i deuluoedd oedd yn wynebu trafferthion.
Dywed Zoey: “Nhw yw'r gweithwyr cymdeithasol rydych chi eisiau wrth law. Agored, gonest, gwybodus, teg, cytbwys a gweithwyr proffesiynol go iawn sy'n uchel iawn eu parch gan lawer.”
- Tracey Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gofal Cymru ac Unigolyn Cyfrifol am Abicare, ym Mhont-y-pŵl
Enwebwyd gan: Anne-Marie Perry, Prif Weithredwr o Abicare
Mewn arolwg sicrhau ansawdd diweddar, dywedodd 100 y cant o’i gleientiaid bod ymrwymiad a gofal tîm Abicare yn rhagorol, da iawn neu dda.
Un o’r prif resymau am hyn yw Tracey Jenkins, sy'n goruchwylio gweithrediadau gofal Abicare yng Nghymru.
Pan ymunodd Tracey ag Abicare ym mis Mawrth 2021, roedd morâl y tîm gofal cartref yn isel ac roedd ganddo drosiant staff uchel.
Ond ers hynny mae Tracey wedi adeiladu tîm cadarn sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon ac mae wedi codi ysbryd y tîm, gan danio angerdd newydd ynddyn nhw.
Bu'n gweithio gyda'r awdurdod lleol i gyflwyno system shifftiau i wella cyflogau ac amodau'r gweithwyr gofal.
Penderfynodd Tracey wneud mwy i ofalu am y tîm hefyd, gan ddatblygu swyddfa newydd iddyn nhw gyda chegin ac ystafell lesiant, fel y gallai'r tîm gael prydau poeth a lle tawel i fyfyrio a gorffwys.
Yn sgil gwaith caled, gweledigaeth ac ymroddiad Tracey, mae Abicare yn helpu mwy o bobl nag erioed yn Sir Fynwy a'r cyffiniau erbyn hyn.
Dywed Jinson fod Tracey “wedi creu amgylchedd sy'n hapus, cynhyrchiol a chydweithredol. Mae hi'n arwain drwy esiampl... Mae'r newid yn ein tîm yng Nghymru wedi bod yn wirioneddol syfrdanol.”
Gwobr Gofalwn Cymru
Noddir gan Gofalwn Cymru
Mae'r wobr hon yn dathlu gofal cymdeithasol a gweithwyr gofal plant a blynyddoedd cynnar sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol eithriadol i fywydau pobl.
Enillydd:
- Christel Hay, gweithiwr gofal cartref yn Abicare ym Mhont-y-pŵl
Enwebwyd gan: Tracey Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gofal Cymru ac Unigolyn Cyfrifol yn Abicare
Roedd Christel, sy'n 79 oed, wedi ymddeol unwaith yn barod cyn iddi ymuno ag Abicare fel gweithiwr gofal cartref, gan deimlo bod ganddi fwy i'w gynnig.
Ers hynny, mae hi wedi ennill parch ac edmygedd gan ei chydweithwyr a'i chleientiaid, gan ddod yn adnabyddus am adeiladu ymddiriedaeth a pherthynas dda gyda phawb mae hi'n gweithio gyda nhw.
Mae ei doniau yn y maes hwn yn golygu ei bod hi'n gallu darparu gofal personol i bobl sydd wedi ei wrthod o'r blaen, drwy ddangos iddyn nhw eu bod nhw'n gallu ymddiried yn y rhai o'u cwmpas. Mae hyn yn golygu bod yr unigolyn yn cael y gofal sydd ei angen arno, ac mae ei deulu'n cael rhywfaint amser i'w hunain.
Blaenoriaeth Christel bob amser yw diogelwch a llesiant ei chleientiaid, ac mae’n mynd y filltir ychwanegol iddyn nhw fel arfer. Mae Christel wedi ymladd drwy'r eira hyd yn oed i wneud yn siŵr bod ei chleientiaid yn cael gofal.
Dywed Tracey Jenkins, a enwebodd Christel, ei bod yn “enghraifft ddisglair o fod yn ofalwr”, ac mae pob aelod newydd o staff yn Abicare yn cael eu hanfon allan i'w chysgodi pan fyddan nhw'n dechrau.
Ychwanegodd Tracey bod Christel yn “unigryw” ac yn “ysbrydoli eraill o'i chwmpas i ragori yn yr hyn maen nhw'n ei wneud ac yn gosod y meincnod i bawb arall yn ei thîm”.
Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a derbyn cymeradwyaeth uchel:
- Finlay Murphy, gofalwr yn y cartref yn Right at Home Cardiff & Newport, yng Nghaerdydd
Enwebwyd gan: Holly Jones, Cyfarwyddwr Gofal yn Right at Home Cardiff & Newport
Mae'r gofalwr yn y cartref Finlay wedi cael ei disgrifio fel “un o'n gofalwyr mwyaf poblogaidd yn y gymuned” sy'n “gweithio'n ddiflino i wella'r ddarpariaeth ofal”.
Mae’n llawn tosturi ac empathi, ac eisiau'r gorau i'w chleientiaid bob amser.
Er enghraifft, sicrhaodd Finlay bod gan ei chleientiaid offer gwell fel eu bod yn gallu parhau’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach. Llwyddodd i drefnu diwrnod allan cofiadwy i un o'i chleientiaid mewn canolfan gwylio adar hefyd.
Mae Finlay wedi gallu defnyddio’r sgiliau o'i hyfforddiant i achub bywyd cleient hyd yn oed, gan sylwi’n gywir, er gwaethaf sicrwydd gan eraill, bod angen triniaeth frys ar gyfer sepsis.
Bydd Finlay’n mynd y filltir ychwanegol i helpu bob amser ac mae Holly’n dweud bod Finlay “yn gwirioneddol garu a gofalu am bawb o'i chwmpas”.
Ychwanegodd Holly: “Mae Finlay’n eiriolwr ardderchog dros y sector, gan ddadlau'n angerddol am newidiadau cadarnhaol i'w chleientiaid a'i thîm” a “phe bai unrhyw un ohonom ni’n chwilio am rywun sy'n rhoi gofal perffaith i'n hanwyliaid ein hunain, byddai Finlay ar frig y rhestr”.
- Judith Prothero, Rheolwr Cofrestredig gyda Gwasanaethau Preswyl i Blant, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Enwebwyd gan: Mandy Meredith, Unigolyn Cyfrifol am Wasanaethau Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Pan gafodd person ifanc oedd â thrawma plentyndod cynnar a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ei leoli yn y cartref preswyl i blant roedd Judith yn ei reoli, ymrwymodd Judith i roi cartref diogel a sefydlog iddo.
Roedd y person ifanc wedi bod mewn sawl lleoliad aflwyddiannus dros rai blynyddoedd, ac wedi cael problemau gyda’r heddlu a'r system gyfiawnder troseddol.
Mae Judith wedi arwain tîm sydd wedi gweithio'n ddiwyd i sicrhau cysondeb i'r person ifanc hwn, ar ddiwrnodau da a drwg, gan roi sefydlogrwydd, tosturi, ymddiriedaeth ac ymrwymiad i'r person ifanc.
Mae Judith wedi gosod ffiniau a disgwyliadau ar gyfer ymddygiad, ac wedi buddsoddi yn llesiant y person ifanc. Mae hi wedi profi i’r person ifanc ei fod yn gallu newid pethau er gwell.
Mae'r gwaith caled yma'n golygu mai lleoliad y person ifanc yn y cartref yw'r un hiraf yno ers dros bedair blynedd.
Meddai Mandy “heb angerdd ac ymrwymiad Judith i'r person ifanc hwn, bydden nhw wedi cael canlyniadau gwael a... fyddai wedi arwain at droseddu pellach”.
Meddai’r person ifanc: “Dwi eisiau diolch i Judith a Thŷ Brynna am beidio troi cefn arna i ac mae wedi bod yn braf cael cartref gwych.”
Ein noddwyr
Blake Morgan
Noddwr ‘Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd’.
Sefydlwyd Blake Morgan yn 2014 yn sgil uno Blake Lapthorn a Morgan Cole LLP. Mae’n cynnig dewis o 70 o wasanaethau cyfreithiol i gleientiaid masnachol a phreifat ar draws sawl sector, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae gan Blake Morgan 126 o bartneriaid, 400 o gyfreithwyr a mwy na 1,000 o aelodau staff mewn chwe lleoliad ar draws y Deyrnas Unedig, ac mae ganddo ymrwymiad cryf i wneud gwahaniaeth.
Data Cymru
Noddwr ‘Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu’.
Mae Data Cymru yn cynnig ystod o gymorth arbenigol sydd wedi’i gynllunio i helpu pobl i ddod o hyd i ddata a’i ddefnyddio’n effeithiol. Mae hyn yn cynnwys helpu i ddod o hyd i, casglu neu goladu data, dadansoddi data, cyflwyno data yn effeithiol a llawer mwy. Ei ffocws strategol yw: “rhoi data a deallusrwydd wrth wraidd darparu gwasanaethau cyhoeddus”.
Mae Data Cymru yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau bod data yn diwallu anghenion ei gynulleidfa trwy gynrychioli barn llywodraeth leol yng Nghymru ynghylch materion fel y Cyfrifiad, a data poblogaeth ac ymfudo. Mae ganddo hefyd gyfoeth o ddata sydd ar gael mewn mapiau, tablau ac adroddiadau yn ei system genedlaethol Info Base Cymru.
Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Noddwr ‘Cefnogi gofalwyr di-dâl’.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweithredu fel catalydd i ysgogi arloesi a chydweithio rhwng diwydiant, iechyd, gofal cymdeithasol a’r byd academaidd – gan helpu i wneud Cymru yn lle o ddewis ar gyfer arloesi ym maes iechyd, gofal a llesiant.
Mae’n cyflymu’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu atebion arloesol i gefnogi anghenion iechyd a gofal cymdeithasol Cymru, ac yn partneru â diwydiant i hybu datblygiad economaidd ar draws y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru, gan ysgogi twf busnes a chreu swyddi.
Mae'r tîm yn darparu cymorth arloesi pwrpasol, o gefnogi clinigwyr gyda chynnyrch neu wasanaeth arloesol, i hwyluso partneriaethau gyda sefydliadau gwyddorau bywyd rhyngwladol.
Mae hefyd yn rheoli prosiect gwerthuso a mabwysiadu arloesedd, rhannu gwybodaeth, yn cynnig arweiniad ariannu a chyfeirio, ac yn annog ymgysylltu rhwng diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol.
Gofalwn Cymru
Noddwr y 'wobr Gofalwn Cymru'.
Mae Gofalwn Cymru yn fenter amlgyfrwng fawr ddwyieithog a ddatblygwyd gan Ofal Cymdeithasol Cymru, gan weithio ag ystod eang o sefydliadau cenedlaethol a lleol sy’n ymwneud â gwahanol agweddau o ofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Ei nod yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant a denu mwy o bobl sydd â’r sgiliau a’r gwerthoedd cywir i weithio mewn rolau gofalu gyda phlant ac oedolion.
Nod Gofalwn Cymru yw dangos yr amrywiaeth o rolau a chyfleoedd dilyniant gyrfa sydd ar gael. Trwy ddefnyddio gweithwyr gofal go iawn, mae’n canolbwyntio ar yr heriau sy’n eu hwynebu, yn ogystal â’r hyn sy’n gwneud eu gwaith yn wobrwyol ac yn werth chweil.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.