0:10 Mae Llwybr at Waith yn gymhelliant yr ydym yn hynod falch ohono ym Merthyr Tudful.
0:14 Dyma ein llwybr tuag at gefnogi ein pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal
0:17 ar eu taith i gyflogaeth a chyfleoedd gwaith.
0:21 Mae rhaglen Llwybr at Waith yn brosiect trawsadrannol o fewn yr awdurdod lleol.
0:25 Mae'n eithaf arloesol yn ei agwedd.
0:26 Erioed wedi ei wneud o'r blaen.
0:28 Felly mae’r tîm cyflogadwyedd, fel rhan o ddatblygiad economaidd,
0:30 a’r adran Gwasanaethau Plant wedi dod at ei gilydd i greu’r prosiect enfawr hwn.
0:35 Rydyn ni'n cydnabod bod gan lawer o’n plant sy’n derbyn gofal dalent anhygoel,
0:39 ond mewn gwirionedd trwy eu profiadau cyn-ofal, mae ganddyn nhw rai anghenion cymorth ychwanegol
0:43 sy’n gofyn am lwybr mwy dwys.
0:45 Drwy’r rhaglen Llwybr at Waith, rydyn ni'n cyflawni hynny.
0:47 Hyd yn oed i'r rheini nad ydynt wedi bod mewn gofal,
0:49 mae'n teimlo bod ganddyn nhw'r rhwystrau o hyd
0:50 i fethu â chael rhywbeth cystal â hyn ar eu CV, profiad sydd mor dda â hyn.
0:54 Felly mae hynny wedi gwthio heibio
0:56 unrhyw beth y gallwn fod wedi gobeithio amdano mewn gwirionedd.
0:59 Mae'n grêt.
1:00 Yr hyn rydw i'n ei fwynhau'n fawr ynglŷn â
1:02 lle rydw i'n gweithio yw'r ffaith fy mod i'n gallu ymuno
1:04 â chyfarfodydd pwysig
1:06 sy'n seiliedig ar
1:08 drafodaeth ar gyfer creu newid ac effaith mewn gwirionedd.
1:11 Ac rydw i wedi gallu gwneud hynny, sy'n anhygoel.
1:14 Er enghraifft, fe enillon ni wobr y diwrnod o'r blaen
1:16 ac roedd hynny'n wych oherwydd mae'r cyfan
1:20 yn seiliedig ar yr holl newidiadau sy'n digwydd
1:21 a'r ffaith fy mod i'n rhan o hynny.
1:23 Rwyf wrth fy modd am y rhesymau hynny.
1:25 Rwy'n falch iawn o'r prosiect Llwybr at Waith, yn enwedig y cynllun ILM.
1:29 Mae wedi bod yn drawsnewidiol iawn ym mywydau
1:31 rhai o’n pobl ifanc sydd wedi dod
1:33 o gefndiroedd difreintiedig ac sydd wedi cael profiadau trawmatig,
1:37 mae wedi cynyddu eu hunanhyder, eu hunangred,
1:40 a hefyd fel cyflogwr lleol, mae wedi cynyddu ein gwybodaeth am
1:43 y rhwystrau a wynebir gan ein pobl ifanc
1:45 a’n cyfrifoldebau rhianta corfforaethol i’r rhai sydd yng
1:48 ngofal yr awdurdod lleol.