0:10 Mae Prosiect Cefnogi Gofalwyr Ifanc wedi’i leoli ar draws Gwynedd a Môn.
0:16 Mae'n unigryw oherwydd rydyn ni'n cefnogi'r ddau ardal efo'i gilydd,
0:20 ac yn gwneud y mwyaf o'r adnoddau sydd gennym ni fel dau lleoliad i'n helpu i gefnogi gofalwyr ifanc.
0:26 Dechreuodd Llywodraeth Cymru gynllun i ddod i adnabod gofalwyr ifanc yn y gymuned a daeth cerdyn adnabod allan yn gyntaf,
0:34 a fe ddechreuon ni yng Ngwynedd a Môn feddwl am ap i gyd-fynd efo’r cerdyn.
0:38 Mae'r ap yn ofnadwy o unigryw achos mae o ar gael yn y Gymraeg.
0:42 Pan fydd y plant yn defnyddio’r ap,
0:44 gallant anfon neges
0:46 at eu person cymorth yn yr ysgol
0:49 i adael iddyn nhw wybod pa gymorth maen nhw angen ar y pryd.
0:52 Os yw'n help gyda gwaith ysgol neu os ydyn nhw angen siarad â rhywun.
0:56 Ac mae defnyddio'r ap yn golygu nad oes rhaid iddyn nhw esbonio
0:59 eu stori drosodd a throsodd
1:00 ac efallai cael eu holi amdano.
1:03 Mae yna lawer o ofalwyr ifanc cudd allan yna,
1:06 a’r hyn rydyn ni’n gobeithio ei wneud
1:08 drwy godi ymwybyddiaeth o’r ap a’r cerdyn adnabod
1:11 yw dod o hyd i’r gofalwyr ifanc cudd hynny
1:14 a rhoi’r gydnabyddiaeth sydd ei hangen arnyn nhw.
1:16 Yn yr ysgol cyn i mi gael y cerdyn adnabod
1:18 pryd bynnag y byddwn yn hwyr i'r ysgol heb reswm,
1:21 pan fyddai'n ymwneud â gofalu,
1:23 byddwn mewn trwbwl. Ond pan gefais y cerdyn
1:25 roedd yn llawer haws
1:27 oherwydd roedd yn hawdd fflachio'r cerdyn at fy athrawon
1:30 a byddai'r athrawon yn deall y sefyllfa.
1:33 Heb yr ap byddai'n anodd
1:35 oherwydd byddai'n rhaid i mi
1:37 fynd i ddisgrifio i'r athrawon pam roeddwn i'n hwyr.
1:40 Mae wedi newid fy mywyd.
1:42 Mae'n llawer haws disgrifio i'r ysgol.
1:44 Un o’r pethau rydyn ni’n ei wneud yw cynnig grwpiau gofalwyr ifanc
1:48 lle gall gofalwyr ifanc gyfarfod y tu allan yn y gymuned
1:52 gyda gofalwyr ifanc eraill o oedran tebyg,
1:54 gan gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd o ddiddordeb iddyn nhw.
1:57 Allwn ni ddim newid amgylchiadau gartref iddyn nhw,
2:00 ond gallwn ni geisio gwneud bywyd ychydig yn haws
2:02 a gwneud yn siŵr eu bod yn cael plentyndod.