Ymarferwyr Grŵp D yw’r rhai sy’n gweithredu ar lefel uwch yn y broses ddiogelu.
Mae’n rôl strategol fel arfer, ond efallai y caiff rhai cyfrifoldebau eu dirprwyo i ymarferwyr arbenigol Grŵp C.
Maent yn rhoi cyngor, arweiniad a goruchwyliaeth (pan fo angen) i eraill yn eu sefydliad.
Efallai y bydd gan rai ymarferwyr grŵp D gyfrifoldebau sy’n rhan o safonau grŵp E.
Os yw hyn yn wir, mae angen i ymarferwyr hyfforddi i safonau grŵp E fel y gallant baratoi ar gyfer eu rôl.
Bydd ymarferwyr Grŵp D yn:
- meddu ar lefel uchel o wybodaeth ac arbenigedd ym maes diogelu yn eu maes gwaith
- cyfrannu at Adolygiad Diogelu Unedig Sengl a chadeirio adolygiadau pan fo angen
- gweithredu fel adolygydd neu aelod o banel ar gyfer Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl
- gallu rhoi cyngor diogelu i asiantaethau partner a deall pwysigrwydd gweithio aml-asiantaeth
- gallu cyfiawnhau eu penderfyniadau gan ddefnyddio deddfwriaeth, prosesau a gweithdrefnau, gan wneud yn siŵr bod pawb yn osgoi gwneud rhagdybiaethau
- ymwybodol o bwysigrwydd ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn/person a'r effaith gadarnhaol y gall ei chael ar y broses ddiogelu
- sicrhau bod llais y person yn cael ei glywed a'i hybu mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
Bydd asiantaethau statudol fel arfer yn nodi ymarferwyr grŵp D gan fod ganddynt bwerau gwneud penderfyniadau lefel uwch ar gyfer diogelu.
Mae rhai o'r rolau yn cynnwys:
- rheolwyr llinell gweithredol (rheolwyr gwasanaeth)
- rolau diogelu arbenigol
- rolau cadeirydd ar gyfer gwaith diogelu. (Er enghraifft: ar adolygiadau.)
Dylid rhoi pwyslais ar waith aml-asiantaeth a gweithio gydag eraill, gan nad oes rôl gyfatebol mewn llawer o asiantaethau.
Mae'r rôl yn cynnwys:
- deall yr hyn sydd ei angen o ymateb strategol, aml-asiantaeth
- gallu cydweithio ag asiantaethau eraill, a'u cynghori ynghylch prosesau ac arferion diogelu, amddiffyn plant ac oedolion
- nodi a chyfrannu at brosesau Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu'r Cyhoedd (MAPPA) a Chynhadledd Asesu Risg Amlasiantaethol (MARAC), a'r ystod o gyfranogiad arbenigol amlasiantaethol
- gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill i nodi a lledaenu dysgu a chodi ymwybyddiaeth o arfer gorau, priodol
- helpu i ddatblygu a hyrwyddo cymunedau ymarfer diogelu aml-asiantaeth
- cefnogi, hyrwyddo ac eiriol dros hyfforddiant priodol, safonau hyfforddi, dulliau darparu hyfforddiant, mewn gweithluoedd aml-asiantaeth yn y maes y maent yn gweithio ynddo
- gweithio gyda'r byrddau diogelu a chefnogi nodau diogelu rhanbarthol, aml-asiantaeth
- bod yn rhan o drefniadau llywodraethu rhanbarthol aml-asiantaeth, sicrhau ansawdd, monitro perfformiad a chydymffurfio.
Egwyddorion cofiadwy
- Byddaf yn arwain agenda diogelu’r sefydliad.
- Byddaf yn sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed ar bob cam o’r broses.
- Byddaf yn defnyddio fy ngwybodaeth a'm harbenigedd i wella arferion diogelu.
Yn ôl y safonau, mae angen i bobl yng ngrŵp D:
- wybod sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod
- hyrwyddo arfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn a'r person
- gymryd rhan mewn prosesau diogelu
- gefnogi eraill i ddiogelu pobl
- weithio gydag eraill i ddiogelu pobl
- gynnal atebolrwydd proffesiynol.