Mae ymarferwyr Grŵp A i gyd yn staff sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli mewn sefydliad neu asiantaeth sector cyhoeddus neu wirfoddol yng Nghymru.
Mae hyn yn cynnwys:
- y rhai mewn lleoliadau sector preifat
- gwirfoddolwyr
- aelodau etholedig awdurdodau lleol.
Y cymhwysedd ar gyfer y grŵp hwn yw i bob ymarferwr a gwirfoddolwr:
- feddu ar ddealltwriaeth am ddiogelu
- wybod beth sydd angen iddyn nhw, ac eraill, ei wneud
- wybod eu cyfrifoldeb i rannu pryderon am niwed, cam-drin neu esgeulustod gwirioneddol neu bosibl.
Dylid cwblhau hyfforddiant Grŵp A cyn hyfforddiant ar gyfer y grwpiau eraill, oni bai bod cynnwys llawn hyfforddiant grŵp A wedi’i gynnwys yn yr hyfforddiant a ddarperir mewn ffyrdd eraill.
Egwyddorion cofiadwy
- Rydw i’n gwybod beth mae'r term diogelu yn ei olygu.
- Rydw i’n gwybod beth i gadw llygad amdano.
- Rydw i’n gwybod pwy i’w hysbysu.
Yn ôl y safonau, dylai pobl yng ngrŵp A wybod:
- sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod
- am y ffactorau, sefyllfaoedd a gweithredoedd a allai arwain neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
- sut i hysbysu, ymateb a chofnodi pryderon neu honiadau sy'n ymwneud â diogelu.