Safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol - grŵp A.
Pwyntiau pwysig i’w nodi
Mae’r safonau hyn yn cyfeirio at rai rolau enghreifftiol, ond nid ydynt yn nodi’r holl rolau a chyfrifoldebau ar draws y sector. Felly, dyletswydd sefydliadau yw nodi o fewn eu gweithlu eu hunain, pa rolau sy’n gweddu i grwpiau penodol.
Wrth bennu hyfforddiant, dysgu a datblygu priodol ar gyfer pob aelod staff, bydd angen i’r sefydliad sicrhau bod yr aelod staff wedi ei osod yn y grŵp sy’n briodol ar ei gyfer.
Os yw sefydliadau neu reolwyr yn ansicr pa grŵp yw’r un priodol, ac os yw’r rôl yn perthyn i fwy nag un grŵp, disgwylir i’r ymarferydd gael ei hyfforddi yn y grŵp uwch. Er enghraifft, os yw gweithiwr yn perthyn i grŵp B ac C, dylid ei hyfforddi ar lefel grŵp C.
Rolau a chyfrifoldebau
Mae ymarferwyr grŵp A i gyd yn staff sy'n ymuno â sefydliad neu asiantaeth yn y sector cyhoeddus neu'r sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae'r safonau hyfforddi hefyd yn addas ar gyfer y rhai mewn lleoliadau sector preifat, gwirfoddolwyr ac aelodau etholedig awdurdodau lleol.
Nod y safonau yw rhoi dealltwriaeth i chi o ddiogelu a'r hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud mewn achosion o niwed neu gamdriniaeth wirioneddol neu bosibl.
Wrth edrych ar y safonau ar draws y grwpiau, efallai y bydd yn edrych fel eu bod yn cael eu hailadrodd. Fodd bynnag, bydd angen i ymarferwyr mewn gwahanol grwpiau gael gwybodaeth a dealltwriaeth fanylach oherwydd y cyfrifoldebau sydd ganddynt. Felly, bydd yr hyfforddiant, dysgu a datblygu a ddarperir ar gyfer pob grŵp yn archwilio'r un pynciau yn fanylach. Bydd y fframwaith hyfforddi, dysgu a datblygu yn helpu i ddangos hyn.
Dylai ymarferwyr sydd wedi'u cynnwys yng ngrŵp A fod yn ymwybodol o faterion diogelu ac felly mae'r safonau yn y grŵp hwn wedi'u pennu i adlewyrchu'r lefel ofynnol o wybodaeth ac ymarfer sydd eu hangen ar gyfer eu rôl. Er enghraifft, bydd ymarferydd grŵp A yn ymwybodol bod yna gyfraith sy'n diogelu pobl.
- Rwy’n gwybod beth yw ystyr y term diogelu
- Rwy’n gwybod beth i gadw llygad arno
- Rwy’n gwybod pwy ddylai gael gwybod.
Safonau hyfforddi, dysgu a datblygu (grŵp A)
a) Sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag cael eu cam-drin, eu niweidio a'u hesgeuluso.
- Beth mae’r term 'diogelu’ yn ei olygu.
- Y prif gategorïau o gamdriniaeth ac esgeulustod.
- Arwyddion a symptomau cyffredin sy'n gysylltiedig â cham-drin, niwed ac esgeulustod.
- Meysydd risg[1] sefyllfaol eraill a allai arwain at gam-drin, niweidio ac esgeulustod.
- Trosolwg o'r fframwaith cyfreithiol a'r hyn y mae'n ei olygu'n ymarferol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o Ran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’u polisi asiantaethol eu hunain.
- Sut mae'r fframwaith cyfreithiol yn cefnogi hawliau pobl i gael eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin, eu niweidio a’u hesgeuluso.
- Rolau asiantaethau amrywiol ac eraill sy'n ymwneud â diogelu lles pobl, yng nghyd-destun y lleoliad.
- Rôl a chyfrifoldebau ymarferwyr ym maes diogelu.
- Cynnal hawliau pobl, teuluoedd a gofalwyr.
b) Y ffactorau, y sefyllfaoedd a'r camau gweithredu a allai arwain neu gyfrannu at achosion o gam-drin, niweidio neu esgeulustod.
- Pam y gall rhai pobl fod mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso.
- Sut y gall sefyllfa rhywun gynyddu'r risg o gael eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso, er enghraifft, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
- Pam nad yw camdriniaeth, o bosibl, yn cael eu datgelu gan bobl, teulu, ffrindiau neu ymarferwyr, yn cynnwys gwirfoddolwyr.
c) Sut i ymateb a chofnodi a rhoi gwybod am bryderon neu honiadau sy'n ymwneud â diogelu.
- Pam ei bod yn bwysig rhoi gwybod am unrhyw bryderon am achosion posibl o gam-drin, niweidio neu esgeuluso ac yn ddyletswydd ar bawb i wneud hyn.
- Sut a phryd y dylid rhoi gwybod am bryderon – dylech ddeall proses neu fecanweithiau adrodd eich asiantaeth neu’ch cyflogwr.
- Beth yw’r pethau y dylid rhoi gwybod amdanynt a'u cofnodi.
- Sut i ymateb i amheuon, datgeliadau neu honiadau o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod.
- Camau i'w cymryd a chamau i'w hosgoi os oes amheuon, datgeliadau neu honiadau o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod.
- Ffiniau cyfrinachedd[2] mewn perthynas â diogelu a gwybodaeth y mae'n rhaid ei rhannu.
- Pethau sy’n gallu rhwystro rhywun rhag rhoi gwybod neu godi pryderon.
- Camau i'w cymryd pan fo pryderon parhaus am gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod neu os nad yw pryderon wedi cael sylw ar ôl rhoi gwybod amdanynt.
- Beth mae'r term 'chwythu'r chwiban' yn ei olygu.
[1] Gall meysydd risg gynnwys e-ddiogelwch a cham-drin domestig.
[2] Caldicott Principles: Eight principles to make sure people's information is kept confidential and used appropriately. National Data Guardian, 2020