Jump to content
Egwyddorion cofiadwy

Safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu cenedlaethol: egwyddorion cofiadwy

I bawb

  • Mae diogelu yn gyfrifoldeb i bawb

Grŵp A

  • Rwy’n gwybod beth yw ystyr y term diogelu
  • Rwy’n gwybod beth i gadw llygad amdano
  • Rwy’n gwybod i bwy y dylwn roi gwybod

Grŵp B

  • Rwy’n rhan allweddol o'r broses ddiogelu
  • Rwy'n gwybod pryd, sut ac i bwy y dylwn roi gwybod
  • Byddaf yn sicrhau bod llais yr unigolyn yn cael ei glywed

Grŵp C

  • Rwy’n deall bod llais a rheolaeth pobl yn allweddol i'r broses o wneud penderfyniadau – ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn/person
  • Rwy’n deall rolau a chyfrifoldebau pawb yn y broses ddiogelu
  • Rwy’n dangos y gallu i wneud penderfyniadau clir a chymesur

Grŵp D

  • Byddaf yn arwain agenda ddiogelu'r sefydliad
  • Byddaf yn sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed ar bob cam o'r broses
  • Byddaf yn defnyddio fy ngwybodaeth a'm harbenigedd i wella arferion diogelu

Grŵp E

  • Rwy’n goruchwylio’n strategol yr holl faterion diogelu o fewn y sefydliad
  • Byddaf yn ceisio sicrhau bod gennym ddigon o adnoddau i gyflawni dyletswyddau diogelu'r sefydliad
  • Byddaf yn defnyddio fy ngwybodaeth a'm dylanwad i wella arferion diogelu yn rhanbarthol ac yn genedlaethol

Grŵp F

  • Rwy’n rhoi arweiniad sy'n cwmpasu diogelu yn y sector cyhoeddus ac sy'n hyrwyddo gwaith amlasiantaethol bob amser
  • Rwy’n deall elfennau craidd diogelu a pham mae hwn yn faes pwysig
  • Rwy’n cael arweiniad a sicrwydd gan ymarferwyr grŵp E ar feysydd sy'n peri pryder
Cyhoeddwyd gyntaf: 21 Hydref 2022
Diweddariad olaf: 2 Hydref 2023
Diweddarwyd y gyfres: 28 Hydref 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (29.6 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (248.7 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch