Jump to content
Ynglŷn â'r safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol

Rydyn ni wedi bod yn arwain ar y gwaith i ddatblygu'r safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn arwain y gwaith o ddatblygu'r safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol.

Mae'r safonau wedi'u cyd-gynhyrchu gan grŵp datblygu cenedlaethol amlasiantaethol yn ogystal â grwpiau eraill sydd wedi canolbwyntio ar agweddau penodol ar y gwaith.

Datblygwyd y safonau oherwydd:

  • nad oedd unrhyw safonau cenedlaethol, amlasiantaethol ar gyfer hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol
  • bod diffyg cysondeb o ran dylunio, cynnwys a darparu hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu ar draws sefydliadau yng Nghymru
  • bod dryswch ynghylch y lefelau priodol o hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu ar gyfer y gweithlu.

Bydd y safonau'n helpu sefydliadau i sicrhau:

  • eu bod yn ymgorffori'r safonau ar gyfer ymarferwyr yn eu polisïau a'u gweithdrefnau diogelu
  • bod ymarferwyr yn deall eu cyfrifoldebau sy'n berthnasol i'r grŵp y maent yn perthyn iddo a sut i ddilyn y polisïau a'r gweithdrefnau perthnasol
  • bod Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar gael i bob ymarferydd a’u bod yn cydymffurfio â nhw.

Ar gyfer pwy mae'r safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu?

Mae'r safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y meysydd canlynol:

  • awdurdodau lleol
  • gofal cymdeithasol
  • blynyddoedd cynnar a gofal plant
  • iechyd
  • yr heddlu
  • addysg
  • prawf
  • arolygiaethau
  • sefydliadau'r trydydd sector a'r sector annibynnol
  • darparwyr sydd wedi’u comisiynu
  • asiantaethau neu sefydliadau sy'n gweithio gyda'r holl wasanaethau uchod.

Mae’n hollbwysig bod pob asiantaeth yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn sicrhau diogelu effeithiol ac mae'r safonau'n annog hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu amlasiantaethol lle bynnag y bo modd.

Mae cyfoeth o wybodaeth i'w hennill drwy gael eich hyfforddi ochr yn ochr â phartneriaid amlasiantaethol, a all arwain at fwy o gydweithio a gwell canlyniadau i bobl. Mae egwyddorion diogelu a'r gwerthoedd sy'n gysylltiedig â hyn yr un fath i bawb.

Pwyntiau pwysig i’w nodi

Bydd y pwyntiau canlynol yn cael eu hailadrodd yn y safonau yn yr adrannau perthnasol.

  1. Mae’r safonau hyn yn cyfeirio at rai rolau enghreifftiol, ond nid ydynt yn nodi’r holl rolau a chyfrifoldebau ar draws y sector. Felly, dyletswydd sefydliadau yw nodi o fewn eu gweithlu eu hunain, pa rolau sy’n gweddu i grwpiau penodol.

    Wrth bennu hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu priodol ar gyfer pob aelod staff, bydd angen i’r sefydliad sicrhau bod yr aelod staff wedi ei osod yn y grŵp sy’n briodol ar ei gyfer.

    Os yw sefydliadau neu reolwyr yn ansicr pa grŵp yw’r un priodol, ac os yw’r rôl yn perthyn i fwy nag un grŵp, disgwylir i’r ymarferydd gael ei hyfforddi yn y grŵp uwch. Er enghraifft, os yw gweithiwr yn perthyn i grŵp B ac C, dylid ei hyfforddi ar lefel grŵp C.

  2. Drwy’r safonau i gyd, disgwylir i bob ymarferydd sy’n cychwyn mewn rôl newydd o grŵp B ymlaen fod wedi cwblhau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu yn y grwpiau blaenorol cyn cychwyn y rôl.

    Fel arall, dylid ei gefnogi i gwblhau’r hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu yn ystod chwe mis cyntaf ei gyfnod sefydlu neu o fewn amserlen y cytunwyd arni gyda'u rheolwr neu sefydliad comisiynu.

  3. Yn y grwpiau C i E, disgwylir i ymarferwyr wneud hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cyffredinol a hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu sy’n benodol i’r rôl. Bydd yr adran gyffredinol yn cynnwys hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu y dylai pob ymarferydd yn y grwpiau hyn ei gwblhau beth bynnag yw eu rôl neu’r sefydliad.

    Yn ogystal â’r hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cyffredinol, fodd bynnag, bydd angen cytuno’n ffurfiol pa hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu sy’n benodol i’r rôl fel rhan o gynllun hyfforddi, dysgu a datblygu personol yr unigolyn a bydd yn adlewyrchu elfennau penodol o’i rôl a’i gyfrifoldebau.

Y termau rydym ni wedi'u defnyddio

Mae'r term 'diogelu pobl' yn cynnwys plant, pobl ifanc hyd at 18 oed ac oedolion sydd mewn perygl.

Rydym wedi defnyddio'r term 'ymarferydd' yn y safonau fel eu bod yn cyd-fynd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Rydym wedi rhannu'r safonau yn chwe grŵp (A i F) sy'n adlewyrchu rolau a chyfrifoldebau pobl a allai fod yn ymwneud ag ymarfer diogelu.

Dewisodd y grŵp Datblygu Safonau Diogelu Cenedlaethol amlasiantaethol y term 'grwpiau' a chytunodd y bydd y grwpiau'n gyson â'r lefelau a nodir yn y rolau a'r cymwyseddau ar gyfer staff gofal iechyd (plant ac oedolion). Felly mae grŵp A, er enghraifft, yn cyfateb i Lefel 1.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y termau rydym wedi'u defnyddio yn yr eirfa.

Sut mae'r safonau wedi'u trefnu

Diben y safonau hyn yw sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cyson o ansawdd da sy'n berthnasol i'w rôl a'u cyfrifoldebau, ac y gallwn ni, fel ymarferwyr, ddiogelu pobl hyd eithaf ein gallu.

Os yw ymarferydd yn perthyn i:

  • Grŵp A – mae’r grŵp hwn ar gyfer pawb. Mae angen iddynt gael ymwybyddiaeth ar lefel sylfaenol o ddiogelu a gwybod sut i roi gwybod am bryder
  • Grŵp B – mae’r grŵp hwn ar gyfer pobl sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phobl. Dylent fod â gwybodaeth uwch am ddiogelu, gwybod â phwy i siarad os ydynt yn sylwi bod rhywbeth o'i le a sut i roi gwybod am bryder
  • Grŵp C – mae’r grŵp hwn ar gyfer pobl sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phobl ac sydd gyda chyfrifoldebau diogelu penodol. Mae angen iddynt allu ymateb i bryderon diogelu.

Y grwpiau eraill yw:

  • Grŵp D – mae’r grŵp hwn yn bennaf ar gyfer asiantaethau statudol sydd â phwerau gwneud penderfyniadau lefel uwch
  • Grŵp E – mae’r grŵp hwn yn bennaf yn cynnwys personél gwasanaethau cymdeithasol mewn rolau arwain strategol, ynghyd â'u partneriaid statudol allweddol
  • Grŵp F – mae’r grŵp hwn yn cynnwys pob arweinydd yn y sector cyhoeddus.

Mae'r safonau'n berthnasol i bobl o bob oed, ond rydym yn sylweddoli y bydd rhai ymarferwyr yn arbenigo mewn gweithio gydag oedolion neu blant. Caiff hyn ei gydnabod yn y fframwaith hyfforddi sy'n cyd-fynd â'r safonau hyn.

Gall gwaith diogelu fod yn emosiynol ac anodd ac felly mae'r safonau'n tanlinellu'r angen i gefnogi ymarferwyr a hyrwyddo eu lles.

Heb gefnogaeth, gall ymarferwyr orweithio, a dioddef blinder tosturiol, trawma eilaidd a straen difrifol. Gall hyn arwain at salwch ymhlith y staff, staff yn gadael eu rôl a diffyg parhad a chysondeb i gleientiaid sy’n aml yn wynebu'r perygl mwyaf.

Ceir enghreifftiau o arferion diogelu rhagorol ledled Cymru, ac rydym yn annog pobl i rannu arferion da. Ewch i wefan eich Bwrdd Diogelu Rhanbarthol i gael rhagor o wybodaeth am hyn.

Adeiladu gwybodaeth

Mae'r safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu wedi'u hysgrifennu mewn modd sy’n dangos beth y mae disgwyl i bob ymarferydd ei wneud wrth gyflawni ei ddyletswydd diogelu.

Bydd gan bob grŵp o ymarferwyr gyfrifoldebau gwahanol. Bydd cyfleoedd hyfforddi, dysgu a datblygu yn cyfateb i rôl yr ymarferydd fel ei fod wedi'i baratoi'n dda ac yn meddu ar y sgiliau i gyflawni ei rôl.

Wrth edrych ar y safonau ar draws y grwpiau, gall ymddangos yn ailadroddus, ond bydd angen i ymarferwyr mewn gwahanol grwpiau fod â gwybodaeth a dealltwriaeth fanylach oherwydd y cyfrifoldebau sydd ganddynt.

Felly, bydd yr hyfforddiant a ddarperir ar gyfer pob grŵp yn archwilio'r un pynciau yn fanylach. Dyma rai ohonynt:

  • y gyfraith a'r fframwaith cyfreithiol
  • rolau gwahanol asiantaethau a gwaith amlasiantaethol.

Disgwylir y bydd y rhan fwyaf o ymarferwyr yn cwblhau e-ddysgu grŵp A (neu gymhwyster cyfatebol) ar ryw adeg yn eu gyrfa. Gall sefydliadau a rheolwyr neu cyflogwyr osod gofynion o fewn eu sefydliad i gwblhau'r modiwl hwn.

Hyfforddiant gloywi

Pan fydd ymarferwyr wedi cwblhau'r hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu sy'n ofynnol ar gyfer y safonau sy'n gysylltiedig â'u rôl, byddant yn parhau â'u hyfforddiant gloywi diogelu yn unol â'u rôl a'u cyfrifoldebau ar gyfer y grŵp hwnnw.

Er enghraifft, bydd ymarferwyr grŵp C sydd wedi cwblhau eu hyfforddiant, dysgu a datblygu craidd yn ystyried hyfforddiant, dysgu a datblygu gloywi mewn meysydd fel cam-fanteisio’n rhywiol ar blant, Atal a Threfniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid.

Ni fydd disgwyl iddynt ailadrodd hyfforddiant, dysgu a datblygu sy'n gysylltiedig â grwpiau A a B oni bai bod eu sefydliad yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny.

Mae'r safonau a osodir ar gyfer grŵp A yn hanfodol i bob ymarferydd, ym mhob grŵp. Mae'r safonau hyn yn cwmpasu'r meysydd allweddol o ddiogelu a heb y wybodaeth a'r ddealltwriaeth hon, gellid gwneud camgymeriadau a bydd pobl mewn perygl.

Mae'n ofynnol i ymarferwyr sydd wedi'u cynnwys yng ngrŵp A fod yn ymwybodol o faterion diogelu ac felly pennir y safonau i adlewyrchu'r lefel ofynnol o wybodaeth ac ymarfer sy'n ofynnol ar gyfer eu rôl.

Er enghraifft, bydd ymarferydd grŵp A yn deall bod yna gyfraith ar gyfer diogelu pobl.

Bydd gan yr ymarferwyr yng ngrŵp B fwy o gyfrifoldeb dros ddiogelu felly pennir y safonau ar gyfer ymarferwyr grŵp B fel bod yr hyfforddiant, dysgu a datblygu yn eu helpu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o faterion diogelu.

Er enghraifft, bydd angen i ymarferwyr grŵp B ddangos eu bod yn deall y gyfraith ac yn ei rhoi ar waith fel rhan o’u gwaith bob dydd.

Ar gyfer ymarferwyr grŵp C, mae eu dyletswyddau diogelu yn fwy a bydd ganddynt benderfyniadau i'w gwneud ynghylch cadw pobl yn ddiogel a phryd y mae angen iddynt roi prosesau amddiffyn ar waith.

Bydd angen i'r ymarferwyr hyn gael yr holl wybodaeth a dealltwriaeth o'r safonau yng ngrwpiau A a B ynghyd â gwybodaeth ychwanegol i sicrhau eu bod yn cyflawni eu rôl yn unol â'r gyfraith.

Er enghraifft, bydd ymarferwyr grŵp C yn deall y gyfraith ac yn gallu ei chymhwyso i'w gwaith diogelu ac amddiffyn o ddydd i ddydd.

Mae ymarferwyr grŵp D yn aml yn meddu ar rolau diogelu arbenigol, naill ai yn ogystal â phrif rôl neu fel ymarferwyr diogelu arbenigol.

Byddant yn rhoi cyngor a chefnogaeth i’w cydweithwyr yn eu timau a'u sefydliad a thu hwnt. Bydd angen gwybodaeth a dealltwriaeth arnynt o'r safonau ar gyfer grwpiau A i C a bydd ganddynt brofiad a gwybodaeth hefyd o weithio mewn sefyllfaoedd mwy cymhleth.

Er enghraifft, bydd gan ymarferwyr grŵp D ddealltwriaeth drylwyr o gyfraith diogelu ac amddiffyn. Byddant hefyd yn cefnogi cydweithwyr i roi’r gyfraith ar waith yn eu gwaith bob dydd wrth wneud penderfyniadau ar ddiogelwch unigolyn.

Deddfwriaeth a chanllawiau allweddol

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ar 6 Ebrill 2016. Mae'r Ddeddf yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella llesiant pobl sydd angen gofal a chefnogaeth. Mae'r Ddeddf yn cynnwys 11 rhan, gyda rhan 7 yn ymwneud â diogelu. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn darparu'r fframwaith ar gyfer Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

I gyd-fynd â'r Ddeddf, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau diogelu statudol, Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl.

Lluniwyd Gweithdrefnau Diogelu Cymru i alluogi ymarferwyr rheng flaen a'u rheolwyr i gymhwyso gofynion a disgwyliadau deddfwriaethol y Ddeddf.

Y nod yw gwella canlyniadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer oedolion a phlant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, eu niweidio a'u hesgeuluso. Mae’r gweithdrefnau’n cydnabod deddfwriaethau, canllawiau a phrotocolau eraill hefyd.

Deddfwriaeth a chanllawiau ychwanegol (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr)

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau statudol perthnasol eraill ar gyfer eich sefydliad neu'ch proffesiwn drwy gysylltu â'ch Bwrdd Diogelu Rhanbarthol.

Egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Mae gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) bum egwyddor:

  • llais a rheolaeth – yr unigolyn
  • atal ac ymyrraeth gynnar – i atal problemau rhag gwaethygu
  • llesiant – unigolion, i'w hyrwyddo gan bawb sy'n cyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf
  • cyd-gynhyrchu - rhwng y person a'r asiantaethau, ar draws asiantaethau a sectorau, cyd-gynhyrchu gwasanaethau ac atebion
  • amlasiantaethol – yn yr achos hwn, mae diogelu yn gyfrifoldeb i bawb.

Yr egwyddorion sy'n sail i ymarfer diogelu yng Nghymru yw:

  • mae diogelu ac amddiffyn yn gyfrifoldeb i bawb
  • mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn/person bob amser.
Cyhoeddwyd gyntaf: 21 Hydref 2022
Diweddariad olaf: 8 Ebrill 2024
Diweddarwyd y gyfres: 8 Ebrill 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (60.9 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (249.9 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch