Jump to content
Cwestiynau cyffredin am y safonau

Rydym wedi casglu'r cwestiynau mwyaf cyffredin am y safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol ar y dudalen hon.

Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon yn rheolaidd gydag unrhyw gwestiynau eraill sy’n codi.

Pam ei bod hi’n bwysig cael dull safonol ar gyfer dysgu a datblygu yn ymwneud â diogelu?

Mae cael y safonau hyn yn gwneud y canlynol:

  • rhoi sicrwydd i sefydliadau bod gan bob ymarferydd a gwirfoddolwr yr un lefel o ddysgu a datblygu wrth symud o un sefydliad i'r llall yng Nghymru
  • gwella dysgu a datblygu amlasiantaethol
  • darparu iaith gyffredin ac annog sefydliadau ac ymarferwyr i gydweithio
  • helpu sefydliadau a chomisiynwyr i sicrhau bod sefydliadau'n cydymffurfio â'r safonau.

Sut galla i ddefnyddio'r safonau yn fy sefydliad?

Gallwch ddefnyddio'r safonau i gynllunio a llywio cyfleoedd dysgu a datblygu ac i gefnogi dysgu amlddisgyblaethol.

Gall sefydliadau addysg, fel prifysgolion, colegau addysg bellach ac ysgolion, ddefnyddio'r safonau i ddarparu strwythur clir ar gyfer dysgu a datblygu’n ymwneud â diogelu.

Gall pob sefydliad (gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector annibynnol) hefyd eu defnyddio i lunio adroddiadau am ymarfer a pherfformiad diogelu.

Beth yw pwrpas y safonau? Beth rydym yn ei wneud â nhw?

Pwrpas y safonau hyn yw gwneud yn siŵr bod pawb yng Nghymru yn cael dysgu a datblygu cyson o ansawdd da yn ymwneud â diogelu. Oherwydd bod y dysgu a'r datblygu hwn yn berthnasol i'w rôl a'u cyfrifoldebau, byddant yn gallu diogelu pobl hyd eithaf eu gallu. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd hefyd i'r Byrddau Diogelu Rhanbarthol.

Bydd y safonau yn helpu sefydliadau i sicrhau'r canlynol:

  • bod diogelwch a lles y plentyn neu'r oedolyn yn ganolog i'w gwaith
  • bod ymarferwyr yn gallu gweithio mewn ffyrdd sy'n grymuso a galluogi
  • eu bod yn ymgorffori'r safonau yn eu polisïau a'u gweithdrefnau diogelu
  • bod ymarferwyr yn gwybod pa grŵp y maen nhw ynddo ac yn deall eu cyfrifoldebau fel rhan o'r grŵp hwnnw, a sut i ddilyn y polisïau a'r gweithdrefnau sy'n berthnasol iddyn nhw
  • bod pob ymarferydd yn gallu cael mynediad at Weithdrefnau Diogelu Cymru a chydymffurfio â nhw
  • bod ffocws i’w dadansoddiad o anghenion hyfforddi, a bod cyfleoedd dysgu a datblygu yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar ymarferwyr fel y byddant yn fwy tebygol o allu adnabod materion diogelu yn gynnar ac adrodd arnynt yn gynnar
  • bod gan ymarferwyr y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i fod yn fedrus ac yn hyderus, a bod prosesau ar waith i ofalu am eu lles
  • bod cymuned fwy diogel i bawb wrth i'r holl asiantaethau weithio gyda'i gilydd.

Pam mae’r safonau diogelu mewn grwpiau yn hytrach na lefelau?

Dewisodd y grŵp datblygu'r term 'grwpiau' er mwyn trefnu ymarferwyr yn ôl eu rolau a'u cyfrifoldebau. Mae hyn yn golygu y gall sefydliadau ac ymarferwyr ddefnyddio'r safonau yn hyblyg oherwydd ar gyfer rhai rolau, bydd angen i ymarferwyr gael yr wybodaeth a'r sgiliau o grŵp gwahanol.

Mae’r 'grwpiau’ yn y safonau yn cyd-fynd â'r 'lefelau' a nodir yn Rolau a Chymwyseddau'r GIG ar gyfer Staff Gofal Iechyd. Er enghraifft, mae Grŵp A yr un fath â Lefel 1.

Beth yw manteision y safonau?

Mae'r safonau yn sicrhau bod dyluniad, cynnwys a darpariaeth hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu ar hyd a lled Cymru yn gyson.

Mae'r safonau yn nodi'n glir beth yn union sy'n briodol ei gynnwys mewn hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu ar gyfer ymarferwyr yng Nghymru.

Lle y bo'n bosibl, dylai hyfforddiant, dysgu a datblygu fod yn amlasiantaethol. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth o rôl pob ymarferydd mewn gwaith ymyrryd yn gynnar ac atal ac yn y broses ddiogelu.

Beth oedd yr heriau wrth ddatblygu'r safonau? Sut gwnaethoch chi eu goresgyn?

Roedd yr iaith a ddefnyddiwyd yn her. Bu’n trafodaethau'n canolbwyntio ar 'lefelau' yn erbyn 'grwpiau', gyda 'lefelau' yn cael eu harwain gan yr hyn a ddefnyddiwyd yn y sector iechyd.

Roedd lleisiau cyfartal a chyfle cyfartal yn cael eu hystyried yn her i ddechrau, ond roeddent yn hanfodol i ddatblygu'r safonau. Roedd yn rhaid i'r holl sefydliadau dan sylw ddeall a pharchu anghenion ei gilydd ac roedd yr empathi cyffredin hwn o fudd i ddatblygiad y safonau. Roedd yn bwysig hefyd bod pawb yn deall rôl y sector gwirfoddol yn y broses ddiogelu.

O gael trafodaethau, cydweithio a deall anghenion ei gilydd, roedd y grŵp datblygu yn gallu gweld safbwyntiau ei gilydd a meddwl beth oedd ystyr y safonau a'r fframwaith i bob sefydliad a sector. Roedd hyn yn caniatáu i ni greu safonau dysgu a datblygu cyffredin ar gyfer diogelu a fframwaith hyfforddiant, dysgu a datblygu.

Mae pawb fu ynghlwm â’r gwaith nawr yn teimlo bod y safonau a'r fframwaith yn berthnasol i'w sefydliad a'u sector – maen nhw’n berthnasol i bawb ac yn perthyn i bawb. Dyma'r gwir gamp!

Beth yw'r heriau wrth roi'r safonau ar waith?

Yr her yw pwy fydd yn datblygu'r hyfforddiant, y dysgu a'r datblygu sy'n gorfod dilyn y safonau a'r fframwaith, a phwy fydd yn darparu'r hyfforddiant hwnnw. Bydd talu amdano yn her hefyd. Mae angen buddsoddi mewn hyfforddiant, dysgu a datblygu a bydd angen amser i ffwrdd ar staff i fynychu a/neu ddarparu'r hyfforddiant.

Mae gosod amserlenni ar gyfer datblygu a gweithredu'r safonau a'r fframwaith yn her hefyd, er mwyn sicrhau bod pob sefydliad , ymarferydd a gwirfoddolwr yn cyrraedd cerrig milltir tebyg ar yr un pryd. Bydd angen i bawb gefnogi'r safonau a'r fframwaith, ac mae angen i bawb deimlo eu bod yn berthnasol iddyn nhw.

Ymhlith yr heriau eraill y mae'r ofn tybiedig o ddiogelu, ac "Ai fy nghyfrifoldeb i yw hyn?" "Ydy fy enw i ar hyn?" Mae'r safonau'n rhoi cyfrifoldeb ar rai ymarferwyr penodol i ddeall a chymhwyso gweithdrefnau diogelu pan nad oedd hyn efallai wedi bod yn rhywbeth roeddent yn disgwyl ei wneud.

Oes rhaid i mi ddefnyddio'r safonau wrth feddwl am hyfforddiant diogelu neu wrth ei gynnal?

Bu pob maes o'r sector gofal cymdeithasol a gofal iechyd yn ymwneud â datblygu'r safonau, felly mae disgwyl i sefydliadau gydymffurfio â nhw’n wirfoddol.

Y Byrddau Diogelu Rhanbarthol sy'n berchen ar y safonau a'r fframwaith, ac mae hyn yn rhoi disgwyliad clir ar bob sefydliad i gydymffurfio â'r safonau.

Bydd disgwyl i’r holl bartneriaid statudol a sefydliadau cysylltiedig eraill gymhwyso'r safonau a'r fframwaith wrth gyflawni eu rolau.

Beth yw rôl y Byrddau Diogelu Rhanbarthol wrth roi'r safonau ar waith?

Bu pob Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r safonau. Partneriaid y byrddau diogelu rhanbarthol sy'n berchen ar y safonau a'r fframwaith.

Byddant yn gwneud y canlynol:

  • mabwysiadu'r safonau a'u cynnwys mewn polisïau a phrosesau diogelu rhanbarthol
  • pwysleisio eto sut dylid defnyddio'r safonau i ddylunio, datblygu, darparu, monitro a gwerthuso hyfforddiant, dysgu a datblygu
  • annog pobl i ddefnyddio'r safonau a'r fframwaith i osod disgwyliadau clir ar gyfer darparwyr hyfforddiant, dysgu a datblygu
  • bod yn gyfrifol am nodi hyfforddwyr priodol, hyderus, cymwysedig a phrofiadol i ddarparu'r rhaglenni dysgu.

Pwy fydd yn monitro ac yn adolygu'r safonau? Pa mor aml fydd hyn yn digwydd?

Bydd y Grŵp Adolygu Safonau Diogelu yn cael ei sefydlu yn gynnar yn 2023. Bydd yn monitro ac yn adolygu sut mae'r safonau'n cael eu rhoi ar waith. Bydd y grŵp yn cynnwys rhai aelodau o'r grŵp datblygu, yn ogystal ag aelodau newydd.

Bydd y safonau'n cael eu hadolygu bob tri mis ar ôl eu lansio - ym misoedd Ebrill, Gorffennaf a Hydref 2023 ac ym mis Ionawr 2024.

Pryd fydd y fframwaith hyfforddiant dysgu a datblygu diogelu ar gael?

Caiff ei gyhoeddi yn gynnar yn 2023. Ni fydd lansiad ffurfiol, ond byddwn yn rhoi gwybod i bawb pan fydd yn cael ei gyhoeddi.

A fydd yr hyfforddiant diogelu wedi'i achredu, ac os felly, sut? Beth fydd y broses ar gyfer sicrhau ansawdd yr hyfforddiant?

Ar hyn o bryd, nid yw'r safonau a'r fframwaith wedi'u hachredu ac nid ydynt wedi mynd drwy broses sicrhau ansawdd.

Bydd y Grŵp Adolygu Safonau Diogelu yn ymchwilio i hyn.

Beth yw'r amserlenni ar gyfer cwblhau hyfforddiant a hyfforddiant diweddaru?

Nid ydym wedi cytuno i unrhyw amserlenni eto. Bydd amserlenni y cytunwyd arnynt yn cael eu cynnwys yn y fframwaith a byddant ar gael yn gynnar yn 2023.

Ydych chi wedi meddwl am y dryswch y gallai'r safonau ei achosi gyda hyfforddiant presennol sy'n defnyddio'r termau 'lefelau' yn hytrach na 'grwpiau’?

Gall sefydliadau barhau i ddefnyddio eu termau presennol, ond mae'n rhaid iddynt ddangos sut mae eu hyfforddiant, eu dysgu a'u datblygu yn cyd-fynd â'r hyn a nodir yn y safonau. Mae'r safonau'n adeiladu ar y grwpiau a'r lefelau presennol a'u cryfhau.

Pwy sy'n gyfrifol am ddod o hyd i hyfforddwyr digon hyderus/cymwysedig/profiadol i ddarparu'r hyfforddiant, yn enwedig ar gyfer grwpiau C, D, E ac F?

Bydd pob Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yn gyfrifol am ddod o hyd i hyfforddwyr priodol, hyderus, cymwysedig a phrofiadol i ddarparu'r rhaglenni dysgu.

Gall y Byrddau Diogelu Rhanbarthol ddewis defnyddio'r safonau i'w helpu i ddod o hyd i'r hyfforddwyr gorau i gynnal rhaglenni diogelu er mwyn sicrhau bod ymarferwyr yn ddiogel ac yn effeithiol yn eu rôl.

Sut bydd y mater o gael mynediad at hyfforddiant, dysgu a datblygu yn cael ei ystyried?

Bydd gan y fframwaith ganllawiau clir ar gyfer isafswm amser hyfforddi, ac mae cydweithwyr yn y sector wedi helpu i’w lunio er mwyn adlewyrchu'r pwysau o ran rhyddhau staff. Y gobaith yw y bydd pob sefydliad yn gallu ei gyflawni.

Bydd y fframwaith a'r adborth yn cael eu hadolygu gan y Grŵp Adolygu Safonau drwy gydol 2023.

Cyhoeddwyd gyntaf: 23 Ionawr 2023
Diweddariad olaf: 2 Hydref 2023
Diweddarwyd y gyfres: 8 Ebrill 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (49.4 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (249.9 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch