Jump to content
Crynodeb o'r grwpiau

Mae chwech grŵp yn y safonau diogelu.

Grŵp A

Grŵp A mewn mwy o fanylder.

Os gwelwch fod rhywbeth o'i le, neu os cewch reswm i boeni am rywbeth, dylech roi gwybod amdano.

Grŵp B

Grŵp B mewn mwy o fanylder.

Mae gennych ychydig mwy o wybodaeth am y pethau mae angen cadw llygad arnynt ac rydych chi'n meithrin perthnasoedd.

Rydych chi'n cael darlun ychydig mwy manwl o fywydau pobl, ond yn y bôn os ydych chi'n poeni neu'n pryderu, mae angen i chi roi gwybod amdano.

Gallwch chi drafod gyda'ch rheolwr llinell neu’r person diogelu dynodedig neu roi gwybod i'r gwasanaethau cymdeithasol yn uniongyrchol.

Grŵp C

Grŵp C mewn mwy o fanylder.

Mae gennych rôl i'w chwarae y tu hwnt i adrodd ac uwchgyfeirio pryderon. Rydych yn asesu’n barhaus sut y gall eich asiantaeth reoli agweddau ar sail ataliol, a oes cymorth/gwasanaethau ychwanegol y gallech chi neu eraill fod yn eu darparu? Neu a yw hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid ei ddyrchafu i'r gwasanaethau cymdeithasol?

Mae ymarferwyr grŵp C yn ymateb i'r pryder rydych chi'n ei weld. Penderfynu a allwch ymateb i’r pryder diogelu o fewn eich asiantaeth eich hun neu a oes angen yr atgyfeiriad hwnnw arnoch i’r gwasanaethau cymdeithasol.

Gall ymarferwyr grŵp C fod yn berson diogelu dynodedig eu hasiantaethau/timau, efallai eich bod yn cefnogi a chynghori eraill, ac yn chwarae rhan weithredol mewn ymateb i bryderon diogelu sy’n codi yn eich lleoliad.

Mae angen i chi ddeall bod gwahaniaeth rhwng diogelu ac amddiffyn plant neu oedolion.

Byddwch hefyd o amgylch y bwrdd yn cyfrannu at gyfarfodydd strategaeth ac yn rhan o’r cynllun aml-asiantaeth ar gyfer y plentyn/person hwnnw.

Grŵp D

Grŵp D mewn mwy o fanylder.

Mae'r grŵp hwn yn debyg i grŵp C, gan ei fod yn dal i fod yn rôl weithredol, ond mae ar lefel gwneud penderfyniadau uwch.

Ni fyddai gan lawer o asiantaethau fewnbwn ar y lefel hon o reidrwydd, felly rydym yn siarad yn bennaf am asiantaethau statudol yng ngrŵp D.

Dyma'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau cymhleth iawn am yr hyn sy'n digwydd i unigolyn. Yn seiliedig ar bryderon diogelu, a oes angen eu rhoi mewn cyfleuster diogel? A oes angen inni fynd i'r llys i wneud cais am ryw fath o orchymyn?

A oes angen math penodol o becyn gofal a chymorth arnynt mewn perthynas â lleoliad? Yn gyffredinol, y bobl hyn fyddai'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn eu sefydliadau mewn perthynas â diogelu.

Grŵp E

Grŵp E mewn mwy o fanylder.

Y grŵp hwn sy’n gwneud y penderfyniadau hynny na ellir eu gwneud ar lefel is. Er enghraifft, pan fydd yn rhaid i ymarferwyr grŵp D uwchgyfeirio achos i lefel uwch oherwydd ei fod mor anarferol, cymhleth, anodd neu gostus mewn perthynas â diogelu unigolyn neu ei fod yn cynnwys nifer o unigolion.

Mae ymarferwyr grŵp E hefyd yn darparu goruchwyliaeth strategol o’r broses ddiogelu a materion diogelu ehangach yn y sefydliad.

Grŵp F

Grŵp F mewn mwy o fanylder.

Lefel Swyddogion Gweithredol ac Uwch Reolwyr. Byddant yn gwrando ar gyngor arbenigol ac yn ei ddefnyddio i sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â gofynion diogelu ac yn gallu ailgyfeirio adnoddau os oes angen.

Cyhoeddwyd gyntaf: 28 Hydref 2022
Diweddariad olaf: 2 Hydref 2023
Diweddarwyd y gyfres: 28 Hydref 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (33.8 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (248.7 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch