Jump to content
Safonau diogelu grŵp F

Safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol - grŵp F.

Pwyntiau pwysig i’w nodi

  1. Mae’r safonau hyn yn cyfeirio at rai rolau enghreifftiol, ond nid ydynt yn nodi’r holl rolau a chyfrifoldebau ar draws y sector. Felly, dyletswydd sefydliadau yw nodi
    o fewn eu gweithlu eu hunain, pa rolau sy’n gweddu i grwpiau penodol. Wrth
    bennu hyfforddiant priodol ar gyfer pob aelod staff, bydd angen i’r sefydliad
    sicrhau bod yr aelod staff wedi ei osod yn y grŵp sy’n briodol ar ei gyfer. Os yw
    sefydliadau neu reolwyr yn ansicr pa grŵp yw’r un priodol, ac os yw’r rôl yn perthyn i fwy nag un grŵp, disgwylir i’r ymarferydd gael ei hyfforddi yn y grŵp uwch, er enghraifft os yw gweithiwr yn perthyn i grŵp B ac C, dylid ei hyfforddi ar lefel grŵp C.
  2. Drwy’r safonau i gyd, disgwylir i bob ymarferydd sy’n cychwyn mewn rôl newydd o grŵp B ymlaen fod wedi cwblhau hyfforddiant yn y grwpiau blaenorol cyn cychwyn y rôl. Fel arall, dylid ei gefnogi i gwblhau’r hyfforddiant yn ystod chwe mis cyntaf ei gyfnod sefydlu.

Rolau a chyfrifoldebau

Ymarferwyr grŵp F yw'r bobl ar y lefel uchaf mewn sefydliad. Un person mewn unrhyw sefydliad sector cyhoeddus fydd yn bennaf gyfrifol am ddiogelu. Byddai hyn fel arfer yn ymwneud â diogelu corfforaethol ac nid yw hyn yr un fath â bod yn bennaf gyfrifol am wneud penderfyniadau yn y broses ddiogelu (fel y nodir yma). Dylai pob ymarferydd grŵp F gael mynediad at gyngor ac arbenigedd diogelu gan weithwyr proffesiynol dynodedig neu enwebedig.

Nid oes angen yr un wybodaeth fanwl am ddiogelu ar ymarferwyr grŵp F ag ymarferwyr grŵp F gan nad oes angen iddynt o reidrwydd gael yr un lefel o arbenigedd a sgiliau. Ond mae arnynt angen yr ymwybyddiaeth sylfaenol o ddiogelu a welir yng Ngrŵp A. Dylent hefyd gwblhau hyfforddiant ad hoc perthnasol, megis Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) a'r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl sydd wedi'i fwriadu ar gyfer y grŵp hwn.

Egwyddorion cofiadwy:
  • Rwy’n rhoi arweiniad sy'n cwmpasu diogelu yn y sector cyhoeddus ac yn hyrwyddo gwaith amlasiantaethol bob amser
  • Rwy’n deall elfennau craidd diogelu ac yn deall pam mae’r maes hwn yn bwysig
  • Mae ymarferwyr grŵp E yn fy arwain ac yn rhoi sicrwydd i mi ar feysydd sy'n peri pryder.

Grŵp F: Rolau arbenigol ac arweinwyr sector

(Yn cyfateb i Lefel 5 mewn iechyd)

a) Cymwyseddau craidd.

  • Fel mae grŵp A yn ei nodi.
  • Sicrhau bod y sefydliad yn bodloni canllawiau a safonau perthnasol cenedlaethol Cymru a'r DU ar gyfer diogelu.
  • Hyrwyddo diwylliant cadarnhaol o ddiogelu, gan gynnwys sicrhau bod yna weithdrefnau mwy diogel ar gyfer recriwtio staff, chwythu'r chwiban, polisïau priodol ar gyfer diogelu (gan gynnwys diweddaru rheolaidd) a bod staff a'r cyhoedd yn ymwybodol bod y sefydliad yn cymryd diogelu o ddifrif ac y bydd yn ymateb i bryderon am les pobl.
  • Penodi cyfarwyddwr gweithredol sy'n arwain ar ddiogelu.
  • Sicrhau bod arferion diogelu ac amddiffyn da yn digwydd ym mhob rhan o'r sefydliad.
  • Sicrhau bod gan wasanaethau gweithredol adnoddau i gefnogi ac ymateb i ofynion diogelu yn effeithiol.
  • Sicrhau bod strategaeth effeithiol ar gyfer hyfforddi a goruchwylio diogelu yn cael adnoddau ac yn cael ei darparu.
  • Sicrhau a hyrwyddo arferion gwaith partneriaeth priodol, diogel ac amlasiantaethol a sicrhau bod arferion rhannu gwybodaeth yn digwydd o fewn y sefydliad.
  • Sicrhau bod prosesau llywodraethu cadarn ar waith i roi sicrwydd ynghylch diogelu.
  • Sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau diogelu plant ac oedolion yn gweithio'n effeithiol gyda'i gilydd.

b) Gwybodaeth, sgiliau, agweddau a gwerthoedd.

  1. Deall rôl a chyfrifoldebau rhianta corfforaethol eu sefydliad.
  2. Deall achosion a chanlyniadau posibl esgeulustod difrifol.
  3. Deall yr asiantaethau sy'n ymwneud â diogelu ac amddiffyn, eu rolau a'u cyfrifoldebau, a phwysigrwydd cydweithredu amlasiantaethol.
  4. Deall y rhwymedigaethau statudol i weithio gyda'r bwrdd diogelu rhanbarthol ac asiantaethau diogelu eraill, gan gynnwys y sector gwirfoddol.
  5. Deall y rhwymedigaethau moesegol, cyfreithiol a phroffesiynol sy'n gysylltiedig â rhannu gwybodaeth sy'n ymwneud â diogelu ac amddiffyn.
  6. Deall y rhwymedigaeth statudol i gymryd rhan mewn adolygiadau ymarfer, adolygiadau dynladdiad domestig a phrosesau adolygu eraill, megis yr ymateb gweithdrefnol i farwolaethau annisgwyl mewn plant (PRUDIC), a gweithredu’r hyn a ddysgir ohonynt.
  7. Deall bod angen darparu a chydymffurfio â hyfforddiant staff mewn sefydliadau comisiynu a darparu a bod hyn yn anghenraid sefydliadol.
  8. Deall pwysigrwydd polisïau diogelu ac amddiffyn ar gyfer personél, gan gynnwys defnyddio fetio a gwahardd a recriwtio diogel. Bod yn ymwybodol o'r angen i'w diweddaru a'u hadolygu'n rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ddiwallu anghenion y sefydliad.
  9. Deall y prosesau rheoleiddio ac arolygu a'r goblygiadau i'r sefydliad os nad yw comisiynwyr neu ddarparwyr yn bodloni'r safonau.
  10. Deall pwysigrwydd adrodd yn rheolaidd a monitro trefniadau diogelu o fewn sefydliadau darparwyr.
  11. Deall beth yw risg diogelu ar lefel bwrdd a bod angen cael trefniadau ar waith ar gyfer adrodd a gweithredu'n gyflym ar gyfer digwyddiadau difrifol, gan gynnwys dyletswydd i hysbysu’r heddlu yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol.
  12. Deall a bod yn ymwybodol bod angen i'r bwrdd gael mynediad at gyngor arbenigol priodol ar faterion diogelu ac amddiffyn gan weithwyr proffesiynol dynodedig.
Cyhoeddwyd gyntaf: 20 Hydref 2022
Diweddariad olaf: 2 Hydref 2023
Diweddarwyd y gyfres: 8 Ebrill 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (37.7 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (249.9 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch