Jump to content
Safonau diogelu grŵp B

Safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol - grŵp B.

Pwyntiau pwysig i’w nodi

  1. Mae’r safonau hyn yn cyfeirio at rai rolau enghreifftiol, ond nid ydynt yn nodi’r holl rolau a chyfrifoldebau ar draws y sector. Felly, dyletswydd sefydliadau yw nodi o fewn eu gweithlu eu hunain, pa rolau sy’n gweddu i grwpiau penodol.

    Wrth bennu hyfforddiant priodol ar gyfer pob aelod staff, bydd angen i’r sefydliad sicrhau bod yr aelod staff wedi ei osod yn y grŵp sy’n briodol ar ei gyfer.

    Os yw sefydliadau neu reolwyr yn ansicr pa grŵp yw’r un priodol, ac os yw’r rôl yn perthyn i fwy nag un grŵp, disgwylir i’r ymarferydd gael ei hyfforddi yn y grŵp uwch. Er enghraifft, os yw gweithiwr yn perthyn i grŵp B ac C, dylid ei hyfforddi ar lefel grŵp C.
  2. Drwy’r safonau i gyd, disgwylir i bob ymarferydd sy’n cychwyn mewn rôl newydd o grŵp B ymlaen fod wedi cwblhau hyfforddiant, dysgu a datblygu yn y grwpiau blaenorol cyn cychwyn y rôl.

    Fel arall, dylid ei gefnogi i gwblhau’r hyfforddiant, dysgu a datblygu yn ystod chwe mis cyntaf ei gyfnod sefydlu.

Rolau a chyfrifoldebau

Ymarferwyr grŵp B yw'r rhai sy'n treulio amser gyda phobl mewn lleoliad grŵp neu ar sail un i un. Bydd ganddynt gyfrifoldeb penodol mewn perthynas â'r bobl y maent yn gweithio gyda nhw a bydd angen lefel uwch o wybodaeth arnynt na'r rhai yng ngrŵp A oherwydd eu hymwneud uniongyrchol â phobl. Efallai y bydd gan y bobl y maent yn gweithio gyda nhw bryderon diogelu neu efallai ddim.

Os bydd yna bryderon am ddiogelu, bydd llinell glir yn y sefydliad ar gyfer rhoi gwybod a bydd yr ymarferydd yn ymwybodol o'i gyfrifoldeb i roi gwybod am bryderon, yn fewnol ac i'r gwasanaethau cymdeithasol yn uniongyrchol.

Ni fydd gan yr ymarferwyr hyn rôl statudol mewn perthynas â'r broses ddiogelu ac ni fyddant yn eistedd ar grwpiau craidd nac yn rhan o gynllunio diogelu. Ni fyddai disgwyl iddynt roi cyngor ar ddiogelu i eraill.

Wrth edrych ar y safonau ar draws y grwpiau, efallai y bydd yn edrych fel eu bod yn cael eu hailadrodd. Fodd bynnag, bydd angen i ymarferwyr mewn gwahanol grwpiau gael gwybodaeth a dealltwriaeth fanylach oherwydd y cyfrifoldebau sydd ganddynt. Felly, bydd yr hyfforddiant, dysgu a datblygu a ddarperir ar gyfer pob grŵp yn archwilio'r un pynciau yn fanylach. Bydd y fframwaith hyfforddiant, dysgu a datblygu yn helpu i ddangos hyn.

Bydd gan yr ymarferwyr yng ngrŵp B fwy o gyfrifoldeb dros ddiogelu felly pennir y safonau ar gyfer ymarferwyr grŵp B fel bod yr hyfforddiant, dysgu a datblygu yn eu helpu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o faterion diogelu. Er enghraifft, bydd angen i ymarferwyr grŵp B ddangos eu bod yn deall y gyfraith a gweithredu’r gyfraith yn eu gwaith bob dydd.

Egwyddorion cofiadwy
  • Rwyf yn rhan allweddol o'r broses ddiogelu
  • Rwy'n gwybod pryd, sut ac i bwy y dylwn roi gwybod
  • Byddaf yn sicrhau bod llais yr unigolyn yn cael ei glywed.

Safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu (grŵp B)

Bydd angen i bawb yn y grŵp hwn wybod popeth yng ngrŵp A hefyd.

a) Deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, a chodau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol mewn perthynas â diogelu.

  1. Categorïau cam-drin ac esgeulustod fel y'u diffinnir yn Adran 197 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
  2. Arwyddion a symptomau cyffredin sy'n gysylltiedig â cham-drin, niweidio ac esgeulustod.
  3. Meysydd risg sefyllfaol eraill a allai arwain at gam-drin, niweidio ac esgeulustod.
  4. Trosolwg o'r fframwaith cyfreithiol a'r goblygiadau ymarferol, i gynnwys polisïau ac egwyddorion lleol a chenedlaethol, y Ddeddf Plant, y Ddeddf Galluedd Meddyliol, deddfwriaeth Cam-drin Domestig ac egwyddorion (pobl hŷn) a chonfensiynau (plant) y Cenhedloedd Unedig a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol
  5. Sut mae'r fframwaith cyfreithiol yn cefnogi hawliau pobl i gael eu hamddiffyn rhag eu cam-drin, eu niweidio ac esgeulustod.
  6. Rolau gwahanol asiantaethau ac eraill sy'n ymwneud â diogelu lles pobl, yng nghyd-destun eich lleoliad.
  7. Deddfwriaeth[1], canllawiau statudol, polisïau cenedlaethol a chodau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol sy'n gysylltiedig â diogelu pobl – yn oedolion, plant a phobl ifanc – a’r hyn y maent yn ei olygu'n ymarferol.
  8. Sut mae fframweithiau deddfwriaethol yn cefnogi hawliau pobl i gael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod.
  9. Bod yn agored ac yn onest gyda phobl os bydd pethau'n mynd o chwith[2] neu os oedd ganddynt y potensial i fynd o chwith.

b) Sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag cael eu cam-drin, eu niweidio a'u hesgeuluso.

  1. Rolau gwahanol asiantaethau ac eraill sy'n gweithio i ddiogelu lles pobl, yng nghyd-destun eich lleoliad.
  2. Rôl a chyfrifoldebau ymarferwyr ym maes diogelu.
  3. Rôl eiriolaeth mewn perthynas â diogelu – yn allanol ac mewn perthynas â'ch rôl.
  4. Sut i sefydlu perthynas sy'n ennyn ymddiriedaeth pobl, teuluoedd a gofalwyr a chreu perthynas â hwy.
  5. Sut i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn/plentyn gan ddilyn egwyddorion diogelu a chynnal hawliau pobl.
  6. Sut i alluogi pobl i wneud penderfyniadau am y pethau sy'n bwysig iddyn nhw ac i gadw rheolaeth dros eu bywydau.
  7. Sut i hyrwyddo llais pobl bob amser, gan wrando ar eu profiad bywyd.
  8. Sut i gefnogi pobl i gydbwyso eu hawliau a'u cyfrifoldebau, gan sicrhau eich bod yn cynnal eich dyletswydd gofal.
  9. Sut i hyrwyddo amgylchedd lle gall pobl fynegi ofnau, pryderon a theimladau heb boeni am gael eu gwawdio, eu gwrthod, eu cosbi neu boeni na fydd neb yn eu credu.
  10. Sut i wneud pobl yn ymwybodol o’r modd y gallan nhw gadw eu hunain yn ddiogel rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod.
  11. Sut i wneud pobl yn ymwybodol o'r peryglon sy'n gysylltiedig â defnyddio cyfryngau cymdeithasol, y rhyngrwyd a ffonau symudol.
  12. Sut i weithio mewn ffyrdd sy'n cadw ymarferwyr a phobl yn ddiogel rhag cael eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso.
  13. Sut i gael gafael ar gefnogaeth a hyfforddiant, dysgu a datblygu er mwyn ystyried a gwella gwybodaeth, sgiliau ac ymarfer ar gyfer diogelu.
  14. Gwybod ble i fynd am gyngor a chymorth, os oes angen.

c) Y ffactorau, y sefyllfaoedd a'r camau gweithredu a allai arwain neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod.

  1. Pam mae rhai pobl o bosibl mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso.
  2. Sut y gall sefyllfa rhywun gynyddu'r risg o gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod, er enghraifft, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
  3. Pam na fydd pobl, teulu, ffrindiau, ymarferwyr a gwirfoddolwyr yn datgelu camdriniaeth o bosibl.
  4. Gweithredoedd, ymddygiadau neu sefyllfaoedd sy'n cynyddu'r perygl o gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod.
  5. Ymddygiad nodweddiadol cyflawnwyr a’u ffordd o feithrin perthynas amhriodol, gan gynnwys bwlio, rheoli drwy orfodaeth ac ymddygiad rheolaethol.
  6. Dysgu o adolygiadau ac adroddiadau ar fethiannau difrifol er mwyn amddiffyn pobl rhag cael eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso.

ch) Sut i ymateb, cofnodi a rhoi gwybod am bryderon neu honiadau sy'n ymwneud â diogelu.

  1. Dylid rhoi gwybod am unrhyw amheuon o gamdriniaeth, niweidio neu esgeulustod posibl ac mae’n ddyletswydd ar bawb i wneud hyn.
  2. Sut a phryd y dylid rhoi gwybod am unrhyw bryderon am gamdriniaeth, niweidio neu esgeulustod honedig.
  3. Sut i ymateb os oes amheuon neu honiadau o gamdriniaeth, niweidio neu esgeulustod.
  4. Camau i'w cymryd pan fo pryderon parhaus am gamdriniaeth, niweidio neu esgeulustod neu os nad yw amheuon wedi cael sylw priodol ar ôl rhoi gwybod amdanynt.
  5. Pa bethau y dylid rhoi gwybod amdanynt, a'u cofnodi, pryd y dylai hyn ddigwydd a sut y caiff y wybodaeth hon ei storio.
  6. Sut i gofnodi gwybodaeth ysgrifenedig sy'n gywir, yn glir ac yn berthnasol gyda lefel briodol o fanylder.
  7. Y gwahaniaeth rhwng ffaith, safbwynt a barn, a pham mae deall hyn yn bwysig wrth gofnodi a rhoi gwybod am wybodaeth.
  8. Ffiniau cyfrinachedd mewn perthynas â diogelu a gwybodaeth y mae'n rhaid ei rhannu.
  9. Pethau all eich rhwystro rhag rhoi gwybod neu fynegi amheuon a sut i ymateb.
  10. Gwybod beth yw ystyr y term 'chwythu'r chwiban' a sut i ddilyn polisi chwythu'r chwiban eich sefydliad.

[1] Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a Deddf Plant 1989.

[2] Dyletswydd gonestrwydd: Deall yr angen i fod yn atebol am eich gwaith eich hun. Mae hyn yn cynnwys bod yn agored ac yn onest gyda phobl os aiff pethau o chwith, gan gynnwys rhoi esboniad llawn a phrydlon i'r cyflogwr neu'r awdurdod priodol o'r hyn sydd wedi digwydd.

Cyhoeddwyd gyntaf: 28 Hydref 2022
Diweddariad olaf: 2 Hydref 2023
Diweddarwyd y gyfres: 12 Awst 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (41.2 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (254.5 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch