Jump to content
Termau

Rydym wedi gwneud pob ymdrech i ddefnyddio'r un termau yn y Safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y termau hyn yn rhestr termau Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Rydym hefyd wedi tynnu sylw at dermau eraill a ddefnyddir yn y safonau i'w hegluro'n fanylach yma:

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod: Mae'r rhain yn ddigwyddiadau trawmatig, yn enwedig y rhai yn ystod plentyndod cynnar sy'n effeithio'n sylweddol ar iechyd a llesiant pobl.

Mae'r profiadau hyn yn amrywio o ddioddef cam-drin geiriol, meddyliol, rhywiol a chorfforol, i fagwraeth ar aelwyd lle mae yna cam-drin domestig, camddefnyddio alcohol, rhieni’n gwahanu neu gamddefnyddio cyffuriau.

Hebryngwr (chaperone): Mae hebryngwyr yn gofalu am blentyn/plant yn eu gofal yn ystod perfformiadau a gweithgareddau eraill. Cânt eu cymeradwyo gan awdurdod lleol os na all rhiant neu athro hebrwng y plentyn.

Mae hebryngwr ffurfiol yn berson sydd wedi'i hyfforddi'n briodol a'i rôl yw arsylwi ar archwiliadau neu driniaethau a gyflawnir gan ymarferwyr iechyd. Mae hebryngwyr yn bresennol i gefnogi ac i amddiffyn cleifion ac ymarferwyr gofal iechyd.

Rheolaeth drwy orfodaeth: Dyma pan fydd person y mae gennych chi gysylltiad personol ag ef / hi yn ymddwyn dro ar ôl tro mewn ffordd sy'n gwneud i chi deimlo'n rheoledig, yn ddibynnol, yn unig, wedi'ch bychanu neu'n ofnus.

Cyfrinachedd: Mae diogelwch a lles unigolyn yn cael blaenoriaeth dros yr angen i gynnal cyfrinachedd proffesiynol. Dylai'r ymarferydd wneud natur a phwrpas y cais yn glir, a chofnodi'r cais a'r ymateb yn ysgrifenedig.

“Rhaid i ymarferwyr rannu gwybodaeth yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 ac yn unol â dyletswydd cyfrinachedd cyfraith gwlad. Mae’r ddau gyfrwng yn caniatáu rhannu gwybodaeth ac ni ddylid eu defnyddio yn awtomatig fel rheswm i beidio â gwneud hynny. O dan amgylchiadau eithriadol, gellir rhannu gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon heb ganiatâd os yw’n ofyniad cyfreithiol neu os bydd y gweithiwr proffesiynol o’r farn bod hynny er lles y cyhoedd. Un o’r amgylchiadau eithriadol yw er mwyn atal camdriniaeth neu niwed difrifol i eraill.” Gweithio gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl - Cyfrol 1

Cyn belled â'ch bod yn gallu dal at yr hyn rydych wedi'i wneud a chyfiawnhau ei fod er lles pennaf y plentyn neu'r unigolyn, dyna'r peth cywir i'w wneud. Cofiwch, mae diffyg rhannu gwybodaeth yn thema sydd wedi codi dro ar ôl tro dros y degawd diwethaf mewn adolygiadau ymarfer plant ac oedolion.

Dyletswydd gonestrwydd: Dylech ddeall yr angen i fod yn atebol am eich gwaith eich hun. Mae hyn yn cynnwys bod yn agored ac yn onest gyda phobl os aiff pethau o chwith, gan gynnwys rhoi esboniad llawn a phrydlon i'ch cyflogwr, neu'r awdurdod priodol, o'r hyn sydd wedi digwydd. Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yn nodi'r ddyletswydd ar gyfer corff y GIG.

Dyletswydd gofal:

  • Gweithredu er lles gorau'r unigolyn ac eraill bob amser
  • Peidi â gweithredu, neu fethu â gweithredu, mewn ffordd sy'n arwain at niwed
  • Gweithredu o fewn eich cymhwysedd ac uwchgyfeirio os ydych yn ansicr.

Salwch ffug neu salwch syn cael ei achosi gan eraill:

Mae hyn yn digwydd pan fydd rhiant neu ofalwr yn gorliwio neu'n achosi symptomau salwch yn fwriadol mewn plentyn. Bydd y rhiant neu'r gofalwr yn ceisio argyhoeddi gweithwyr proffesiynol neu eraill bod eu plentyn yn sâl neu fod ei gyflwr yn waeth nag ydyw mewn gwirionedd.

Nid yw'r rhiant neu'r gofalwr o reidrwydd yn bwriadu twyllo, ond mae ei ymddygiad yn debygol o niweidio'r plentyn. Er enghraifft, efallai y bydd y plentyn yn cael triniaeth neu brofion diangen, yn cael ei orfodi i gredu ei fod yn sâl neu bydd y sefyllfa’n tarfu ar ei addysg.

Canllawiau Fraser:

Mae cymhwysedd Gillick a chanllawiau Fraser yn cyfeirio at achos cyfreithiol a oedd yn edrych yn benodol ar p'un a ddylai meddygon allu rhoi cyngor neu driniaeth atal cenhedlu i bobl ifanc dan 16 oed heb ganiatâd rhieni. Ond ers hynny, maent wedi cael eu defnyddio'n ehangach i helpu i asesu a oes gan blentyn yr aeddfedrwydd i wneud ei benderfyniadau ei hun ac i ddeall goblygiadau'r penderfyniadau hynny.

Enghreifftiau eraill o fframweithiau diogelu:

Ymddygiad rhieni neu ofalwyr a ffactorau teuluol: Gall y rhain gynnwys camddefnyddio sylweddau, cam-drin domestig, straen, cydymffurfiaeth gelwyddog ac iechyd meddwl.

Cyflawnwr: Person sy'n cyflawni gweithred niweidiol, anghyfreithlon neu anfoesol. Gallwch ddod o hyd i enghreifftiau o ymddygiad cyflawnwr yn Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Adolygiad ymarfer: Cynhelir adolygiadau ymarfer diogelu ar ran y byrddau diogelu rhanbarthol. Maent yn ffordd i bob asiantaeth bartner nodi'r gwersi y gellir eu dysgu o achosion arbennig o gymhleth neu anodd a rhoi newidiadau ar waith i wella gwasanaethau yng ngoleuni'r gwersi hyn.

Diben y system adolygu yw hyrwyddo diwylliant cadarnhaol o ddysgu amlasiantaethol ac arfer gorau.

PRUDIC (Ymateb Gweithdrefnol i Farwolaethau Annisgwyl yn Ystod Plentyndod): Mae'r weithdrefn hon yn gosod safon ofynnol ar gyfer ymateb i farwolaethau annisgwyl yn ystod babandod a phlentyndod. Mae'n disgrifio'r broses o gyfathrebu, cydweithredu a rhannu gwybodaeth yn dilyn marwolaeth annisgwyl plentyn.

Mae'r PRUDiC yn berthnasol i bob marwolaeth annisgwyl mewn plant o'u genedigaeth tan eu pen-blwydd yn 18 oed, boed hynny o achosion naturiol, annaturiol, hysbys neu anhysbys, gartref, yn yr ysbyty neu yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd, hunanladdiadau ymddangosiadol a llofruddiaethau. Nid yw hyn yn cynnwys marw-enedigaethau a marwolaeth babanod cyn-hyfyw a anwyd cyn 24 wythnos.

Canolbwyntio ar ganlyniadau: Mae'r rhain yn nodau realistig y cytunwyd arnynt y gall y sawl sy'n defnyddio gwasanaethau neu ddarpariaeth a'u gweithiwr allweddol weithio tuag atynt. Fel arfer, maent yn ymwneud â chefnogi lles yr unigolyn. Bydd y canlyniadau'n amrywio o berson i berson ac o blentyn i blentyn oherwydd eu bod yn ymwneud â'r hyn sy'n bwysig i'r unigolyn hwnnw.

Seiliedig ar gryfderau: Mae dull seiliedig ar gryfderau yn edrych - mewn ffordd gydweithredol neu sy'n canolbwyntio ar y plentyn neu’r unigolyn - ar alluoedd ac amgylchiadau'r unigolyn. Mae angen i chi gael darlun llawn o'i fywyd, felly mae'n bwysig cynnwys a gweithio gydag eraill, fel asiantaethau eraill a rhwydwaith y person, gyda'r caniatâd priodol.

Prawf galluedd dau gam: Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol (MCA) wedi'i chynllunio i ddiogelu a grymuso pobl nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud eu penderfyniadau eu hunain am eu gofal a'u triniaeth. Mae'n berthnasol i bobl 16 oed a throsodd.

Mae'n ymdrin â phenderfyniadau am bethau bob dydd, megis beth i'w wisgo neu beth i'w brynu pan fyddwch chi’n mynd i siopa, neu benderfyniadau difrifol sy'n newid bywydau, megis a ddylid symud i gartref gofal neu gael llawdriniaeth fawr.

Mae'r Ddedf Galluedd Meddyliol yn nodi prawf dau gam o alluedd:

  1. A oes gan y person nam ar y meddwl neu’r ymennydd o ganlyniad i salwch, neu ffactorau allanol fel defnyddio alcohol neu gyffuriau?
  2. A yw'r nam yn golygu nad yw'r person yn gallu gwneud penderfyniad penodol pan fydd angen? Ni fydd gan rai pobl y galluedd i wneud rhai penderfyniadau ond mae ganddynt y gallu i wneud rhai eraill. Gall galluedd meddyliol amrywio gydag amser hefyd – efallai na fydd gan rywun alluedd ar un adeg ond efallai y gall wneud yr un penderfyniad yn ddiweddarach.

Chwythu’r Chwiban: Dyma'r term a ddefnyddir yn aml pan fydd rhywun sy'n gweithio i sefydliad am godi pryder er budd y cyhoedd gyda rhywun mewn awdurdod. Fel arfer, mae'n ymwneud â chamweddau, megis twyll, diogelwch y cyhoedd, diogelu, camarfer, perygl, anghyfreithlondeb neu guddio’r materion hyn.

Pan fyddwch yn 'chwythu'r chwiban', byddwch yn codi pryderon ac yn rhoi gwybod am amheuon o gamweddau neu beryglon mewn perthynas â'ch sefydliad, staff neu'r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer cymunedau lleol. Mae hyn yn cynnwys:

  • gweithgarwch troseddol
  • diffyg cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol neu broffesiynol neu ofynion rheoliadol
  • camweinyddu cyfiawnder
  • perygl i iechyd a diogelwch
  • difrod i’r amgylchedd
  • cuddio unrhyw un o’r uchod yn fwriadol.

Gall hyn eich helpu i ddeall y mathau o faterion y gellir eu codi (ond nid yw'n rhestr gyflawn):

  • cam-drin plant neu oedolion sy'n agored i niwed (corfforol, rhywiol neu emosiynol)
  • torri polisïau a gweithdrefnau, gan gynnwys y rheolau sefydlog, gweithdrefnau ariannol a chod ymddygiad gweithwyr
  • ymddygiad sy'n debygol o niweidio enw da neu les ariannol eich sefydliad, fel defnydd llygredig neu afreolaidd o arian neu adnoddau cyhoeddus
  • diffygiol wrth ddiogelu gwybodaeth bersonol a sensitif (diogelu data)
  • darparu gwerth gwael am arian
  • rhyddhau gwybodaeth gyfrinachol heb awdurdod
  • esgeulustod a chamreoli difrifol
  • camddefnyddio pŵer
  • camweinyddu cyfiawnder
  • twyll a llygredd, er enghraifft, rhoi neu dderbyn rhywbeth fel llwgrwobrwyo.
Cyhoeddwyd gyntaf: 20 Hydref 2022
Diweddariad olaf: 8 Ebrill 2024
Diweddarwyd y gyfres: 8 Ebrill 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (55.9 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (249.9 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch