Safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu cenedlaethol - grŵp D.
Pwyntiau pwysig i’w nodi
- Mae’r safonau hyn yn cyfeirio at rai rolau enghreifftiol, ond nid ydynt yn nodi’r holl rolau a chyfrifoldebau ar draws y sector. Felly, dyletswydd sefydliadau yw nodi
o fewn eu gweithlu eu hunain, pa rolau sy’n gweddu i grwpiau penodol. Wrth
bennu hyfforddiant priodol ar gyfer pob aelod staff, bydd angen i’r sefydliad
sicrhau bod yr aelod staff wedi ei osod yn y grŵp sy’n briodol ar ei gyfer. Os yw
sefydliadau neu reolwyr yn ansicr pa grŵp yw’r un priodol, ac os yw’r rôl yn perthyn i fwy nag un grŵp, disgwylir i’r ymarferydd gael ei hyfforddi yn y grŵp uwch, er enghraifft os yw gweithiwr yn perthyn i grŵp B ac C, dylid ei hyfforddi ar lefel grŵp C - Drwy’r safonau i gyd, disgwylir i bob ymarferydd sy’n cychwyn mewn rôl newydd o grŵp B ymlaen fod wedi cwblhau hyfforddiant yn y grwpiau blaenorol cyn cychwyn y rôl. Fel arall, dylid ei gefnogi i gwblhau’r hyfforddiant yn ystod chwe mis cyntaf ei gyfnod sefydlu.
- Yn y grwpiau C i E, disgwylir i ymarferwyr wneud hyfforddiant cyffredinol
a hyfforddiant sy’n benodol i’r rôl. Bydd yr adran gyffredinol yn cynnwys hyfforddiant y dylai pob ymarferydd yn y grwpiau hyn ei gwblhau beth bynnag yw eu rôl neu’r sefydliad. Yn ogystal â’r hyfforddiant cyffredinol, fodd bynnag, bydd angen cytuno’n ffurfiol pa hyfforddiant sy’n benodol i’r rôl fel rhan o gynllun hyfforddi a datblygu personol yr unigolyn a bydd yn adlewyrchu elfennau penodol o’i rôl a’i gyfrifoldebau.
Rolau a chyfrifoldebau
Ymarferwyr grŵp D yw'r rhai sy'n gweithredu ar lefel uwch yn y broses ddiogelu. Maent yn rhoi cyngor, arweiniad a goruchwyliaeth (os yw'n berthnasol) i ymarferwyr grŵp C. Gallant wneud penderfyniadau lefel uwch, megis gwneud cais am orchmynion llys.
Byddai ymarferwyr grŵp D:
- â lefel uchel o wybodaeth ac arbenigedd yn eu maes mewn perthynas â diogelu
- yn cyfrannu at adolygiadau diogelu ac yn eu cadeirio pan fo angen
- yn gallu cynghori asiantaethau partner ar faterion diogelu a deall pwysigrwydd gwaith amlasiantaethol
- yn gallu cyfiawnhau eu penderfyniadau gan ddefnyddio deddfwriaeth, proses a gweithdrefnau
- yn ymwybodol o bwysigrwydd ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn / person ac effaith gadarnhaol hynny ar y broses ddiogelu
- yn sicrhau bod llais a rheolaeth yr unigolyn yn cael eu clywed yn y broses o wneud penderfyniadau, lle bo hynny'n bosibl, a byddai'n sicrhau bod ymarferwyr grŵp C yn eu maes gwasanaeth yn gweithio fel hyn.
Mae ymarferwyr grŵp D yn aml yn meddu ar rolau diogelu arbenigol, naill ai yn ogystal â phrif rôl neu fel ymarferydd diogelu arbenigol. Byddant yn rhoi cyngor a chymorth i gydweithwyr o fewn a’r tu allan i'w tîm a'u sefydliad. Bydd angen gwybodaeth a dealltwriaeth arnynt o'r safonau ar gyfer grwpiau A i C a bydd ganddynt brofiad a gwybodaeth o weithio mewn sefyllfaoedd mwy cymhleth hefyd. Er enghraifft, bydd gan ymarferwyr grŵp D ddealltwriaeth drylwyr o gyfraith diogelu ac amddiffyn. Byddant hefyd yn cefnogi cydweithwyr i gymhwyso'r gyfraith i'w hymarfer wrth wneud penderfyniadau ynghylch diogelwch unigolyn.
- Byddaf yn arwain agenda ddiogelu'r sefydliad
- Byddaf yn sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed ar bob cam o'r broses
- Byddaf yn defnyddio fy ngwybodaeth a'm harbenigedd i wella arferion diogelu.
Safonau hyfforddi, dysgu a datblygu (grŵp D)
Bydd angen i bob aelod o Grŵp D hefyd wybod popeth yng ngrwpiau A i C.
a) Sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag cael eu cam-drin, eu niweidio a'u hesgeuluso.
- Deall rôl a chyfrifoldebau penodol ymarferwyr mewn perthynas â'r plentyn neu'r oedolyn sy’n wynebu risg pan fo angen uwchgyfeirio.
- Deall y gwahanol fathau o eiriolaeth a sut maent yn berthnasol i'r broses ddiogelu a'r penderfyniadau sydd eu hangen ar y lefel hon.
- Deall yr holl ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i ddiogelu fel y mae wedi’i nodi yn y cyflwyniad i'r Safonau.
- Sicrhau bod diwylliant cefnogol ar gyfer meithrin perthynas sy'n creu ymddiriedaeth gyda phobl, teuluoedd a gofalwyr a sicrhau bod cryfderau a risgiau yn cael yr un pwyslais yn y broses ddiogelu.
- Sicrhau bod llais a rheolaeth yr unigolyn yn amlwg ar bob cam o'r broses.
- Sicrhau bod eich gweithlu'n cael ei annog i alluogi pobl i wneud penderfyniadau am y pethau sy'n bwysig iddyn nhw, ac yn rheoli eu bywyd cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys esbonio penderfyniadau nad ydynt yn eu hoffi neu nad ydynt yn cytuno â nhw.
Hyrwyddo’r gwaith o ddiogelu pobl
b) Hyrwyddo ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn / person.
- Bod yn gyfrifol am hyrwyddo diwylliant cynhwysol sy’n seiliedig ar gryfderau.
- Sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi i gydnabod effaith cefndir ethnig, diwylliannol a chrefyddol y teulu wrth asesu risg a rheoli pryderon.
- Sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi i asesu gallu pobl i wneud penderfyniadau am risg, gan gydbwyso eu hawliau a'u cyfrifoldebau.
- Sicrhau bod eich gweithlu'n cael ei gefnogi i gynnal, cyfrannu at a chefnogi asesiadau neu ymholiadau rhyngasiantaethol, gan gynnwys cael barn yr unigolyn ar risg a rheoli risg, ac atgyfeirio at asiantaethau eraill pan fo'n briodol.
c) Cymryd rhan mewn prosesau diogelu.
- Ystyried fframweithiau a phrosesau asesu amlasiantaethol eraill sy'n sail i ymarfer sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
- Arwain dealltwriaeth a chyfraniad eich sefydliad wrth fesur effeithiolrwydd ac ansawdd gwasanaethau.
- Cyfrannu at neu arwain ar ddatblygu a diweddaru polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau diogelu mewnol a rhanbarthol.
- Sicrhau bod gweithdrefnau cywir ar waith a chynghori eraill am yr angen i rannu gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth.
- Deall y broses atgyfeirio a'r llwybrau ar bob lefel.
ch) Cefnogi eraill i ddiogelu pobl.
- Sicrhau bod eich rheolwyr a'ch partneriaid yn cael eu cefnogi i helpu eraill i gyflawni eu dyletswyddau diogelu.
- Sicrhau eich bod yn hyrwyddo amgylchedd cefnogol a bod eich staff yn gwybod pryd i gynnig a gofyn am gymorth.
- Sicrhau bod y gweithlu'n ymwybodol o’r effaith emosiynol y gall diogelu ei achosi, a ble a phryd i ofyn am gymorth.
- Sicrhau bod eich gweithlu'n gwybod sut i reoli a monitro pan wneir honiadau o gamdriniaeth yn erbyn ymarferwyr sydd mewn sefyllfa o ymddiriedaeth, gan gynnwys uwchgyfeirio a gofyn am gymorth.
- Staff cymorth i allu cyflwyno gwybodaeth yn briodol mewn cyfarfodydd ac mewn adroddiadau ysgrifenedig, yn unol â'r gofynion cyfreithiol.
- Creu a chefnogi amgylchedd gwaith sy'n caniatáu i bobl ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ym maes diogelu.
- Cwblhau neu gyflawni goruchwyliaeth ar ymarferwyr grŵp C a chefnogi staff a chymheiriaid eraill.
- Sicrhau bod eich gweithlu'n deall y prosesau ar gyfer nodi a yw oedolyn, plentyn neu berson ifanc yn hysbys i weithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol ac asiantaethau eraill.
d) Gweithio gydag eraill i ddiogelu pobl.
- Nodi a chyfrannu at benderfyniadau sy'n trafod pobl risg uchel, fel Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA).
- Pan fo pryderon diogelu, gweithio gyda chydweithwyr ac asiantaethau eraill i ddiogelu oedolion a phlant sydd mewn perygl.
- Sicrhau bod eich rheolwyr ac ymarferwyr grŵp C yn gwybod pryd i gysylltu ag asiantaethau eraill ynghylch asesu a rheoli cynlluniau diogelu.
- Gweithio i ddatrys ac uwchgyfeirio anawsterau o ran adnoddau neu wasanaethau a allai effeithio ar ddarparu cefnogaeth a gofal diogel.
- Ymdrin ag ymateb annigonol gan sefydliadau neu asiantaethau.
- Gallu uwchgyfeirio materion drwy'r protocolau datrys anghydfodau pan fo angen.
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd adolygu gan gymheiriaid a chyfarfodydd amlddisgyblaethol, a’u cadeirio, yn ôl yr angen.
- Gallu cael cefnogaeth a help mewn sefyllfaoedd pan fo angen mwy o arbenigedd a phrofiad.
- Gallu cynghori cydweithwyr am ganllawiau, polisïau a gweithdrefnau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol cymeradwy.
- Helpu gyda chyfleoedd dysgu a darparu diweddariadau.
- Cydymffurfio â'r ddyletswydd i gydweithredu[1] (os yw'n berthnasol).
dd) Cynnal atebolrwydd proffesiynol.
- Deall diben a phroses cadeirio adolygiadau ymarfer plant neu oedolion, adolygiadau dynladdiad ac Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl (SUSR).
- Dadansoddi adolygiadau rheolaidd wedi'u dogfennu o'ch arferion diogelu eich hun (a / neu eich tîm).
- Ymgorffori egwyddorion goruchwylio diogelu effeithiol a chymorth gan gymheiriaid.
- Dylanwadu ar fframweithiau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ar gyfer asesu risg a niwed.
- Arwain ar gymhwyso gwerthoedd ac egwyddorion craidd diogelu ar draws y sefydliad.
[1] Dyletswydd i gydweithredu: Gweithdrefnau Diogelu Cymru