Jump to content
Grŵp B

Trosolwg

Mae ymarferwyr Grŵp B yn gweithio gyda phobl mewn lleoliad grŵp neu ar sail un-i-un.

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys ymarferwyr sydd neu nad ydynt wedi'u cofrestru neu eu rheoleiddio, a gwirfoddolwyr.

Bydd ganddynt gyfrifoldeb arbennig i'r bobl y maent yn gweithio gyda nhw.

Bydd angen lefel uwch o wybodaeth arnynt na phobl yng ngrŵp A oherwydd pa mor agos y maent yn gweithio gyda phobl.

Efallai y bydd gan y bobl y maent yn gweithio gyda nhw bryderon diogelu neu beidio.

Os oes pryderon diogelu, bydd llinell hysbysu glir yn y sefydliad.

Byddant yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb i hysbysu am bryderon, yn fewnol ac yn uniongyrchol i’r gwasanaethau cymdeithasol.

Egwyddorion cofiadwy

  • Rydw i’n rhan allweddol o'r broses ddiogelu.
  • Rydw i’n gwybod pryd, sut ac i bwy i hysbysu.
  • Byddaf yn sicrhau bod llais yr unigolyn yn cael ei glywed.

Yn ôl y safonau, dylai pobl yng ngrŵp B wybod:

  • am ddeddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, a chodau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol ynghylch diogelu
  • sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod
  • am y ffactorau, sefyllfaoedd a gweithredoedd a allai arwain neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
  • sut i hysbysu, ymateb a chofnodi pryderon neu honiadau sy'n ymwneud â diogelu.

Canlyniadau dysgu

Byddant eisoes wedi cwblhau dysgu grŵp B.

Ar ddiwedd gweithgaredd dysgu, fe fyddan nhw’n:

  • gwybod y ddeddfwriaeth a'r polisïau perthnasol, codau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol sy'n adlewyrchu eu rôl mewn perthynas â diogelu
  • gallu disgrifio sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod
  • gwybod sut i fod yn chwilfrydig pan fyddant yn dyst neu’n amau camdriniaeth, niwed neu esgeulustod, neu os bydd rhywun yn dweud eu bod yn cael eu cam-drin
  • gallu esbonio ffactorau, sefyllfaoedd a gweithredoedd a allai arwain neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
  • gwybod sut, pryd ac i bwy i hysbysu am wahanol fathau o gamdriniaeth, esgeulustod a niwed.

Pethau i'w hystyried

Rydym yn argymell yn gryf ddysgu cyfunol ar gyfer grŵp B.

Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant ar-lein sylfaenol, ystafell ddosbarth rithwir ac addysgu a dysgu wyneb yn wyneb.

Dylai'r adnoddau a'r dulliau dysgu adlewyrchu gwybodaeth a chymhwysedd ar gyfer rôl a chyfrifoldebau ymarferwyr yn y grŵp hwn. Maent yn cynnwys:

  • llyfrau gwaith cyn ac ar ôl y cwrs, gwybodaeth ysgrifenedig, fideos, podlediadau a deunyddiau eraill (i gyd o ffynhonnell ddibynadwy)
  • goruchwyliaeth un-i-un, mentora a chefnogaeth rheoli ar gyfer trafodaeth a myfyrio ar arfer
  • cysgodi, cyfarfodydd tîm a grwpiau cefnogaeth cymheiriaid
  • ymarferion hyfforddi gan gynnwys astudiaethau achos ac adolygiadau ymarfer
  • mae gan Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol lyfr gwaith diogelu i helpu ymarferwyr i ddeall eu rôl a’u cyfrifoldeb dros ddiogelu pobl, ac mae’n annog ymarfer myfyriol a myfyrio ar yr hyn a ddysgwyd
  • adnoddau i ymarferwyr gofnodi dysgu a datblygiad.

Pethau eraill i'w hystyried

  • Mynediad at offer TG, a ffyrdd o hyfforddi pobl na allant gael mynediad at hyfforddiant ar-lein.
  • Rhoi ardystiad neu achrediad hyfforddiant ar gwblhau (neu gydnabyddiaeth arall), fel y gall ymarferwyr drosglwyddo hyfforddiant a dysgu wrth newid rolau.
  • Adolygiad goruchwyliwr neu fentor, a chadarnhad o wybodaeth, dealltwriaeth a chymhwysedd yr ymarferydd.

Faint o hyfforddiant, dysgu a datblygu?

  • O leiaf chwe awr o hyfforddiant i gwmpasu'r canlyniadau dysgu.
  • Dylai gweithwyr newydd heb unrhyw hyfforddiant diogelu blaenorol gael hyfforddiant yn ystod pythefnos neu bedair wythnos gyntaf eu cyflogaeth neu wirfoddoli, neu o leiaf o fewn cyfnod prawf rôl newydd (chwe mis).
  • Efallai y bydd hyfforddiant ychwanegol hefyd ar bynciau penodol i'r rôl.
  • Dylai hyfforddiant, dysgu a datblygiad gloywi fod yn:
    • lleiafswm o chwe awr
    • yn barhaus dros gyfnod o dair blynedd
    • wedi’i wneud os oes newid i ddeddfwriaeth diogelu
    • wedi’i wneud fel sy'n ofynnol gan gyflogwr neu asiantaeth
  • ar bynciau penodol i'r rôl.
  • Dylai hyfforddiant, dysgu a datblygiad ganolbwyntio ar fyfyrio a datblygu gwybodaeth a sgiliau diogelu sy'n gysylltiedig â'r rôl.
Cyhoeddwyd gyntaf: 9 Tachwedd 2023
Diweddariad olaf: 13 Tachwedd 2023
Diweddarwyd y gyfres: 10 Rhagfyr 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (44.3 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (199.7 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch