Mae gan ymarferwyr Grŵp C gyfrifoldeb uniongyrchol am ddiogelu pobl:
- sydd â rôl asesu sy'n gysylltiedig â'r broses ddiogelu
- sy'n gweithredu ar lefel lle gallant roi cyngor ar ddiogelu i'r rhai yng ngrwpiau A a B
- mewn lleoliad y maent yn gweithio ynddo neu'n ei reoli
- y maent yn treulio llawer o amser gyda nhw heb oruchwyliaeth mewn lleoliad lle mae risg uwch o bryderon diogelu.
Yn ogystal, gall ymarferwyr Grŵp C:
- fod yn berson diogelu dynodedig sefydliad
- gymryd rhan fwy blaenllaw mewn penderfyniadau diogelu
- chwarae rhan weithredol mewn grwpiau craidd a gweithgareddau cynllunio amddiffyn.
Dylai fod rhywfaint o hyblygrwydd i ddyrchafu rhai staff i grŵp D os ydynt o’r farn bod eu rôl yn gwarantu hyfforddiant mwy dwys. Gweler: Safeguarding Children Intercollegiate Document (2019) (Saesneg yn unig).
Mae dyletswyddau diogelu yn fwy ar gyfer ymarferwyr grŵp C.
Bydd yn rhaid iddynt wneud penderfyniadau ynghylch cadw pobl yn ddiogel, a phryd y mae angen iddynt roi prosesau amddiffyn ar waith.
Bydd angen i’r ymarferwyr hyn feddu ar yr holl wybodaeth a dealltwriaeth o’r safonau yng ngrwpiau A a B ynghyd â gwybodaeth ychwanegol i sicrhau eu bod yn cyflawni eu rôl yn unol â’r gyfraith.
Mae hyfforddiant diogelu grŵp C generig y mae’n rhaid i bawb yng ngrŵp C ei wneud.
Pan fydd gan ymarferwyr rolau neu gyfrifoldebau diogelu ychwanegol, bydd angen iddynt wneud hyfforddiant perthnasol penodol ar ôl iddynt gwblhau’r hyfforddiant grŵp C generig.
Bydd hyn yn wahanol i ymarferwyr unigol hyd yn oed o fewn asiantaethau a sefydliadau.
Er enghraifft: ym maes iechyd, bydd angen hyfforddiant arbenigol ar rai pediatregwyr grŵp C ar gynnal profion meddygol amddiffyn plant ac hysbysu amdanynt.
Bydd yr hyfforddiant arbenigol hwn yn aml yn cael ei ddiffinio ac yn ofynnol gan gyrff proffesiynol neu reoleiddiol ar lefel genedlaethol neu lefel asiantaeth.
Efallai y bydd cytundebau lleol hefyd ar gyfer gofynion hyfforddi penodol.
Efallai y bydd gan rai ymarferwyr grŵp C gyfrifoldebau sy’n rhan o safonau grŵp D.
Os yw hyn yn wir, dylai’r ymarferydd hyfforddi i fodloni safonau grŵp D fel ei fod yn barod ar gyfer ei rôl.
Mae angen i ymarferwyr o grŵp C ymlaen fod yn ymwybodol na all y fframwaith hwn gwmpasu pob rôl neu swydd.
Yr ymarferydd sy’n gyfrifol am asesu eu hanghenion dysgu eu hunain.
Mae angen i sefydliadau nodi gofynion ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), sy'n berthnasol i'w sector.
Egwyddorion cofiadwy
- Rydw i’n deall bod llais a rheolaeth pobl yn allweddol i wneud penderfyniadau – ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn a/neu'r person.
- Rydw i’n deall rolau a chyfrifoldebau pawb yn y broses ddiogelu.
- Rydw i’n dangos y gallu i wneud penderfyniadau clir a chymesur.
Yn ôl y safonau, dylai pobl yng ngrŵp C wybod:
- am ddeddfwriaeth, polisïau cenedlaethol a chodau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol mewn perthynas â diogelu
- sut i weithio mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod
- am y ffactorau, sefyllfaoedd a gweithredoedd a allai arwain neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
- sut i hysbysu, ymateb a chofnodi pryderon neu honiadau sy'n ymwneud â diogelu
- sut i hyrwyddo ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn a/neu'r person
- sut i gymryd rhan mewn prosesau diogelu
- sut i gefnogi eraill i ddiogelu pobl (ar gyfer y rhai sydd â chyfrifoldeb goruchwylio)
- sut i weithio gydag eraill i ddiogelu pobl
- sut i gynnal atebolrwydd proffesiynol.