Jump to content
Adroddiad blynyddol Cynllun Cyflawni'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol 2025 i 2026: Blwyddyn o gynnydd a phartneriaeth
Newyddion

Adroddiad blynyddol Cynllun Cyflawni'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol 2025 i 2026: Blwyddyn o gynnydd a phartneriaeth

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni wedi cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol sy'n nodi'r cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun Cyflawni'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026. 

Mae’r cynllun cyflawni yn cynnwys camau gweithredu i’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru ganolbwyntio arnynt o 2024 i 2027 i ymdrin â'r heriau y mae'n eu hwynebu. Mae'n adeiladu ar Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae ein hadroddiad blynyddol yn tynnu sylw at gyflawniadau ar draws saith thema'r strategaeth gweithlu a’r tair egwyddor sylfaenol - llesiant, y Gymraeg a chynhwysiant - gan osod y cyfeiriad ar gyfer gwelliant parhaus yn y blynyddoedd i ddod.

Mae'r adroddiad yn adlewyrchu cyflawniad ar y cyd rhwng Gofal Cymdeithasol Cymru, Llywodraeth Cymru, partneriaid cenedlaethol a'r sector gofal cymdeithasol gyfan, i adeiladu gweithlu gofal cymdeithasol brwdfrydig, ymgysylltiedig a gwerthfawr, sydd â'r gallu, y cymhwysedd a'r hyder i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl Cymru.

Mae’r cynllun cyflawni yn cael ei fonitro gan y Grŵp Gweithredu Strategol, sy'n cynnwys partneriaid cenedlaethol. Rydyn ni’n cydweithio a gwneud penderfyniadau i weithio tuag at uchelgeisiau y strategaeth gweithlu. Mae'r grŵp yn cael ei gyd-gadeirio gan ein Prif Weithredwr Sarah McCarty a Taryn Stephens, Dirprwy Brif Swyddog Gofal Cymdeithasol yng Nghymru yn Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: "Mae'r adroddiad hwn yn dangos y cynnydd sydd wedi'i wneud yn ystod ail flwyddyn Cynllun Cyflawni'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol 2024 i 2027, a'r hyn sydd wedi'i gyflawni drwy gydweithio ar draws y sector.

"Er bod gofal cymdeithasol yn parhau i wynebu heriau, mae cynnydd da wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf mewn nifer o feysydd allweddol. Mae partneriaid wedi cydweithio i wella llesiant staff, denu a chadw gweithwyr, darparu gwell cyfleoedd dysgu a datblygu, cryfhau sgiliau arwain, a gwella'r gwaith o gynllunio'r gweithlu. Mae hyn yn helpu i adeiladu gweithlu gofal cymdeithasol medrus, gwydn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

"Er y dylen ni ddathlu'r hyn sydd wedi'i gyflawni hyd yma, rydyn ni'n gwybod bod mwy o waith i'w wneud o hyd. Wrth i ni barhau i gyflawni'r cynllun presennol, rydyn ni hefyd wedi dechrau datblygu cam nesaf y strategaeth gweithlu. Byddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol sy'n cynrychioli cyflogwyr, y gweithlu a phobl sydd â phrofiad bywyd i nodi blaenoriaethau'r dyfodol a sicrhau bod y cynllun cyflawni nesaf ar gyfer 2027 i 2030 yn adlewyrchu heriau, cyfleoedd ac anghenion gwirioneddol gofal cymdeithasol ledled Cymru."

Dywedodd Taryn Stephens, Dirprwy Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: "Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd, gan ddarparu'r cymorth sy'n helpu pobl i fyw'n annibynnol, cynnal eu llesiant, a chadw mewn cysylltiad â'u cymunedau. Mae eu hymroddiad, eu sgiliau a'u tosturi wrth wraidd gofal cymdeithasol ledled Cymru.

"Mae'r camau sydd wedi'u cyflawni drwy Gynllun Cyflawni'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn helpu i gryfhau'r cymorth sydd ar gael i'r gweithlu, creu mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu, cefnogi llesiant, a meithrin yr arweinyddiaeth a'r gallu yn y gweithlu sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.

"Er bod heriau o hyd, mae'r cynnydd sy'n cael ei amlygu yn yr adroddiad hwn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio, uchelgais ar y cyd, a ffocws parhaus ar gefnogi ein gweithlu. Drwy adeiladu ar y sylfeini hyn, gallwn ni sicrhau bod gofal cymdeithasol mewn sefyllfa dda i ddiwallu anghenion newidiol pobl a chymunedau ledled Cymru."

Prif uchafbwyntiau'r adroddiad

Llesiant

  • Mynychodd mwy na 780 o bobl ein sesiynau llesiant.
  • Cafodd canolfan llesiant ddigidol newydd o'r enw Ffordd ei lansio drwy'r cynllun strategol ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl i gefnogi iechyd a llesiant y gweithlu iechyd meddwl a'r gweithlu ehangach.
  • Fe wnaehton ni barhau i hyrwyddo gwasanaeth cymorth iechyd meddwl Canopi.

Y Gymraeg

  • Cafodd mwy na 270 o weithwyr gofal cymdeithasol gymorth i wella eu sgiliau Cymraeg drwy diwtoriaid a dysgu ar-lein.
  • Fe wnaethnon ni barhau i hyrwyddo pwysigrwydd defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith a rhannu gwybodaeth am yr hyn sydd ar gael drwy dudalennau gwe Defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.
  • Cyflwynon ni gwrs Croeso newydd dan arweiniad tiwtor, mewn cydweithrediad â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, i helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.

Cynhwysiant

  • Cyhoeddon ni adroddiad cyntaf Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu (WRES) ar gyfer gofal cymdeithasol i fonitro profiadau staff o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
  • Lansion ni rhaglen arweinyddiaeth beilot i gefnogi pobl o gefndiroedd amrywiol i symud ymlaen i rolau arwain.
  • Lansion ni pecyn e-ddysgu gwrth-hiliaeth dwyieithog a rhaglen hyfforddi'r hyfforddwr i gefnogi arferion gwrth-hiliol ar draws gofal cymdeithasol.

Gweithlu ymgysylltiedig, llawn cymhelliant ac iach

Denu a recriwtio

  • Cyrhaeddodd ymgyrchoedd recriwtio cenedlaethol filiynau o bobl gan hyrwyddo gyrfaoedd mewn meysydd fel gofal preswyl plant, gwaith cymdeithasol, gofal cartref ac ailalluogi.
  • Cyrhaeddodd Wythnos y Dysgwyr ddwyieithog 2,850 o ddisgyblion ysgolion cynradd ledled Cymru, gan helpu i godi ymwybyddiaeth o yrfaoedd a rolau mewn gofal cymdeithasol.
  • Dathlon ni'r gweithlu yn Gwobrau 2025, a denodd Gwobrau 2026 nifer uchaf erioed o geisiadau, sef 141.

Modelau gweithlu di-dor

  • Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Fframwaith Ymarfer Amlasiantaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Plant i gefnogi gweithio amlasiantaethol ledled Cymru.
  • Gwnaeth partneriaid barhau i gydweithio drwy fyrddau gweithlu rhanbarthol a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
  • Cafodd ap newydd ei lansio drwy'r cynllun strategol ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl i gefnogi gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy (AMHPs) a meddygon Adran 12 sy'n ymwneud ag asesiadau iechyd meddwl.

Adeiladu gweithlu sy'n barod yn ddigidol

Addysg a dysgu rhagorol

  • Cafodd adolygiad annibynnol o lwybrau addysg gwaith cymdeithasol ei gomisiynu er mwyn mynd i'r afael â heriau recriwtio a'r gweithlu.
  • Cyhoeddon ni pecyn hyfforddi ar gyfer ymarferwyr Grŵp C yn seiliedig ar y safonau cenedlaethol newydd ar gyfer hyfforddiant, dysgu a datblygu ym maes diogelu.
  • Cynhaliodd Cymru ei dwy gynhadledd gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy gyntaf i godi proffil y rôl a chryfhau rhwydweithiau proffesiynol.

Arweinyddiaeth ac olyniaeth

Cyflenwad a siâp y gweithlu

Dewch o hyd i fwy o dystiolaeth ynglŷn â'n cynnydd yn erbyn uchelgeisiau'r strategaeth.