Skip to main content
Hygyrchedd y safle

Covid-19: Gwybodaeth, arweiniad ac adnoddau i'ch cefnogi trwy'r pandemig

Tudalen hafan Covid-19

Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd

Gofynnol er mwyn cofrestru :

  1. Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheolaeth Breswyl Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon

  1. Tystysgrif Prifysgol Camu Ymlaen i Reoli (Gofal Cymdeithasol Cymru)

neu

Unrhyw un o’r cymwysterau lefel 3 arall ar y Fframwaith Cymwysterau ar gyfer gweithwyr cartref gofal i oedolion.

ac

Wedi cofrestru ar y Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (unrhyw lwybr rheoli) Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei gwblhau yn ei gyfnod cofrestru 3 mlynedd.

neu

Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol, Nyrsio neu Therapi Galwedigaethol.

ac unai

  1. Tystysgrif Ôl-radd mewn Rheoli Ansawdd Ymarfer mewn Gofal Cymdeithasol

neu

Cymhwyster rheoli generig ar yr amod ei fod:

  • yn o leiaf lefel 3
  • ganddo o leiaf 37 credyd
  • wedi’i asesu yn y gweithle ar gyfer cymhwysedd galwedigaethol a bod y person cofrestredig mewn rôl iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol pan gafodd y cymhwyster ei ymgymryd.

Mae’r rheolwyr sy’n dal un o’r graddau a rhestrwyd ond dim un o’r cymwysterau rheolwyr, yn gallu ceisio cofrestru ond fe fydd angen cwblhau'r cymhwyster perthnasol yn ei gyfnod cofrestru 3 mlynedd.

Mae angen cofrestru


Cofrestrwch yma

Gofynion eraill

Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.

Mae'r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.

Cymwysterau eraill a dderbyniwyd

  1. NVQ 4 mewn Arwain a Rheoli ar gyfer Gwasanaethau Gofal

  2. NVQ 4 mewn Rheoli (wedi’i asesu mewn lleoliad gofal cymdeithasol)

  3. NVQ 4 Dyfarniad Rheolwr Cofrestredig

  4. NVQ 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)

  5. NVQ 4 mewn Gofal

Neu i bobl sydd wedi cofrestru cyn mis Mai 2013:

  1. Cymhwyster mewn gwaith cymdeithasol, wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru

Cymwysterau eraill y DU a dderbyniwyd

Lloegr:

  1. Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc (Rheolaeth Breswyl Oedolion) Lloegr

Mae’n rhaid i bob gweithiwr sy’n meddu ar y cymhwyster hwn gwblhau 10 credyd ychwanegol (er mwyn gwneud iawn am y cymhwyster llai yn Lloegr).

Bydd angen i weithwyr sydd wedi dilyn y naill neu'r llall o'r unedau canlynol:

• Deall sut mae rheoli tîm
• Deall ymarfer goruchwylio proffesiynol

gwblhau 3 chredyd ychwanegol am bob uned a ddilynwyd (o blith y rhai a enwir uchod) o'r banc unedau dewisol, gan nad yw'r unedau hyn yn rhan o’r cymhwyster sydd wedi cael ei ddatblygu i’w ddefnyddio yng Nghymru.

Mae hyn yn golygu y bydd angen i bobl sy’n meddu ar y cymhwyster hwn gwblhau 10, 13 neu 16 credyd ychwanegol.

  1. Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Gofal Oedolion

Mae’n rhaid i bob gweithiwr sy'n meddu ar y cymhwyster hwn gwblhau 10 credyd ychwanegol (er mwyn gwneud iawn am y cymhwyster llai yn Lloegr) ar gyfer y Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheolaeth Breswyl Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon.

  1. Prentisiaeth Uwch mewn Arwain a Rheoli Gofal (Gofal Cymdeithasol Oedolion) sydd wedi’i rhestru yn Fframwaith Prentisiaethau Skills for Care

Gogledd Iwerddon:

Nid oes angen unrhyw ddysgu ychwanegol. Yr un yw’r cymhwyster yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon.

Yr Alban:

  1. SVQ Lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Gwasanaethau Gofal

Nid oes angen unrhyw ddysgu ychwanegol.

Gofynion sefydlu

Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Bydd hyn yn cynnwys rheolwyr. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.

Disgwylir hefyd i bob rheolwr newydd gael copi o'r ddogfen Y Rheolwr Gofal Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol.

Gofynion hyfforddiant a dysgu ôl-gofrestru (PRTL)

Mae’n rhaid i bob unigolyn cofrestredig gyflawni 90 awr neu 15 diwrnod o hyfforddiant a dysgu ôl-gofrestru ar gyfer pob cyfnod o dair blynedd y mae'r unigolyn wedi cofrestru.

Rhagor o wybodaeth am hyfforddiant a dysgu ôl-gofrestru.