Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd
Gofynnol ar gyfer ymarfer:
City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
ac
City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
neu
City and Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
neu
City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Bydd gweithwyr sydd heb gyflawni un o’r cymwysterau a restrir yn gallu gwneud cais i gofrestru os byddant yn cwblhau’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (AWIF) neu Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn deuddeg mis o ddechrau eu swydd. Bydd angen iddynt hefyd gyflawni un o’r cymwysterau gofynnol o fewn y cyfnod cofrestru cyntaf o dair blynedd.
Fe dderbynnir unrhyw gymwysterau a rhestrwyd ar gyfer rolau uwch yn yr un maes gwasanaeth ei dderbyn ar gyfer cofrestru yn y rôl yma hefyd.
Gofynion eraill
Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.
Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.
Os bydd gweithwyr gofal cartref yn gweithio gydag oedolion a phlant, mae’n ddyletswydd ar y cyflogwyr i wneud yn siŵr bod y rheolwr wedi cyflawni'r unedau priodol o fewn y cymwysterau yng nghyswllt oedolion a phlant, a bod ganddo’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl.
Cymwysterau eraill a dderbyniwyd
City and Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
Gydag argymhelliad fod y gweithiwr yn cwblhau’r Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal Cymdeithasol Cymru (oedolion).
Cymhwyster mewn gwaith cymdeithasol, wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru
Nyrs gofrestredig lefel gyntaf
Gradd mewn Therapi Galwedigaethol
NVQ 3 Gofal: Gofal Iechyd Meddwl
NVQ 3 Gofal: Byw gyda Chymorth
NVQ 3 mewn Gofal
NVQ 3 Gofal: Gofal Parhaus
NVQ 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)
NVQ 3 Hyrwyddo Annibyniaeth
Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon
Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Adferiad
Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Ffisiotherapi
Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Therapi Galwedigaethol
Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol
NVQ 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
NVQ 2 mewn Gofal
NVQ 2 Gofal: Gofal Personol Uniongyrchol
NVQ 2 Gofal: Cymorth Byw’n Annibynnol
NVQ 2 Gofal: Gofal Datblygiadol
NVQ 2 Gofal: Cymorth gofal cartref
Diploma Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon
Diploma Lefel 2 mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol
Cymwysterau eraill y DU a dderbyniwyd
Dylai gweithwyr sy’n symud i Gymru sy’n meddu ar gymhwyster a gydnabyddir gan Skills for Care (Lloegr), y Northern Ireland Social Care Council neu’r Scottish Social Services Council cwblhau agweddau o’r fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol sy’n berthnasol i’w rôl a’r gwasanaeth a hefyd rhaid cwblhau’r Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal Cymdeithasol Cymru (oedolion) er mwyn gallu gwneud cais i gofrestru.
Gofynion sefydlu
Mae Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (AWIF) yn fframwaith sefydlu newydd ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd. Mae'n ymdrin â gofal a chymorth i oedolion, a phlant a phobl ifanc. Mae’n cynnig strwythur ar gyfer sefydlu pawb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, ac mae’n amlinellu’r wybodaeth a’r sgiliau y mae angen i weithwyr newydd eu meithrin yn ystod eu chwe mis cyntaf yn y swydd.
Mae’n ddyletswydd ar bob cyflogwr i sicrhau bod ei weithwyr newydd yn cael hyfforddiant sefydlu priodol, gan ddefnyddio'r fframwaith hwn. Mae’n bosibl bod y rôl, y sefydliad neu'r sector yn newydd i'r gweithwyr.
Datblygiad proffesiynol parhaus DPP (a elwid gynt yn PRTL)
Mae’n rhaid i bob unigolyn cofrestredig gyflawni 90 awr neu 15 diwrnod o DPP ar gyfer pob cyfnod o dair blynedd y mae'r unigolyn wedi cofrestru.