Gwybodaeth am sut i adnewyddu’ch cofrestriad a beth fydd ei angen i'ch helpu i wneud hyn. Hefyd, gwybodaeth ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu bodloni’r gofynion adnewyddu.
Pam mae angen i chi adnewyddu
Mae cofrestru am hyd at dair blynedd. Ar ôl hynny bydd angen i chi wneud cais i adnewyddu eich cofrestriad, fel arall bydd yn dod i ben a bydd eich enw yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr ac ni fyddwch yn gallu ymarfer yn gyfreithlon yng Nghymru.
Trwy gael eich cofrestru rydych yn dangos eich bod yn addas i weithio ym maes gofal cymdeithasol trwy:
- fod â’r cymwysterau priodol
- bod yn addas i ymarfer o safbwynt corfforol a meddyliol
- bod â’r cymeriad a’r cymhwysedd cywir
- cytuno i ddilyn y Cod Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol
- cadarnhau eich bod yn bwriadu ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru yn ystod eich cyfnod cofrestru
- cadarnhau y byddwch yn ymarfer yng Nghymru yn y math o waith y gwnaethoch gais i gofrestru ar ei gyfer.
Sut i adnewyddu
Mae angen i chi adnewyddu’ch cofrestriad bob tair blynedd ar ôl dyddiad eich cofrestriad gwreiddiol. Bydd modd i chi gwblhau eich cais i adnewyddu’ch cofrestriad ar eich cyfrif GCCarlein 86 diwrnod cyn eich dyddiad adnewyddu. Byddwn yn anfon e-bost atoch ar yr adeg hon i'ch atgoffa chi.
Os yw’ch cais yn anghyflawn mae’n rhaid i chi ddarparu unrhyw wybodaeth sydd ar goll cyn y gellir adnewyddu’ch cofrestriad.
Mae’n rhaid i chi gwblhau’ch cais o leiaf 21 diwrnod cyn eich dyddiad adnewyddu. Os nad yw’r broses adnewyddu wedi’i chwblhau 21 diwrnod cyn eich dyddiad adnewyddu, byddwn yn anfon nodyn atgoffa ‘hysbysiad o fwriad i ddileu’ch enw oddi ar y Gofrestr’ atoch chi a’ch cyflogwr diwethaf hysbys.
Ni allwn sicrhau y byddwn yn prosesu ceisiadau adnewyddu mewn llai na 21 diwrnod. Oni bai eich bod wedi adnewyddu, bydd eich cofrestriad yn dod i ben un diwrnod ar ôl eich dyddiad adnewyddu.
Er mwyn adnewyddu’ch cofrestriad bydd angen i chi:
- fewngofnodi i’ch cyfrif GCCarlein
- dewis ‘Adnewyddu Fy Nghofrestriad‘ a chlicio ar 'Adnewyddu'
- bydd eich cyfrif yn dangos y wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym amdanoch. Byddwch yn gallu newid y wybodaeth hon
- cwblhau’r ffurflen a thalu’r ffi adnewyddu a nodir
- Cadarnhewch eich bod wedi cadw'ch hyfforddiant a'ch dysgu yn gyfredol.
Datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)
Mae’n rhaid i bob person cofrestredig (ac eithrio myfyrwyr gwaith cymdeithasol) gadw cofnod o’u DPP. Does dim angen i chi anfon tystiolaeth atom ni oni bai ein bod ni'n gofyn amdani.
Mae’n rhaid i chi drafod eich hyfforddiant a’ch dysgu yn rheolaidd gyda’ch rheolwr i sicrhau ei fod yn helpu i wella’ch darpariaeth gofal a chymorth. Bydd angen i chi gadarnhau bod hyn wedi'i wneud fel rhan o'ch adnewyddiad.
Efallai byddwn ni'n samplu cofnodion DPP, ond os byddwn yn gofyn i chi am y wybodaeth hon, byddwn yn rhoi digon o amser i chi anfon yr hyn sydd angen.
Cymeradwyo’ch cais adnewyddu
Gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol
Ni fydd angen i'r mwyafrif o weithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol gael eu cais adnewyddu wedi'u cymeradwyo.
Gweithwyr gofal cymdeithasol
Mae’n rhaid cymeradwyo cais adnewyddu pob gweithiwr gofal cymdeithasol.
Wrth gwblhau eich cais gofynnir i chi ddewis o restr o bobl gymeradwy (llofnodwyr) ar gyfer eich sefydliad.
Bydd y llofnodwr yn mewngofnodi i’w gyfrif GCCarlein, gweld y wybodaeth a chwblhau’r cwestiynau gofynnol.
Cofiwch fod yn rhaid i’r sawl sy’n eich cymeradwyo fod yn unigolyn proffesiynol nad yw’n perthyn i chi ac nad oes ganddo/ganddi berthynas bersonol â chi.
Os ydych yn hunangyflogedig
Os ydych yn hunangyflogedig neu os oes gennych fusnes teuluol, rhaid i chi gadarnhau bod eich hyfforddiant a’ch dysgu yn gyfredol ac yn unol â’r safonau a nodir yn y Codau Ymarfer Proffesiynol.
Darllenwch ein tudalennau canllaw am wirio a chymeradwyo.
Methu bodloni gofynion adnewyddu
Gallwn ni wrthod eich cais am adnewyddu os nad ydych wedi bodloni holl ofynion cofresrtu.
Os yw’ch enw yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr ni fyddwch yn gallu gweithio mewn swydd sy’n gofyn am gofrestriad.
Mewn amgylchiadau eithriadol gallwch gyflwyno datganiad ysgrifenedig i’r Cofrestrydd yn egluro pam nad ydych wedi bodloni’r gofynion. I gael rhagor o wybodaeth neu i gyflwyno’ch datganiad ysgrifenedig, dylech e-bostio registrants@gofalcymdeithasol.cymru.
Beth sy’n digwydd os nad ydych yn adnewyddu
Os nad ydych yn adnewyddu’ch cofrestriad, bydd eich enw yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr, sy’n golygu na fyddwch wedi’ch cofrestru’n gyfreithlon i ymarfer yng Nghymru.
Os ydych am ddychwelyd i’r Gofrestr ar ôl i’ch enw gael ei thynnu oddi arni, bydd angen i chi:
- gwblhau cais newydd ar eich cyfrif GCCarlein
- talu unrhyw ffioedd dyledus.
Gwrthod adnewyddu cofrestriad
Os oes tystiolaeth sy'n cwestiynu addasrwydd unigolyn cofrestredig i weithio ym maes gofal cymdeithasol, gallwn ymchwilio'n bellach ir pryder.
Gallwn ni wrthod cofrestru neu gallwn ni osod sancsiynau ar eu cofrestriad, gan gynnwys:
- cyfyngiadau ar weithio
- gofynion hyfforddi
- profiad gwaith.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.