Mae'r NOS yn safonau ledled y DU sy'n disgrifio'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i weithio yn y sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a gofal plant i lefel ymarfer a gydnabyddir yn genedlaethol.
Rhennir y NOS mewn cyfresi, gyda meysydd gwaith a safonau sy'n rhoi enghreifftiau o sut y gellir defnyddio'r safon ar gyfer y rôl honno.
Pam mae'r NOS yn bwysig?
Mae pob NOS yn cynnwys meini prawf perfformiad a gwybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer arfer da. Gellir defnyddio NOS fel sail ar gyfer ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys cymwysterau, safonau ansawdd a meincnodi, dysgu a datblygu, recriwtio a rheoli perfformiad.