Jump to content
Dweud Eich Dweud 2026: Rhannwch eich profiad o weithio ym maes gofal cymdeithasol
Newyddion

Dweud Eich Dweud 2026: Rhannwch eich profiad o weithio ym maes gofal cymdeithasol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae ein harolwg Dweud Eich Dweud o’r gweithlu gofal cymdeithasol ar gyfer 2026 bellach ar agor.

Yr arolwg blynyddol hwn yw eich cyfle i rannu eich profiad o weithio ym maes gofal cymdeithasol gyda ni.

Bydd gennych chi gyfle i ateb cwestiynau am bethau fel eich iechyd a’ch llesiant, cyflog ac amodau, a sut rydych chi’n teimlo am weithio yn y sector.

Mae eich ymatebion yn rhoi cipolwg gwych i ni o sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn helpu i lywio’r cymorth rydyn ni a’n partneriaid yn ei gynnig. Maen nhw hefyd yn amlygu materion pwysig i Lywodraeth Cymru ac yn ein helpu i fonitro tueddiadau dros amser.

Bydd yr arolwg yn cymryd tua 20 munud i’w gwblhau. Bydd eich ymatebion yn gwbl ddienw – ni fydd neb yn gwybod pwy sydd wedi cymryd rhan yn yr arolwg.

Bydd yr arolwg yn cau ar 4 Mawrth.

Cwblhewch yr arolwg nawr!

Cliciwch yma i agor arolwg Dweud Eich Dweud 2026.

Hyd yn oed os ydych chi wedi gadael y sector, bydden ni wrth ein bodd yn clywed am eich profiadau. Bydd cyfle i chi rannu eich barn fel rhan o’r broses.

Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael cyfle i gymryd rhan mewn raffl i ennill taleb siopa gwerth £50.

Ar ddiwedd yr arolwg, byddwch chi hefyd yn cael cyfle i fynegi eich diddordeb mewn cymryd rhan mewn grŵp ffocws neu gyfweliad unigol. Bydd y rhain yn ein helpu i gael dealltwriaeth ddyfnach o'r pynciau sy'n cael eu trafod yn yr arolwg.

Dyma’r bedwaredd tro i ni gynnal yr arolwg, ar ôl ei lansio yn 2023.

Rydyn ni wedi comisiynu tîm o ymchwilwyr annibynnol yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Pharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd i wneud y gwaith hwn.

Byddwn ni'n rhannu’r canlyniadau ar ein gwefan yn ddiweddarach yn 2026.

Dywedodd Sarah McCarty, ein prif weithredwr:

"Mae’r arolwg hwn yn gyfle i chi leisio’ch barn drwy rannu’ch profiadau o weithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

"Mae’ch barn yn helpu siapio’r cymorth rydyn ni a sefydliadau eraill yn ei ddarparu i chi a’ch cyflogwr.

"Dyma’r unig arolwg cenedlaethol sy’n rhoi darlun clir o sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol ledled Cymru.

"Rydyn ni’n gwybod eich bod yn brysur ac efallai nad yw llenwi arolwg yn teimlo fel blaenoriaeth. Ond drwy gymryd yr amser i rannu’ch barn, byddwch yn ein helpu i ddeall beth sy’n bwysig i chi.

"Peidiwch â cholli’ch cyfle i ddweud eich dweud."

Beth oedd canfyddiadau arolwg 2025?

Rydyn ni wedi rhannu canlyniadau ein harolwg 2025 yn ddiweddar, a ddangosodd fod lles wedi gwella ond bod pryder yn parhau’n uchel.

Os hoffech wybod mwy am ein harolygon blaenorol, gallwch edrych yn ôl ar y canfyddiadau drwy glicio ar y dolenni canlynol.

Dweud Eich Dweud 2025

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am arolwg 2025.

Dweud Eich Dweud 2024

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am arolwg 2024.

Dweud Eich Dweud 2023

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am arolwg 2023.

Darganfod mwy

Ewch i'n hafan Dweud Eich Dweud i ddarganfod mwy am arolwg 2026, neu cwblhewch yr arolwg nawr.