Jump to content
Deall datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)

Datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) yw'r dysgu a'r datblygiad a wnewch chi drwy gydol eich gyrfa i gynnal a datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch ymarfer.

Mae DPP yn chwarae rhan bwysig mewn ymarfer proffesiynol, gan eich helpu chi i:

  • gadw eich dysgu yn gyfredol
  • addasu i newidiadau mewn arfer
  • barhau i ddarparu gofal a chymorth diogel, effeithiol ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae'r dudalen hon yn egluro sut mae DPP yn cefnogi eich datblygiad proffesiynol, pa weithgareddau dysgu sy'n cyfrif fel DPP, a sut gallwch chi ddefnyddio ymarfer myfyriol i gymhwyso'r hyn rydych chi'n ei ddysgu yn eich rôl.

Mae angen i bob gweithiwr cofrestredig ymgymryd â DPP. Gallwch ddysgu mwy am eich cyfrifoldebau ar ein tudalennau cofrestru.

Pam mae DPP yn bwysig?

Mae DPP yn golygu eich bod yn cael y wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau diweddaraf sydd eu hangen ar gyfer eich rôl. Mae'n eich helpu i ymateb i newidiadau mewn deddfwriaeth, canllawiau, ymchwil ac arfer gorau, fel y gallwch barhau i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel.

Gall DPP hefyd eich helpu i:

  • feithrin hyder yn eich rôl
  • ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau
  • nodi eich anghenion dysgu a datblygu
  • baratoi ar gyfer cyfrifoldebau newydd
  • gefnogi datblygiad gyrfa.

Beth sy'n cyfrif fel DPP?

Mae DPP yn cynnwys dysgu ffurfiol ac anffurfiol.

Mae enghreifftiau'n cynnwys:

  • cyrsiau hyfforddi a chymwysterau
  • e-ddysgu
  • gweminarau, gweithdai a chynadleddau
  • canllawiau darllen, ymchwil ac erthyglau
  • podlediadau a fideos
  • goruchwyliaeth fyfyriol
  • mentora neu hyfforddi
  • trafodaethau proffesiynol
  • dilyn cydweithwyr 
  • dysgu o adborth a phrofiad.

Bydd y gweithgareddau dysgu rydych chi'n eu dewis yn amrywio yn ôl camau gwahanol eich gyrfa. Dylech ganolbwyntio ar yr hyn sy'n eich helpu i ddatblygu'n broffesiynol ac yn gwella eich ymarfer. 

Ymarfer myfyriol

Mae ymarfer myfyriol yn rhan bwysig o DPP.

Mae myfyrio yn eich helpu i feddwl am yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu, pam ei fod yn bwysig i'ch rôl a sut y gallwch ei ddefnyddio i wella eich ymarfer.

Gallwch fyfyrio ar ddysgu drwy ofyn i chi'ch hun:

  • beth ydw i wedi'i ddysgu?
  • pam ei fod yn bwysig?
  • sut byddaf yn defnyddio hyn yn fy rôl?
  • pa wahaniaeth allai hyn ei wneud i'r bobl rydw i’n eu cefnogi ?

Mae myfyrio ar eich dysgu yn eich helpu i roi gwybodaeth a sgiliau newydd ar waith ac yn cefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus.

Gallwch hefyd fyfyrio drwy sgyrsiau gydag eraill.

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ymarferol, offer myfyrio ac enghreifftiau yn yr adran ymarfer myfyriol.

Cefnogi DPP trwy oruchwyliaeth

Mae goruchwyliaeth yn rhoi cyfle i chi drafod eich anghenion dysgu a datblygu gyda'ch rheolwyr. Gall y sgyrsiau hyn eich helpu i nodi cyfleoedd dysgu sy'n cefnogi eich rôl ac yn gwella'r gofal neu'r gefnogaeth rydych chi'n ei ddarparu.

Mae goruchwyliaeth hefyd yn eich galluogi i drafod yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu ac ystyried sut y gallwch ei ddefnyddio yn eich rôl. Mae rhannu'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu gyda chydweithwyr, er enghraifft mewn cyfarfodydd tîm, yn rhoi cyfle i bawb ddysgu oddi wrth ei gilydd a gwella eu harferion.

Cynllunio eich datblygiad

Dylai eich dysgu a'ch datblygiad barhau trwy gydol eich gyrfa.

Gall y Codau Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) eich helpu i ddeall y wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich rôl. Gallwch hefyd eu defnyddio i arwain sgyrsiau dysgu a datblygu yn ystod goruchwyliaeth. 

Gall cynllunio eich datblygiad eich helpu i:

  • nodi blaenoriaethau dysgu
  • meithrin hyder
  • paratoi ar gyfer cyfrifoldebau newydd
  • archwilio cyfleoedd datblygu gyrfa.

Efallai y byddwch hefyd yn gweld bod y Fframwaith Tâl a Dilyniant a’r Fframwaith cymwysterau yn ddefnyddiol wrth gynllunio cyfleoedd dysgu a chynnydd yn y dyfodol. 

Mae dysgu, myfyrio a goruchwylio yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus.

Camau nesaf

  • Defnyddiwch yr adran ddysgu i ddod o hyd i adnoddau sy'n cyd-fynd â'ch rôl a'ch anghenion datblygu.
  • Siaradwch â'ch rheolwr am eich anghenion dysgu a datblygu yn ystod sesiynau goruchwylio. Gyda'ch gilydd, gallwch nodi cyfleoedd dysgu sy'n cefnogi eich rôl a'ch datblygiad proffesiynol.
  • Ewch i'r adran ymarfer myfyriol i gael arweiniad ac offer ymarferol i'ch helpu i roi'r hyn rydych wedi'i ddysgu ar waith.
  • Os ydych chi'n cefnogi eraill, ewch i'r adran cefnogi dysgu a myfyrio i gael arweiniad ar greu diwylliant dysgu cadarnhaol a defnyddio goruchwyliaeth i gefnogi datblygiad proffesiynol.
Cyhoeddwyd gyntaf: 26 Hydref 2026
Diweddariad olaf: 10 Tachwedd 2026
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (46.0 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch