Mae pobl yn dysgu mewn ffyrdd amrywiol – trwy hyfforddiant, goruchwyliaeth, trafodaethau proffesiynol ac ymarfer bob dydd. Mae gan reolwyr a goruchwylwyr rôl bwysig wrth gefnogi dysgu a datblygiad proffesiynol. Gallan nhw gefnogi gweithwyr drwy greu cyfleoedd i ddysgu, myfyrio a rhoi gwybodaeth newydd ar waith.
Mae'r dudalen hon yn cynnig canllawiau ac adnoddau ymarferol i reolwyr a goruchwylwyr er mwyn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ac ymarfer myfyriol eu staff.