Nodi blaenoriaethau cyffredin ar gyfer ymchwil, arloesi a gwella fel y gallwn gyfeirio sylw, adnoddau a chamau gweithredu i'r mannau lle mae eu hangen fwyaf.
Pam?
Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein ffocws yn gadarnhaol, defnyddiol, a chynhyrchiol, ac wedi’i hysbysu gan yr hyn sydd bwysicaf i bobl. Mae angen i ni gael dull croestoriadol, lle y byddwn ni’n ystyried sut y gall gwahanol fathau o wahaniaethu ryngweithio a llunio profiadau unigryw pobl.
1. Cydgysylltu dull arweinyddiaeth ar y cyd ar gyfer cyflawni strategaeth Ymlaen
Byddwn ni’n cydgysylltu cyflawni strategaeth Ymlaen gyda phartneriaid ledled Cymru drwy sefydlu trefniadau llywodraethiant drwy’r Grŵp Gweithredu Strategol. Byddwn ni’n monitro’r cynllun gweithredu ac yn dod â phartneriaid at ei gilydd i adolygu cynnydd, dysgu a blaenoriaethau’r dyfodol.
2. Datblygu a rhannu tystiolaeth, gwybodaeth a mewnwelediad am y gweithlu
Byddwn ni’n cynnal Dweud Eich Dweud, ein harolwg blynyddol i’r gweithlu ac yn creu nodiadau briffio a chrynodebau data ar y gweithlu.
Byddwn ni’n parhau i ddatblygu’r Porth Data, yn ehangu’r setiau data sydd ar gael a gwella mynediad at wybodaeth am y gweithlu a gofal cymdeithasol. Byddwn ni’n darparu data trylwyr ac ystyrlon ar y gweithlu gofal cymdeithasol, yn eu cynnig mewn fformatau gwahanol, ac yn cynnal dangosfyrddau’r gweithlu i gefnogi cynllunio, polisi ac ymarfer.
Bydd y mewnwelediadau hyn yn cael eu defnyddio i wella dealltwriaeth o’r gweithlu ac i gefnogi gwneud penderfyniadau ar draws gofal cymdeithasol.
3. Gwella sut mae data gofal cymdeithasol yn cael eu casglu
Byddwn ni’n arwain datblygiad safonau data gofal cymdeithasol ar gyfer gwasanaethau oedolion, gwasanaethau plant, y gweithlu gofal cymdeithasol a chofnodion gofal integredig. Byddwn ni’n gwneud hyn drwy weithio gyda’r bartneriaeth DiSC Cymru (Digital in Social Care).
Byddwn ni’n cefnogi datblygiad y safonau data ac yn cyfrannu at waith sy’n gwella ansawdd, cysondeb a defnyddioldeb data gofal cymdeithasol ledled Cymru.
4. Hysbysu blaenoriaethau cenedlaethol ac agendâu’r dyfodol
Byddwn ni’n gweithio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddarparu rhaglen o sioeau teithiol ymchwil i gefnogi sgyrsiau cenedlaethol ar bynciau allweddol.
Byddwn ni’n datblygu cynllun i’r gweithlu ar gyfer gofal preswyl i blant trwy gynllunio a darparu cyfleoedd dysgu i gefnogi datblygiad y gweithlu a dulliau therapiwtig mewn gwasanaethau plant.
Byddwn ni’n cyfrannu at waith sy’n gysylltiedig â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, gan gynnwys gweithgaredd datblygu arweinyddiaeth a data’r gweithlu.
Byddwn ni’n defnyddio’r canfyddiadau o’r ddyfais botensial digidol i hysbysu blaenoriaethau cenedlaethol drwy weithio gyda phartneriaid fel DiSC Cymru.
5. Cefnogi gweithrediad adnoddau diogelu cenedlaethol
Byddwn ni’n datblygu adnoddau diogelu, gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Prosiect Gweithdrefnau Diogelu Cymru, ac yn cefnogi’r hyfforddiant diogelu cenedlaethol.