Dolenni i adnoddau a hyfforddiant i'ch helpu i ddeall mwy am arweinyddiaeth.
Adnoddau a hyfforddiant arweinyddiaeth dosturiol
Mae arweinyddiaeth dosturiol yn ffordd o arwain pobl sy'n canolbwyntio ar wrando ar, deall, cefnogi, a dangos empathi tuag at bobl eraill.
Mae'n ffordd dda o weithio, achos mae'n helpu'r bobl rydyn ni'n eu harwain i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a'u gofalu, fel y gallan nhw gyrraedd eu potensial a gwneud eu gwaith gorau.
Mae yna adnoddau a chyfleoedd hyfforddi gwych ar gael i'ch helpu i ddeall mwy am arweinyddiaeth dosturiol.
(Efallai na fydd yr adnoddau hyn yn ddwyieithog nac yn hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am gynnwys a gynhyrchir gan sefydliadau eraill.)
Cyflwyniad i arweinyddiaeth dosturiol
Arwain gyda deallusrwydd emosiynol
Yr arweinydd chwilfrydig
Sgyrsiau dewr: dweud y gwir gyda gofal
Mwy o sesiynau arweinyddiaeth dosturiol
Rhaglenni datblygu rheolwyr
Mae amrywiaeth o raglenni arweinyddiaeth a rheoli ar gael i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Dilynwch y dolenni i ddarganfod mwy am bob rhaglen.
Lefel 4: Paratoi ar gyfer arwain a rheoli
Lefel 5: Arwain a rheoli
Rhaglen Datblygu'r Rheolwr Tîm
Mae'r Rhaglen Ddatblygu Rheolwr Tîm yn cefnogi cyflwyno ymarfer gwaith cymdeithasol rhagorol trwy alluogi rheolwyr rheng flaen i wella ansawdd ymarfer, rheoli eu tîm yn effeithiol a delio â newid yn llwyddiannus.
Caiff y rhaglen ei darparu gan Y Sefydliad Gofal Cyhoeddus (IPC), Prifysgol Oxford Brookes.
Rhaglen Datblygu'r Rheolwr Tîm - gwybodaeth
Arwain a rheoli gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru
Rhaglen Datblygu'r Rheolwr Canol
Mae'r Rhaglen Datblygu'r Rheolwr Canol yn darparu hyfforddiant arweinyddiaeth ar gyfer rheolwyr canol gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae'r rhaglen hon yn cefnogi rheolwyr i ymateb i ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Caiff y rhaglen ei darparu gan Y Sefydliad Gofal Cyhoeddus (IPC), Prifysgol Oxford Brookes.
Rhaglen Datblygu'r Rheolwr Canol - gwybodaeth
Rhaglen Darpar Reolwr Canol
Rhaglen Arweinyddiaeth Gydweithredol a Thosturiol - Leaderful Action
Rhaglen Cyfarwyddwyr Newydd
Sefydliadau sy’n cynnig hyfforddiant arweinyddiaeth
Porth Arweinyddiaeth Gwella
Mae Porth Arweinyddiaeth Gwella yn cynnig adnoddau a chyfleoedd hyfforddi i chi ddysgu mwy am arweinyddiaeth a rheoli.
Mae aelodaeth am ddim i bobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Academi Wales
Mae Academi Wales yn ganolfan arbenigedd ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Maen nhw’n cynnig amrywiaeth o raglenni a gwasanaethau, gan gynnwys:
- datblygu arweinyddiaeth: rhaglenni arloesol ar gyfer pob cam, o arweinwyr newydd i uwch arweinwyr profiadol.
- dysgu ar-lein: adnoddau hyblyg a hawdd eu defnyddio i ddatblygu sgiliau unrhyw bryd, unrhyw le
- gweithdai a dosbarthiadau meistr: sesiynau diddorol ar ystod eang o bynciau gan gynnwys ymddiriedaeth, deallusrwydd emosiynol a delio â gwleidyddiaeth mewn sefydliadau
- digwyddiadau a chynadleddau: cyfleoedd i wrando ar siaradwyr ysbrydoledig a chwrdd â chyfoedion ar draws sectorau.
- adnoddau a phecynnau cymorth: canllawiau ac offer cynhwysfawr i gefnogi datblygiad personol a sefydliadol.
Mae’r rhaglenni a’r adnoddau yn rhad ac am ddim i'r rhai sy gweithio mewn awdurdod lleol neu'r trydydd sector
Rhaglen Climb (Dragons Heart Institute)
Mae rhaglen Climb yn hyfforddiant am ddim ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac wedi'i anelu at arweinwyr o bob lefel.
Bydd y rhaglen Climb yn eich helpu i:
- ddarganfod eich arddull arwain unigryw a sut rydych chi'n ymwneud â'r byd a'r rhai o'ch cwmpas
- ddysgu strategaeth a meddwl yn systemig, gan ddeall pwysigrwydd perthyn
- ddatblygu sgiliau a dulliau newydd i wneud newid drwy ysbrydoli ac ennyn cefnogaeth eraill
- ddarganfod cryfderau newydd a mynd y tu hwnt i’ch parth cysur trwy ddysgu seiliedig ar heriau
- greu rhwydwaith cefnogol o bobl sy'n rhannu’r daith gyda chi.
Mae gwybodaeth am y rhaglen, gan gynnwys dyddiadau, ar gael drwy’r ddolen uchod.