Jump to content
Adroddiad blynyddol llesiant y gweithlu: 2025 i 2026

Sut wnaethon ni gefnogi llesiant y gweithlu o 2025 i 2026.

Pam mae llesiant yn bwysig?

Yn y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld tystiolaeth gynyddol fod cefnogi llesiant yn gallu bod yn fuddiol i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant, a gwella ansawdd y gofal mae pobl yn ei dderbyn.

Mae gweithio ym meysydd gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yn gallu bod yn yrfa sy’n ysbrydoli ac yn rhoi llawer o foddhad, ond rydyn ni’n gwybod bod y pwysau yn y sectorau yma yn gallu effeithio ar lesiant y gweithlu.

Un o uchelgeisiau Cymru Iachach, ein strategaeth gweithlu ar y cyd ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, yw creu gweithlu sy’n ymgysylltu, yn llawn cymhelliant ac yn iach. 

Mae ein cynllun strategol hefyd yn amlinellu ein hymrwymiad i wella llesiant ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar.

Mae tystiolaeth yn dweud wrthym fod llesiant da yn y gweithle yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae’n golygu:

  • bod gennym ymdeimlad o bwrpas a chyflawniad yn ein gwaith
  • ein bod yn perfformio’n well os ydyn ni’n hapusach yn y gwaith ac yn hyderus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud, sy’n golygu ein bod yn gallu rhoi gwell cymorth i bobl
  • bod staff sy’n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn y gwaith yn fwy tebygol o aros gyda sefydliad.

Rydyn ni wedi ysgrifennu crynodeb o’r dystiolaeth ar gyfer y cyswllt rhwng llesiant da yn y gweithle a lefelau cadw’r gweithlu, y gallwch ei ddarllen ar wefan ein Grŵp Gwybodaeth.

Rhaid i lesiant y gweithlu fod yn ymdrech grŵp. Rydyn ni’n darparu fframweithiau ac adnoddau i helpu’r sector i weithio tuag at ddiwylliant cadarnhaol sy’n cefnogi llesiant y gweithlu.

Mae ein fframwaith, Mae eich llesiant yn bwysig, yn amlinellu camau gweithredu y gall cyflogwyr, rheolwyr a gweithwyr eu cymryd er mwyn sicrhau gwell llesiant. Mae pob rhan o’r gweithlu, ynghyd ag undebau llafur, yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wireddu’r weledigaeth hon.

Beth yw’r darlun sydd ohoni?

Yn gynnar yn 2025, fe wnaethon ni gynnal ein harolwg blynyddol, ‘Arolwg ‘Dweud eich dweud’ y gweithlu gofal cymdeithasol.

Fel rhan o’r arolwg, fe wnaethon ni holi pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol am y pethau sy’n effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant.

Eleni, gwelsom newid cadarnhaol, er gwaetha’r pwysau gwirioneddol sy’n effeithio ar iechyd a llesiant y gweithlu.

Fe wnaethon ni asesu llesiant y gweithlu gan ddefnyddio pedwar cwestiwn y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r rhain yn bedwar mesur a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol er mwyn cofnodi gwahanol fathau o lesiant personol ar raddfa o 0 i 10. Fe wnaethon ni gymharu’r ymateb cyfartalog o’r arolwg hwn â chyfartaledd y DU ar gyfer pob mesur. Fe wnaethon ni hefyd gymharu’r ymateb cyfartalog o’r arolwg hwn â’r cyfartaleddau a ganfuwyd yn 2024. Mae pob un o’r canfyddiadau isod yn uwch na chyfartaledd y DU a’r cyfartaleddau a ganfuwyd yn 2024: 

  • Bodlonrwydd â bywyd: 7.78 (cyfartaledd y DU: 7.45, cyfartaledd 2024 yn 6.54)
  • Mae bywyd yn werth chweil: 8.25 (cyfartaledd y DU: 7.73, cyfartaledd 2024 yn 7.11)
  • Hapusrwydd ddoe: 7.75 (cyfartaledd y DU: 7.39, cyfartaledd 2024 yn 6.58)
  • Gorbryder: 5.30 (cyfartaledd y DU: 3.23, cyfartaledd 2024 yn 4.35) 

Fe wnaethon ni ofyn cwestiynau eraill am lesiant hefyd. Dyma drosolwg: 

  • dywedodd 83 y cant fod eu morâl yn dda, i fyny o 77 y cant yn 2024 a 65 y cant yn 2023
  • dywedodd 54 y cant eu bod yn cael anhawster i anghofio am bethau pan fyddant yn gadael eu gwaith, i lawr o 57 y cant yn 2024 a 63 y cant yn 2023
  • awgrymodd 44 y cant eu bod yn cael digon o gefnogaeth i ddygymod â straen, i fyny o 41 y cant yn 2024 a 31 y cant yn 2023
  • y prif achosion straen a nodwyd oedd llwyth gwaith (35 y cant), gwaith papur neu lwyth gweinyddol (27 y cant), a phoeni am bethau y tu allan i’r gwaith (24 y cant)
    • Dyma’r pedwar prif achos straen yn 2024 hefyd, â chyfrannau tebyg o ymatebwyr yn adrodd ym mhob categori. 
  • mae’r rhan fwyaf o bobl yn holi eu rheolwr llinell (46 y cant) neu’n edrych ar wefan neu ryngrwyd eu cyflogwr (43 y cant) i gael gwybodaeth am iechyd a llesiant
  • awgrymodd 29 y cant o’r holl ymatebwyr y byddent yn mynd at Gofal Cymdeithasol Cymru i gael rhagor o wybodaeth am iechyd a llesiant yn y gwaith, i fyny o 26 y cant yn 2024.

Mae pobl sy’n gweithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru yn dangos ymroddiad aruthrol, ond maen nhw’n cael anhawster â heriau recriwtio a lefelau uchel o straen, gorbryder a morâl isel.

 Mae arolwg 2025 yn dangos llawer o ymarferwyr yn dweud eu bod yn teimlo eu bod yn gorweithio ac nad ydyn nhw’n cael eu gwerthfawrogi’n ddigonol gan y cyhoedd. Canfu’r arolwg fod:

  • bron i hanner (45 y cant) yr ymatebwyr yn cyfeirio at lai o allu i ganolbwyntio.
  • 30 y cant yn dweud eu bod yn colli cwsg oherwydd eu bod yn poeni.
  • 43 y cant yn dweud eu bod yn teimlo dan straen cynyddol. 

Roedd y rhesymau a roddwyd ganddynt yn cynnwys teimladau cyffredinol eu bod yn gorweithio ac nad oeddent yn cael eu gwerthfawrogi’n ddigonol yn y sector.

Roedd meysydd a oedd yn effeithio ar eu llesiant hefyd yn cynnwys:

  • cyflog isel
  • prinder cyfleoedd ar gyfer datblygiad gyrfaol
  • pwysau yn deillio o newid dulliau ariannu (lleoedd plant).

Er gwaetha’r heriau hyn, mae ymarferwyr yn dangos lefelau uchel o ymrwymiad i blant a theuluoedd. Maen nhw’n aml yn cyfeirio at eu hangerdd at eu gwaith fel rheswm dros aros yn y sector.

Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos pa mor bwysig yw hi ein bod yn parhau i gynnig ein sesiynau gwybodaeth am lesiant. Rydyn ni hefyd yn dal i rannu’r fframwaith llesiant fel adnodd i helpu i wella llesiant mewn lleoliadau.

Byddwn yn defnyddio’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu o’r arolygon hyn fel sail i’n gwaith i gefnogi llesiant y gweithlu. Byddwn hefyd yn dal i ddysgu o ymchwil, a’n gwaith gyda’r gweithlu a’n partneriaid.

Pa gynnydd rydyn ni wedi ei wneud?

Rydyn ni wedi ymrwymo i wella llesiant y gweithlu. Eleni, mae hynny’n golygu:

  • hybu ein fframwaith iechyd a llesiant a’n tudalennau gwe llesiant, lle gall cyflogwyr a gweithwyr fesur eu sefydliad yn erbyn set gytunedig o safonau
  • cynnal ein hail wythnos llesiant ar-lein ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar
  • darparu sesiynau gwybodaeth, gweithdai a sgyrsiau i’r sector ynglŷn â sut y gallan nhw ofalu em eu llesiant yn y gwaith – gan gynnwys iechyd meddwl, y menopos, iechyd meddwl dynion a phobl sydd â chyfrifoldebau gofalu
  • parhau i adeiladu ein rhwydwaith, gan gynnwys cyfarfodydd ar-lein, er mwyn helpu’r sector i rannu syniadau a goresgyn heriau
  • cynnig hyfforddiant penodol i gefnogi rheolwyr, er enghraifft y gyfres pecyn cymorth iechyd meddwl a llesiant a chymorth menopos i gyflogwyr 
  • parhau i hybu cymorth sydd ar gael i’r gweithlu gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar, gan gynnwys Canopi

Eich fframwaith materion llesiant

Ym mis Hydref 2022, fe wnaethon ni lansio fframwaith llesiant ar gyfer y sector gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Eleni, gwelsom gyfartaledd o 40 o ymweliadau y mis â thudalennau gwe’r fframwaith, â chynnydd yn nifer yr ymweliadau bob chwarter. 

O ran ein holl dudalennau iechyd a llesiant, fe gawson ni 3,784 o ymweliadau eleni.

Rydyn ni’n hyrwyddo ein fframwaith ym mhob un o’n gweithdai a’n digwyddiadau. Dywedodd mwy na hanner y bobl y buom yn siarad â nhw (53 y cant) eu bod yn gwybod am y fframwaith yn barod, ac mae hynny’n rhoi cyfle i ni hyrwyddo i bobl nad oedden nhw’n ymwybodol o’r fframwaith ac ehangu ein cyrhaeddiad. 

Fe wnaethon ni hefyd ofyn i’r gweithlu a oedd y fframwaith yn eu helpu yn eu gwaith mewn unrhyw ffordd.

Yn ôl y rhai hynny a ddywedodd fod y fframwaith yn eu helpu:

“Mae’n eich cadw ar y trywydd cywir â’ch llesiant ac rydw i’n defnyddio rhai o’r adnoddau yn fy ymarfer ystyriol, yn enwedig y rhestr wirio llesiant personol.”

“[Mae’n cynnwys] llawer o strategaethau rydw i wedi ailedrych arnyn nhw er mwyn gallu cefnogi pobl eraill.”

“[Rydyn ni’n ei ddefnyddio] fel canllaw i ddarparu gwybodaeth ar gyfer y gefnogaeth rydyn ni’n ei chynnig i fyfyrwyr a gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso.”

“Rydyn ni wedi ei ymgorffori yn ein canllawiau Blwyddyn Gyntaf o Ymarfer ar gyfer staff a gweithwyr cymdeithasol. Rwy’n meddwl bod y pwyslais ar greu’r amgylchedd iawn yn ddefnyddiol dros ben.”

Digwyddiadau dysgu a chynadleddau

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf fe wnaethon ni gynnal sesiynau dysgu ar gyfer y sector, a daeth 261 o bobl iddynt (heb gynnwys yr Wythnos Llesiant). Roedd y digwyddiadau hyn yn gyfleoedd gwerthfawr i weithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol rannu’r arferion gorau, meithrin gwybodaeth, a chryfhau eu llesiant a’u gwydnwch.

Uchafbwyntiau

Fe wnaethon ni gynnal 20 o sesiynau dysgu, â themâu yn cynnwys:

  • y Ddeddf Absenoldeb Gofalwr
  • y menopos
  • iechyd meddwl yn y gweithle
  • iechyd meddwl dynion.

O’r adborth y gwnaethon ni ei dderbyn ym mhob sesiwn, clywsom fod:

  • 99 y cant o’r cyfranogwyr yn dweud eu bod wedi dysgu rhywbeth
  • 96 y cant yn dweud eu bod yn gallu defnyddio’r hyn roedden nhw wedi ei ddysgu yn y gweithle.

Dyma rai enghreifftiau o sut y bydd yr hyn roedd pobl wedi ei ddysgu yn cael ei ddefnyddio yn y gweithle:

  • “Byddaf yn fwy ymwybodol o hawliau gweithwyr sy’n ofalwyr a byddaf yn deall sut i gefnogi cydweithwyr eraill pan fydd angen.”
    Un a oedd yn bresennol yn y sesiwn ymwybyddiaeth o ofalwyr
     
  • “Roedd y pecyn cymorth yn wych ac yn llawn gwybodaeth ac awgrymiadau defnyddiol iawn. Ro’n i’n arbennig o hoff o’r 'goeden boeni'. Byddwn yn hoffi ymgorffori’r pethau hyn yn ein cyfarfodydd tîm drwy eu rhannu’n gyson er mwyn annog staff i wneud mân addasiadau i’w cynnwys bob diwrnod, yn hytrach na dim ond pan fydd rhywun dan bwysau.”
    Un a oedd yn bresennol yn y sesiwn pecyn cymorth iechyd meddwl i reolwyr
     
  • “Bydd yn fy helpu i reoli fy iechyd meddwl yn enwedig ar ddiwrnod anodd ac i dderbyn yn araf bod yr hyn rydw i’n ei wneud yn ddigon da.”
    Un a oedd yn bresennol yn y sesiwn pecyn cymorth iechyd meddwl

Fe gawson ni adborth cadarnhaol gan y cyfranogwyr. Dyma rai o’r pethau y gwnaethon nhw eu dweud wrthyn ni:

  • “Hyfforddiant addysgiadol iawn, byddaf yn ei argymell yn gryf.”
     
  • “Dyma un o’r cyrsiau gorau rydw i wedi bod arnyn nhw – drwy gefnogi ein hiechyd meddwl rydyn ni’n gallu gofalu am y plant yn well (allwch chi ddim tywallt dŵr o gwpan wag).”

Wythnos llesiant 2026

Eleni, fe wnaethon ni gynnal ein hail wythnos llesiant. Roedd hon yn gynhadledd rithwir a gynhaliwyd rhwng 19 a 23 Ionawr i gyd-fynd â ‘Dydd Llun Glas’, sy’n aml yn cael ei ystyried fel diwrnod mwyaf heriol y flwyddyn o safbwynt iechyd meddwl.

Fe wnaethon ni gynnig sesiynau dysgu ymarferol a gwybodaeth, yn unol â’n pedwar ymrwymiad llesiant. Roedd hyn yn cefnogi ein nod ehangach o wella llesiant y gweithlu.

Fe wnaethon ni gynnal naw sesiwn ar-lein, a daeth 405 o bobl iddyn nhw – bron i 100 o bobl yn fwy na’r llynedd. Roedd y pynciau y gwnaethon ni eu harchwilio yn cynnwys:

  • cefnogi straen a gorbryder yn y gwaith
  • arwain â deallusrwydd emosiynol 
  • llesiant gweithlu sefydliadol
  • grym adrodd storïau 
  • menywod a hyder 
  • iechyd meddwl dynion 
  • rhoi blaenoriaeth i’ch llesiant wrth weithio fel Unigolyn Cyfrifol
  • cynorthwyo pobl sydd â chyflyrau hirdymor i aros mewn gwaith a dychwelyd i’r gwaith. 

Fe wnaeth pobl yn y sector siapio’r themâu a’r pynciau hyn yn uniongyrchol – fe wnaethon ni ddefnyddio eu hadborth o ddigwyddiadau blaenorol, ein sgyrsiau parhaus gyda nhw, a’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu o’n harolwg blynyddol o’r gweithlu. Fe wnaethon ni hefyd wneud yn siŵr bod ein thema yn gydnaws â’r ymrwymiadau a amlinellwyd yn ein fframwaith.

Roedd yr Wythnos Llesiant yn dangos ymrwymiad y sector i greu amgylcheddau gwaith sy’n iach i’r meddwl. Roedd yn dangos gwerth dod â phobl at ei gilydd i ddysgu, adfyfyrio, ac adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio.

Fe gawson ni adborth cadarnhaol gan y rhai a oedd yn bresennol mewn nifer o’r digwyddiadau hyn. O’r rhai hynny a roddodd adborth,

  • dywedodd 99 y cant eu bod wedi dysgu rhywbeth newydd
  • dywedodd 99 y cant eu bod wedi dysgu rhywbeth y gallent ei ddefnyddio yn y gweithle.

Roedd eu sylwadau’n cynnwys y canlynol:

  • “Rwy’n arwain grŵp ffocws o’r enw Llesiant Staff. Byddaf yn mynd â’r syniadau newydd hyn i gyd i’r grŵp yma, yn trafod ac yn gweld sut y gallwn ni eu hymwreiddio yn ein gwasanaethau.”

    Un a oedd yn bresennol mewn sesiwn ‘Lle gwych i weithio’

     

  • “Byddaf yn defnyddio’r Gromlin Straen i fesur a monitro fy lefelau straen.” 

    Un a oedd yn bresennol mewn sesiwn ‘cefnogi straen a gorbryder’

     

  • “Byddaf yn eu defnyddio yn y gwaith ac ar ôl gwaith (i helpu i ymlacio, lleihau gorbryder...bydd hyn yn ei dro yn gwella cwsg, a bydd hynny’n gwella iechyd meddwl yn gyffredinol).”

    Un a oedd yn bresennol mewn sesiwn ‘deallusrwydd emosiynol’
     

  • “Diolch am wneud hyn i gyd yn ‘normal’ yn y gweithle. Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr iawn.”
     
  • “Sesiynau gwych yr wythnos yma, biti na fyddai pob aelod o’r tîm yn y gwaith yn gallu dod iddyn nhw hefyd.”
     
  • “Rwy’n awyddus iawn i ymwreiddio strategaethau newydd yn fy ngweithle a rhannu gyda fy nghydweithwyr. Rwy’n credu bod rhwydweithio a rhannu ffyrdd o weithio mor bwysig ac mae gwrando ar y siaradwyr gwadd wedi bod yn fuddiol iawn. Gweld beth maen nhw’n ei ddefnyddio a phrawf bod yr hyn maen nhw’n ei wneud yn gweithio ac adfyfyrio yn y gweithle cadarnhaol.”

Cysylltu â’r sector

Fe wnaethon ni roi cyflwyniadau mewn fforymau, sioeau teithiol, a chynadleddau er mwyn codi ymwybyddiaeth o lesiant y gweithlu a’r gefnogaeth sydd ar gael drwy ein fframwaith a’n hadnoddau. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys: 

  • rheolwyr
  • ymarferwyr y blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol
  • unigolion cyfrifol
  • gweithwyr cymdeithasol ac addysgwyr gwaith cymdeithasol
  • cyflogwyr gofal cymdeithasol oedolion.

Fe wnaeth hyn ein helpu i ymestyn ein cyrhaeddiad fel bod ein negeseuon yn cael eu clywed mewn gwahanol feysydd yn ymwneud â’r blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol.

  • “Diolch am sesiwn addysgiadol iawn, rwy’n edrych ymlaen at fynychu rhagor o hyfforddiant llesiant.”

Un o’r rhai a oedd yn bresennol yn nigwyddiad y blynyddoedd cynnar a gofal plant yn yr hydref

Partneriaeth a chydweithio

Eleni, rydyn ni wedi parhau i weithio mewn cysylltiad agos â phartneriaid allanol a chydweithwyr mewnol. Mae hyn yn cynnwys:

  • gweithio gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych i gynnal cynhadledd ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol ar iechyd menywod
  • hyrwyddo Canopi, y gwasanaeth cefnogi iechyd meddwl
  • hyrwyddo cynigion o gymorth gan sefydliadau eraill, gan gynnwys Canopi, y gwasanaeth cefnogi iechyd meddwl ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru
    • mae Canopi yn rhannu mewnwelediadau gyda ni yn rheolaidd – gan gynnwys nifer yr atgyfeiriadau o’r sector gofal cymdeithasol, pam y mae galwyr yn cael eu cyfeirio, a’r mathau o gymorth y mae ar bobl ei angen.
  • cefnogi Arolygiaeth Gofal Cymru drwy greu ffolder o adnoddau i helpu arolygwyr i godi ymwybyddiaeth o gymorth llesiant pan fyddant yn siarad â darparwyr cofrestredig
  • cysylltu ein fframwaith â’r pecyn cymorth er mwyn cefnogi’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth, sy’n gysylltiedig â safon 6 (arferion gwaith moesegol a theg)
  • gweithio mewn cysylltiad agos â meysydd eraill yn Gofal Cymdeithasol Cymru, a chryfhau’r cysylltiad rhwng llesiant ac arweinyddiaeth dosturiol, ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau, a diwylliannau cadarnhaol. 
  • cynnal sesiwn yn ystod Wythnos Gwaith Cymdeithasol, â 100 y cant o’r rhai a roddodd adborth yn dweud y byddent yn meddwl neu’n gwneud rhywbeth yn wahanol ar ôl mynychu’r sesiwn
  • gweithio gyda chydweithwyr er mwyn datblygu adnodd i bobl sy’n newydd i weithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

“Roedd yn ddiwrnod gwych ac roedd y siaradwyr yn ysbrydoledig ac yn llawn cymhelliant. Roedd y pynciau’n amrywiol iawn ac yn cynnwys gofal cymdeithasol ac iechyd menywod. Fe wnes i fwynhau’r diwrnod yn fawr. Diolch i bawb wnaeth gymryd rhan ac i’r trefnwyr.”

Rhwydwaith llesiant

Mae nifer y bobl sy’n ymuno â’n rhwydwaith wedi cynyddu’n raddol bob chwarter yn ystod y flwyddyn, o 215 ar ddechrau’r flwyddyn i 319. Mae hyn yn cynnwys 84 o bobl sy’n gweithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ymuno er mwyn cael gwybodaeth am lesiant y gweithlu. Rydyn ni’n anfon bwletin â diweddariadau i’r rhwydwaith, gwybodaeth ddefnyddiol, adnoddau a digwyddiadau. Eleni fe wnaethon ni gynhyrchu chwe bwletin. 

Fe wnaethon ni ddechrau cynnal cyfarfodydd ar-lein ar gyfer y rhwydwaith. Fe wnaethon ni gynnal tri chyfarfod. Daeth cyfanswm o 38 o bobl i’r sesiynau.

Dywedodd 100 y cant o’r bobl a roddodd adborth eu bod wedi dysgu rhywbeth. 

“Fel arfer, diddorol iawn a ffordd o sylweddoli nad ydych chi ar eich pen eich hun. Gwych! Diolch.”

Aelod o’r rhwydwaith 

Ein pwyslais yn 2026 i 2027

Y flwyddyn nesaf, byddwn yn canolbwyntio ar:

  • ddiweddaru ein fframwaith llesiant er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cynnwys yr adnoddau diweddaraf, a mwyaf perthnasol
  • cefnogi ein gwaith yn ymwneud â diwylliannau cadarnhaol er mwyn sicrhau bod llesiant y gweithlu yn rhan o weithle cadarnhaol
  • cynnal sesiynau gwybodaeth am lesiant, â phynciau yn adlewyrchu’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu o arolygon, ymchwil a thystiolaeth, gan sicrhau bod pobl yn y sector yn cael cyfle i ddysgu syniadau a sgiliau newydd
  • cynnal wythnos llesiant arall, gan ei gwneud yn ddigwyddiad rheolaidd lle gall y sector ddysgu rhagor ynglŷn â beth all gefnogi llesiant yn y gweithle
  • datblygu’r rhwydwaith llesiant, fel bod aelodau’n gallu rhannu’r arferion gyda’i gilydd a chysylltu â chymheiriaid
  • datblygu a rhannu ffyrdd o weithio sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd hyn yn gwella ansawdd perthnasoedd gwaith, fel bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a’u cydnabod.

Sut y gallwch gyfrannu

Er mwyn darganfod rhagor am ein gwaith, neu ymuno â’n rhwydwaith llesiant, anfonwch ebost i: lles@gofalcymdeithasol.cymru

Gallwch ddarganfod rhagor am lesiant yn y gweithle ar ein tudalennau gwe llesiant.