Sut wnaethon ni cefnogi llesiant y gweithlu o 2024 i 2025.
Pam mae llesiant yn bwysig?
Yn y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld tystiolaeth gynyddol sy’n dangos pa mor bwysig yw cefnogi llesiant y bobl sy’n gweithio ym meysydd gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Nid dim ond y gweithlu sy’n elwa ar lesiant gwell; mae’n gallu arwain at ansawdd gofal gwell i’r bobl sy’n cael cymorth ganddynt.
Mae gweithio ym meysydd gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yn gallu bod yn werth chweil, ond rydyn ni’n gwybod bod y gwaith yn gallu gofyn llawer yn gorfforol ac yn emosiynol.
Mae tystiolaeth yn dangos bod cefnogi llesiant yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae’n golygu:
- bod gennym ymdeimlad o bwrpas a chyflawniad yn ein gwaith
- ein bod yn perfformio’n well os ydyn ni’n hapusach yn y gwaith ac yn hyderus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud, sy’n golygu ein bod ni’n gallu rhoi gwell cymorth i bobl
- bod staff sy’n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn y gwaith yn fwy tebygol o aros gyda sefydliad.
Rydyn ni wedi cynhyrchu crynodeb o’r dystiolaeth ar gyfer y cyswllt rhwng llesiant da yn y gweithle a lefelau cadw, sydd ar gael ar ein wefan ein Grŵp Gwybodaeth.
Beth yw’r darlun sydd ohoni?
Ym mis Ionawr a mis Chwefror 2024, fe wnaethon ni gynnal ein harolwg blynyddol o’r gweithlu gofal cymdeithasol, ‘Dweud eich Dweud’, i ofyn i bobl ym maes gofal cymdeithasol am y pethau sy’n effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant.
Eleni, fe wnaethon ni ofyn rhagor o gwestiynau am bethau fel bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu, er mwyn cael dealltwriaeth ddyfnach o brofiadau gweithwyr. Roedd cyfanswm o 5,024 o weithwyr gofal cymdeithasol wedi ymateb, o amrywiaeth eang o swyddi. Roedd hyn yn bron i 2,000 yn fwy na’r nifer a oedd wedi ymateb y flwyddyn gynt.
Mae ein papur briffio fel rhan o’r gyfres cipolwg ar y gweithlu, Cefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru 2024, yn crynhoi’r prif ganfyddiadau ynghylch llesiant y gweithlu.
Dyma drosolwg:
- dywedodd 77 y cant o weithwyr gofal cymdeithasol fod eu morâl yn dda
- roedd gweithwyr gofal cymdeithasol wedi sgorio’n is ar gyfer boddhad â bywyd a hapusrwydd, ac yn uwch ar gyfer gorbryder, o’i gymharu â’r boblogaeth gyffredinol
- dywedodd 57 y cant eu bod yn cael trafferth anghofio am bethau ar ôl gadael gwaith
- awgrymodd 41 y cant eu bod yn cael digon o gymorth i ddelio â straen
- prif achosion straen oedd llwyth gwaith (39 y cant), llwyth gwaith gweinyddol neu waith papur (33 y cant) a phoeni am bethau y tu allan i’r gwaith (25 y cant)
- awgrymodd 52 y cant eu bod wedi mynd i’r gwaith o leiaf ddwywaith yn y flwyddyn ddiwethaf er eu bod yn ddigon sâl i aros gartref
- mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth gan eu cyd-weithwyr (79 y cant) a’u rheolwr (70 y cant)
- dydy 14 y cant o’r gweithlu ddim yn teimlo’n ddiogel yn y gwaith, ac mae hyn yn codi i 22 y cant o weithwyr cymdeithasol
- mae 38 y cant o’r gweithlu yn cael tâl salwch sy’n fwy na'r tâl salwch statudol, ond mae hyn yn gostwng i 31 y cant o weithwyr gofal
- dywedodd 57 y cant fod gan eu gwasanaethau y staff cywir.
Yn 2024, roedd Blynyddoedd Cynnar Cymru wedi cynnal arolwg o’i aelodau i ddysgu mwy am iechyd meddwl staff y blynyddoedd cynnar.
Roedd y canlyniadau’n dangos bod iechyd meddwl a llesiant nifer o bobl sy’n gweithio ar draws y sector blynyddoedd cynnar yn wael. Hefyd, mae llawer o’r gweithlu yn teimlo diffyg gwerthfawrogiad mewn lleoliadau, a gan y cyhoedd yn gyffredinol.
Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos pa mor bwysig yw parhau i gynnig ein rhaglen o sesiynau gwybodaeth am lesiant, sy’n cynnwys pynciau fel iechyd meddwl, diogelwch seicolegol, a chodi llais heb ofn. Rydyn ni hefyd yn parhau i hyrwyddo’r fframwaith llesiant fel adnodd i helpu i hybu llesiant mewn lleoliadau.
Byddwn yn defnyddio’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu o’r arolygon hyn, ynghyd â’n gwaith ymchwil a’n gwaith maes parhaus â’r sector a’n partneriaid, i arwain ein gwaith yn cefnogi llesiant y gweithlu.
Pa gynnydd ydyn ni wedi’i wneud?
Rydyn ni’n parhau i gyflawni ein hymrwymiad i wella llesiant y gweithlu drwy wneud y canlynol:
- hyrwyddo ein fframwaith iechyd a llesiant a’n tudalennau gwe ar lesiant, lle mae cyflogwyr a gweithwyr yn gallu mesur eu sefydliad yn erbyn set o safonau y cytunwyd arnynt
- cynnal ein hwythnos llesiant ar-lein gyntaf ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar
- darparu sesiynau gwybodaeth, gweithdai a sgyrsiau ar gyfer y sector ynghylch sut gallant ofalu am eu llesiant yn y gwaith, gan gynnwys diogelwch seicolegol a chreu polisïau sy’n cefnogi llesiant yn y gweithle
- rhedeg cymuned ymarfer a rhwydwaith cefnogi ar-lein ar gyfer llesiant i helpu’r sector i rannu syniadau a goresgyn heriau
- cynnig hyfforddiant wedi’i dargedu i gefnogi rheolwyr, fel y gyfres o becynnau adnoddau iechyd meddwl a llesiant, a chodi llais heb ofn
- cyflwyno categori “Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu” yng Ngwobrau 2024, gafodd ei ennill gan Antur Waunfawr, menter gymdeithasol yng Nghaernarfon
- parhau i hyrwyddo Canopi fel ffynhonnell bwysig o gymorth iechyd meddwl a llesiant cyfrinachol ar gyfer y gweithlu.
Mae eich llesiant yn bwysig: y fframwaith
Ym mis Hydref 2022, fe wnaethon ni lansio fframwaith Cymru gyfan ar gyfer y sector gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Yn ein digwyddiadau, rydyn ni wedi bod yn gofyn am adborth ynghylch ymwybyddiaeth pobl o’r fframwaith a pha mor ddefnyddiol ydy’r fframwaith iddyn nhw. O blith y rhai oedd wedi darparu adborth, roedd chwech o bob deg yn gwybod am y fframwaith. Cawsom rai enghreifftiau o sut mae’n cael ei ddefnyddio yn y gweithle hefyd.
“Mae’r fframwaith llesiant yn rhoi dysgu a datblygu proffesiynol parhaus ar waith, ac yn creu gweithle lle mae pawb yn cymryd rhan ac yn cefnogi eu hunain a’i gilydd.”
“(Mae’r fframwaith) wedi dylanwadu ar bolisïau Adnoddau Dynol i gefnogi llesiant y gweithwyr.”
“Mae hyn wedi fy helpu i gefnogi tîm o staff, gan mai dyma’r tro cyntaf i fi fod yn rheolwr llinell.”
Roedd nifer yr ymweliadau â hafan y fframwaith a’r tudalennau gwe ar lesiant wedi aros yn gyson drwy gydol y flwyddyn. Nifer cyfartalog yr ymweliadau bob mis oedd 50 a 214 yn y drefn honno. Mae hyn wedi tynnu sylw at gyfle i edrych ar ffyrdd newydd o gynyddu amlygrwydd a chyswllt.
Ers mis Ionawr 2025, rydyn ni wedi bod yn gofyn i’r gweithlu a yw’r fframwaith yn eu helpu yn eu gwaith mewn unrhyw ffordd.
Yn ôl y rhai a ddywedodd ei fod yn eu helpu, mae’r fframwaith wedi:
- dylanwadu ar bolisïau Adnoddau Dynol i gefnogi llesiant gweithwyr
- creu amgylchedd diogel i bobl godi eu llais
- bod yn rhan o’r holl agweddau ar hyfforddi a datblygu.
Mae’r adborth gan bobl nad oeddent yn ymwybodol o’r fframwaith yn dangos bod angen ei hyrwyddo ymhellach a sicrhau ei fod yn cyrraedd rhagor o bobl.
Digwyddiadau a chynadleddau dysgu
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi cynnal sesiynau dysgu i’r sector. Mae 260 o bobl wedi bod yn bresennol yn y sesiynau. Roedden nhw’n gyfleoedd gwerthfawr i weithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol rannu’r arferion gorau, cynyddu gwybodaeth, a chryfhau eu llesiant a’u gwydnwch.
Uchafbwyntiau:
- Fe wnaethon ni gynnal 27 o ddigwyddiadau dysgu ar themâu fel:
- polisïau llesiant
- diogelwch seicolegol
- y pecyn cymorth iechyd meddwl
- rhannu arferion.
- Dywedodd 100 y cant o’r cyfranogwyr eu bod wedi dysgu rhywbeth
- Dywedodd 98.8 y cant eu bod wedi gallu defnyddio’r hyn roedden nhw wedi’i ddysgu yn y gweithle.
Cawson ni adborth cadarnhaol gan gyfranogwyr. Dyma rywfaint ohono:
“O’r tu mewn daw llesiant ac mae’n cyd-fynd ag iechyd corfforol.”
“Arweiniad ardderchog ar fan cychwyn ar gyfer fy mholisi llesiant, ac ar bŵer casglu data ar y dechrau ac ar y diwedd.”
“Mae codi llais heb ofn yn golygu creu amgylchedd diogel i’ch staff – ac i chithau.”
“Mae angen i ni ddangos esiampl. Gwrando arnom ni ein hunain, gwagio’r bwced straen, a gofalu amdanom ni ein hunain i’n galluogi ni i ofalu am bobl eraill.”
“Nes i ymuno â’r cwrs yn wreiddiol i ddysgu am ffyrdd o gefnogi fy staff, ond fe wnaeth les i fi hefyd, ac yn ffodus, ges i’r sicrwydd fy mod i’n weddol agos ati o ran y pethau dwi’n ei wneud i geisio lleihau straen.”
“Ges i wybod am gymaint o adnoddau sydd ar gael am ddim.”
Wythnos llesiant 2025
Eleni, fe wnaethon ni gynnal ein Hwythnos llesiant gyntaf. Dyma gynhadledd ar-lein rhwng 20 a 25 Ionawr i gyd-fynd â Dydd Llun Llwm, sy’n cael ei ystyried gan lawer y diwrnod mwyaf heriol o’r flwyddyn ar gyfer iechyd meddwl.
Roedden ni’n cynnig sesiynau gwybodaeth a dysgu ymarferol i gyd-fynd â’n pedwar ymrwymiad llesiant. Roedd hyn yn ategu ein nod ehangach o wella llesiant y gweithlu.
Fe wnaethon ni gynnal naw sesiwn ar-lein, lle roedd 313 o bobl yn bresennol i gyd. Dyma rai o’r pynciau gafodd sylw:
- sut mae creu polisïau llesiant
- siarad yn ddiogel
- cefnogi timau ar ôl digwyddiad difrifol
- y pecyn cymorth iechyd meddwl
- diogelwch seicolegol.
Roedd y sector wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar y themâu a’r pynciau hyn. Fe wnaethon ni ddefnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau fel adborth o ddigwyddiadau blaenorol, sgyrsiau parhaus â’r gweithlu, a’n harolwg blynyddol o’r gweithlu. Hefyd, fe wnaethon ni’n siŵr bod ein themâu’n cyd-fynd â’r ymrwymiadau yn ein fframwaith.
Roedd yr wythnos llesiant wedi dangos ymrwymiad y sector i greu amgylcheddau gwaith sy’n cefnogi iechyd meddwl, a gwerth dod â phobl ynghyd i ddysgu, i adlewyrchu ac i adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio.
Cawsom adborth cadarnhaol gan y rhai a oedd yn bresennol mewn nifer o’r digwyddiadau hyn. Dyma rywfaint ohono:
“Sesiwn llawn gwybodaeth, wedi mwynhau’n fawr.”
“Roedd Benna Waites yn siaradwr gwych, defnyddiol ac addysgiadol iawn, wedi taro cydbwysedd rhwng siarad a chael cyfraniadau gan y dorf, hyfryd.”
“Mae’r rhaglen wythnos yma wedi bod yn ardderchog ac wedi cynnwys pynciau fydden ni ddim wedi meddwl amdanyn nhw – da iawn i’r tîm am roi popeth at ei gilydd.”
“Pwnc gwych a diolch o galon i Ben-y-bont ar Ogwr am fod mor agored am eu profiadau mewn amgylchiadau mor drist.”
“Nes i fynd i gymaint o’r sesiynau â phosib i atgoffa fy hun pa mor bwysig yw hunan-ofal a hunan-ymwybyddiaeth.”
“Mae’n dda cael gwybod beth sy’n digwydd tu fas i’ch sefydliad eich hun, a pha gymorth sydd ar gael i ni yn ein gwaith.”
Ymgysylltu â’r sector
Rydyn ni hefyd wedi cyflwyno mewn fforymau, sioeau teithio a chynadleddau i godi ymwybyddiaeth o lesiant y gweithlu, a’r cymorth sydd ar gael drwy ein fframwaith a’n hadnoddau. Roedd cynulleidfa eang yn y sesiynau hyn, gan gynnwys:
- rheolwyr
- ymarferwyr gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar
- arweinwyr comisiynu
- arweinwyr yn y GIG.
Roedd hyn yn golygu bod ein negeseuon yn cael eu clywed ar draws gwahanol feysydd iechyd a gofal cymdeithasol, gan ein helpu i ehangu ein cyrhaeddiad.
Mae ein cyfraniad i’r agenda llesiant wedi cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol hefyd. Cyfeiriodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant at ein gwaith ar lesiant y gweithlu a’r fframwaith wrth annerch Symposiwm Canopi ar gyfer Gweithwyr Niwroamrywiol. Mae hyn yn dangos gwerth a pherthnasedd ein dull gweithredu i gynulleidfa polisi ac ymarfer ehangach.
Partneriaeth a chydweithio
Rydyn ni wedi gweithio gyda nifer o bartneriaid a chyd-weithwyr mewnol.
- Yn ein Grŵp Cynghori cenedlaethol ar Lesiant Gofal Cymdeithasol, rydyn ni’n casglu cynrychiolwyr y sector ynghyd i rannu pryderon a phroblemau. Hefyd, fe wnaethon ni gyfrannu at waith y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ar ddeall cymorth menopos yn y sector.
- Fe wnaethon ni rannu ein dull gweithredu a’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu gyda’n cyd-weithwyr yn Lloegr yn Partners in Health and Care i’w helpu i ddatblygu ffyrdd o gefnogi llesiant yn y gweithle.
- Rydyn ni wedi parhau i rannu arferion da ac adnoddau rhwng iechyd a gofal cymdeithasol i sbarduno gwelliant, a rhyngom rydyn ni'n rhannu lleoedd ar rwydweithiau iechyd a llesiant.
- Rydyn ni wedi parhau i hyrwyddo ‘Canopi’, y gwasanaeth cymorth iechyd meddwl. Fel rhan o’n harolwg blynyddol o’r gweithlu, fe wnaethon ni ofyn i bobl ble bydden nhw’n dueddol o chwilio am wybodaeth am gymorth llesiant yn y gweithle. Rydyn ni’n cael data rheolaidd gan Canopi, gan gynnwys nifer yr atgyfeiriadau o’r sector gofal cymdeithasol, yn ogystal â gwybodaeth am y rhesymau dros atgyfeirio a’r mathau o gymorth sydd wedi cael ei ddefnyddio.
- Fe wnaethon ni weithio gyda RCS (Strategaeth Dinas Rhyl) i ymgysylltu â’r sector. Gyda’n gilydd, fe wnaethon ni hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael a datblygu cynnwys ar gyfer eu sesiynau dysgu.
- Fe wnaethon ni weithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i gefnogi ei rhaglen dysgu a datblygu i arolygwyr. Fe wnaethon ni ddarparu sesiynau ar lesiant yn ystod arolygiadau a chreu ffolder o adnoddau cyfeirio ar gyfer arolygwyr.
- Rydyn ni wedi sefydlu cysylltiadau â meysydd gwaith eraill yn Gofal Cymdeithasol Cymru a chryfhau’r cysylltiad rhwng llesiant ac arweinyddiaeth dosturiol, ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau, a diwylliannau cadarnhaol. Rydyn ni wedi datblygu negeseuon a chynnwys llesiant sy’n cael ei rannu â’r gweithlu mewn ffyrdd newydd, gan ehangu ein cyrhaeddiad a chynyddu pŵer a pherthnasedd ein negeseuon.
Cymunedau a rhwydweithiau
Mae ein cymuned ddigidol yn dal i dyfu fel man diogel a chydweithredol i gysylltu ar sail ymrwymiad ar y cyd ar gyfer llesiant y gweithlu.
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi cael 26 o geisiadau newydd am aelodaeth, sy’n golygu bod 67 o aelodau i gyd erbyn hyn. Mae’r twf parhaus hwn yn adlewyrchu awydd parhaus am gysylltiad, dysgu ar y cyd, a chymorth gan gymheiriaid.
Mae’r gymuned ar agor i arweinwyr, rheolwyr ac ymarferwyr rheng flaen, ac mae’n fan pwrpasol i aelodau wneud y canlynol:
- cael gafael ar newyddion ac adnoddau, a chael gwybod am ddigwyddiadau
- rhannu arferion da, syniadau a heriau yn y maes gwaith hwn
- meithrin perthynas a dod o hyd i ffyrdd o gydweithio
- cael gwybodaeth am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael.
Rydyn ni’n hyrwyddo’r gymuned ddigidol drwy ein diweddariad llesiant misol ac ar draws ein rhwydwaith ehangach. Rydyn ni hefyd yn tynnu sylw ati mewn adnoddau a rennir i wneud yn siŵr ei bod yn weladwy ac yn hygyrch.
Rydyn ni’n cydnabod bod llesiant yn elfen mewn llawer o’r cymunedau digidol rydyn ni’n eu rhedeg. Eleni, fe wnaethon ni gyflwyno i’r Gymuned Unigolion Cyfrifol a’r Gymuned Tystiolaeth i’w helpu i ddeall yn well y cysylltiadau rhwng eu gwaith a llesiant yn y gwaith. O hyn allan, byddwn yn edrych ar ffyrdd o ennyn rhagor o ddiddordeb a gwneud y man yn fwy rhyngweithiol ac yn fwy adlewyrchol o anghenion aelodau.
Mae ein rhwydwaith llesiant yn dal yn sianel bwysig ar gyfer ymgysylltu â’r gweithlu gofal cymdeithasol a rhannu gwybodaeth am lesiant yn y gwaith. Erbyn hyn mae gan y rhwydwaith 219 o aelodau ar draws amrywiaeth o rolau a sefydliadau, sy’n adlewyrchu twf cyson ac ymdrech barhaus i wella a chefnogi’r gweithlu.
Rydyn ni’n defnyddio’r rhwydwaith i wneud y canlynol:
- rhannu gwybodaeth amserol a pherthnasol am lesiant yn y gweithle
- hyrwyddo cyfleoedd a digwyddiadau dysgu sy’n cael eu cynnal gennym ni a gan sefydliadau partner
- rhannu diweddariad misol, gan gynnwys adnoddau, enghreifftiau o arferion da, a newyddion o’r sector
- cynnal digwyddiad wyneb yn wyneb y rhwydwaith llesiant, gan ganolbwyntio ar greu diwylliant cadarnhaol yn y gweithle. Fe wnaethon ni rannu enghreifftiau o arferion da ac roedd cyfle i bobl gysylltu.
Ein pwyslais yn 2025 a 2026
Yn 2025 i 2026, byddwn ni’n canolbwyntio ar y canlynol:
- cryfhau ein gwaith gyda phartneriaid er mwyn gallu gwneud rhagor i gefnogi llesiant y sector, gan gynnwys drwy ein gwaith i gefnogi diwylliannau cadarnhaol
- cynnig ein rhaglen o sesiynau gwybodaeth am lesiant, lle mae’r pynciau’n adlewyrchu’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu drwy arolygon, ymchwil a thystiolaeth
- datblygu’r rhwydwaith llesiant ymhellach er mwyn i aelodau allu rhannu’r arferion gorau gyda’i gilydd
- adolygu ac adnewyddu’r fframwaith llesiant i’w wneud mor ddefnyddiol a pherthnasol â phosib
- datblygu a rhannu ffyrdd o weithio sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd hyn yn gwella ansawdd cysylltiadau yn y gwaith er mwyn i bobl deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a’u cydnabod.
Sut y gallwch gyfrannu
I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith neu i ymuno â’n rhwydwaith llesiant, cysylltwch â ni ar wellbeing@socialcare.wales
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am lesiant yn y gweithle ar ein tudalennau gwe ar lesiant.