Mae'r Gwobrau yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith nodedig ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Mae'r gwobrau'n cydnabod gwaith grwpiau, timau a sefydliadau, yn ogystal â gweithwyr gofal unigol o bob rhan o'r sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chydweithredol yng Nghymru.
Rydyn ni nawr yn croesawu ceisiadau ar gyfer Gwobrau 2027 gan grwpiau, timau a sefydliadau, yn ogystal ag enwebiadau ar gyfer y gwobrau i weithwyr unigol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ac enwebiadau yw 5pm, 6 Tachwedd 2026.