Jump to content
Ymgeisiwch ar gyfer y Gwobrau 2027

Os ydych chi'n dîm, grŵp neu sefydliad, dysgwch sut y gallwch ymgeisio ar gyfer y Gwobrau 2027.

Pwy all ymgeisio ar gyfer y Gwobrau?

Mae'r Gwobrau’n agored i unrhyw dîm, grŵp neu sefydliad sy'n darparu gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. 

Rydyn ni’n chwilio am geisiadau o bob maes – y sector gwirfoddol, preifat, cydweithredol a chyhoeddus. Gall y gofal a chymorth rydych chi’n ei ddarparu fod yn fach neu’n fawr, a gallwch chi fod yn gweithio gyda phlant, teuluoedd, oedolion neu ofalwyr. 

Bydd ein beirniaid yn chwilio am brosiectau, timau a sefydliadau sy'n dangos ffyrdd newydd o weithio ac sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau’r bobl y maen nhw’n eu cefnogi. 

Weithiau nid yw pobl yn sylweddoli pa mor drawiadol yw eu gwaith, felly os ydych chi'n gwybod am brosiect, tîm neu sefydliad sy'n gymwys, anogwch nhw i gymryd rhan. 

Sut i ymgeisio

I wneud cais ar gyfer eich prosiect, tîm neu sefydliad, y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw: 

  • dilyn y link i'r Ffurflen Microsoft isod ar gyfer y categori rydych chi’n ymgeisio amdano 
  • darllen y canllaw hwn  
  • darllen y rheolau cystadlu a'r telerau ac amodau 
  • llenwi’r ffurflen gais 
  • cyflwynwch eich ffurflen erbyn 5pm, 6 Tachwedd 2026. 

Peidiwch ag anfon unrhyw beth heblaw eich ffurflen gais wedi'i chwblhau – ni fydd y beirniaid yn ystyried unrhyw ddeunyddiau ychwanegol fel lluniau neu fideos. 

Dewiswch y ffurflen ar gyfer y categori hoffech chi ymgeisio amdano:

Y beirniadu

Mae tair rhan i'r beirniadu: 

  1. Bydd ein panel o feirniaid yn sgorio'r holl geisiadau ac yn cwrdd i gytuno ar restr fer o'r ceisiadau â'r sgôr uchaf  
  2. Bydd y beirniaid yn ymweld â rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer rhwng mis Ionawr a mis Chwefror 
  3. Bydd y beirniaid yn cwrdd i ddewis y rhai a fydd yn cyrraedd y rownd derfynol ac enillwr y categori. 

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod y seremoni wobrwyo yn haf 2027. 

Gall y beirniaid symud eich cais i gategori gwahanol os ydyn nhw'n teimlo ei fod yn briodol. 

Y rheolau cystadlu

Y rheolau cystadlu ar gyfer grwpiau, timau a sefydliadau yw:  

Cyffredinol 

  • mae mynediad am ddim 
  • mae'r Gwobrau'n agored i dimau, prosiectau neu sefydliadau o'r meysydd gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar  
  • rhaid i'ch tîm, prosiect neu sefydliad fod wedi'i leoli ac yn gweithio yng Nghymru 
  • rhaid bod peth o'r gwaith y cyfeiriwch ato yn eich cais digwydd ers mis Tachwedd 2025 
  • ni fyddwn ni’n derbyn unrhyw geisiadau ar ôl y dyddiad a'r amser cau (5pm, 6 Tachwedd 2026). 

Eich cais 

  • rhaid i chi ateb pob cwestiwn ar y ffurflen gais  
  • dim ond yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y ffurflen gais y bydd y beirniaid yn ei hystyried ac ni fyddan nhw’n ystyried deunydd ychwanegol, fel lluniau neu fideos 
  • rhaid i chi ddarparu manylion cyswllt llawn rhywun o’ch tîm, brosiect neu sefydliad er mwyn i ni allu gysylltu â chi 
  • rhaid i chi sicrhau eich bod yn gymwys i gyflwyno'r cais ar ran eich tîm, brosiect neu sefydliad 
  • dylech chi gyfeirio at y safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir gan weithwyr gofal yn eich cais 
  • dylech chi ddangos sut mae peth neu'r holl waith rydych chi'n cyfeirio ato yn eich cais yn newydd ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau'r bobl yr ydych chi’n eu cefnogi 
  • efallai y byddwn ni’n defnyddio'r wybodaeth yn eich ffurflen gais i hyrwyddo'r Gwobrau 
  • byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais unwaith i'r beirniaid wneud penderfyniad 
  • ni allwn ddychwelyd eich ffurflen gais. 

Y telerau ac amodau

Dylech chi wneud yn siŵr eich bod wedi darllen ac yn deall y telerau ac amodau canlynol cyn i chi anfon eich cais wedi'i gwblhau atom ni: 

Cyhoeddusrwydd 

Rhaid i'ch tîm, brosiect neu sefydliad gytuno y gallwn ni ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu ar eich ffurflen gais i: 

  • hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i'r Gwobrau 
  • rhannu ymarfer nodedig a helpu eraill i ddysgu yn y meysydd gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar. 

Byddwn ni’n creu ffilmiau byr o’r holl brosiectau fydd yn cyrraedd y rownd derfynol a fydd yn cael eu dangos yn y seremoni wobrwyo.  

Bydd y ffilmio’n debygol o ddigwydd rhwng mis Mawrth i fis Mai 2027 a bydd disgwyl i bawb sy'n cyrraedd y rownd derfynol sicrhau eu bod ar gael ar gyfer y ffilmio. Bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn mwy o wybodaeth am y ffilmio yng ngwanwyn 2027. 

Gall pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol dderbyn cyhoeddusrwydd yn y cyfryngau yng Nghymru. 

Beirniadu

Bydd ein panel beirniadu’n dewis y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol a'r enillwyr. Dim ond un enillydd fydd ym mhob categori. 

Rhaid i aelodau'r panel beirniadu beidio â bod ag unrhyw gysylltiad â'r prosiectau sydd wedi ymgeisio ar gyfer y Gwobrau. 

Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol ac ni fyddwn ni’n gohebu am eu penderfyniad. 

Rhaid i brosiectau ar y rhestr fer fod ar gael i gyfarfod â'n beirniaid rhwng mis Ionawr a mis Chwefror 2027. 

Y seremoni a'r gwobrau

Bydd enillydd pob categori yn ennill tlws a bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael tystysgrif. Ni fydd unrhyw wobrau ariannol na chyfwerth. 

Bydd pawb sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i fynychu seremoni wobrwyo'r Gwobrau, a fydd yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd yn haf 2027. Os na all y sawl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol fynychu’r seremoni, bydd angen iddyn nhw roi gwybod i ni o flaen llaw a dweud wrthym ni pwy fydd yn derbyn y wobr neu’r dystysgrif ar eu rhan. 

Bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael gwybod faint o lefydd fydd ganddyn nhw yn y seremoni wobrwyo. Bydd unrhyw un sy'n mynychu'r seremoni yn gyfrifol am eu costau teithio a llety eu hunain. 

Os byddwn ni’n darganfod bod ymgeisydd wedi torri'r rheolau – cyn neu ar ôl cyflwyno Gwobr – gall y beirniaid wahardd yr ymgeisydd. Os digwydd hyn, rhaid dychwelyd y tlws a'r dystysgrif atom ni ar unwaith. 

Dyddiadau pwysig ar gyfer timau, grwpiau a sefydliadau

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm, 6 Tachwedd 2026 (ni fyddwn ni’n derbyn ceisiadau ar ôl y dyddiad cau) 

Hysbysu'r rhai sy'n cyrraedd y rhestr fer: erbyn canol mis Ionawr 2027 

Cyfarfodydd y beirniaid â’r rhai fydd yn cyrraedd y rhestr fer: mis Ionawr i fis Chwefror 2027 

Cyhoeddi enwau'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol: Mawrth 2027 

Seremoni wobrwyo: haf 2027