Jump to content
Ydych chi wedi ceisio defnyddio gwerthoedd i ddod o hyd i'r ymgeiswyr gorau ar gyfer eich rolau?
Newyddion

Ydych chi wedi ceisio defnyddio gwerthoedd i ddod o hyd i'r ymgeiswyr gorau ar gyfer eich rolau?

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni wedi cyhoeddi pecyn cymorth i'ch helpu i ddenu, recriwtio a chefnogi gweithwyr sy'n cyd-fynd â'ch gwerthoedd a'ch diwylliant, ac sydd eisiau aros gyda'ch sefydliad.

Mae ein pecyn cymorth recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd yn cynnwys awgrymiadau a thempledi ymarferol i'ch helpu i adolygu eich arferion recriwtio cyfredol, ac ymgorffori gwerthoedd yn yr hyn rydych chi eisoes yn ei wneud.

Rydyn ni wedi dylunio'r pecyn cymorth ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn gofal plant preswyl, ond gall unrhyw un sy’n recriwtio mewn gofal cymdeithasol ei ddefnyddio. 

Mae'r pecyn cymorth ymarferol hwn yn cael ei gefnogi gan bum fideo, gan gynnwys astudiaeth achos yn dangos sut mae hyn wedi'i ddefnyddio i adolygu arferion recriwtio mewn awdurdod lleol.

Gall hyn eich helpu i gael y gorau o'ch recriwtio.

Rydyn ni’n gwybod y gall recriwtio seiliedig ar werthoedd eich cefnogi i:

  • ehangu eich cronfa recriwtio trwy edrych y tu hwnt i brofiad a chymwysterau blaenorol
  • denu ac uwcholeuo’r ymgeiswyr sydd â'r potensial a'r angerdd i fod yn weithwyr anhygoel
  • dod o hyd i ymgeiswyr sydd wedi ymrwymo i ddiwylliant a gweledigaeth eich sefydliad 
  • creu diwylliant cadarnhaol sydd ei angen i ddarparu gofal rhagorol
  • rhoi gofal a chymorth fel y nodir yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015).

"Ffordd arloesol o recriwtio pobl"

Dywedodd Elle Henley, Rheolwr Cymunedol (modelau newydd o ofal plant preswyl) Gofal Cymdeithasol Cymru:

"Mae recriwtio seiliedig ar werthoedd yn ffordd arloesol o recriwtio pobl. Mae'n rhoi cyfle i ymgeiswyr a chyflogwyr wneud yn siŵr eu bod nhw'n addas i'w gilydd.

"Nid yw pawb yn gyfforddus mewn cyfweliadau, ac efallai na fydd yn disgleirio mor ddisglair mewn cyfweliadau traddodiadol a dulliau sgorio. 

"Gall recriwtio seiliedig ar werthoedd helpu cyflogwyr gofal cymdeithasol – yn enwedig cartrefi plant preswyl – i ddod o hyd i, denu, recriwtio a chadw pobl sy'n rhannu gwerthoedd eu sefydliad, a chael yr ymddygiadau i gefnogi pobl i ffynnu yn eu gofal.

"Mae ein pecyn cymorth a'n fideos yn ffordd wych o'ch helpu ble bynnag rydych chi ar y daith. P'un a yw hynny'n mynd i'r afael â hanfodion recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd, neu chwilio am syniadau newydd i gefnogi gyrfaoedd hir a boddhaol mewn gofal cymdeithasol plant."

Ewch i'r pecyn cymorth

Fe welwch y pecyn cymorth yn ein hadran adnoddau 'Gofal cymdeithasol i blant a theuluoedd'. 

Yn yr un adran, fe welwch fideos sy'n esbonio gwahanol rannau o'r pecyn cymorth.