Jump to content
Morâl uchel ac ymdeimlad cryf o bwrpas gan y gweithlu gofal cymdeithasol, ond heriau cadw yn parhau
Newyddion

Morâl uchel ac ymdeimlad cryf o bwrpas gan y gweithlu gofal cymdeithasol, ond heriau cadw yn parhau

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae risgiau cadw'r gweithlu dal i fod yn uchel, ond mae pedwar o bob deg o bobl sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol yn bwriadu aros yn y sector tan ymddeol.

Dyma rai o'r canfyddiadau a ddatgelwyd yn adroddiad Dweud Eich Dweud 2026, ein harolwg blynyddol o’r gweithlu. 

Cafodd arolwg Dweud Eich Dweud ei gynnal rhwng Ionawr a Mawrth 2026. Rhannodd dros 30 y cant yn fwy o bobl eu profiadau o weithio ym maes gofal cymdeithasol eleni nag yn 2025. Ymatebodd cyfanswm o 7,565 o weithwyr gofal cymdeithasol, o ystod eang o rolau, i’r arolwg blynyddol - bron i 2,000 yn fwy na’r flwyddyn gynt. 

Y prif ganfyddiadau

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn ei wneud oherwydd eu bod am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae hyn wedi ei ddilyn yn agos gan ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn teimlo y byddai'n rôl y bydden nhw’n ei garu neu'n eu mwynhau. 

Mae morâl yn parhau i fod yn uchel (67 y cant). Disgrifiodd lawer o ymatebwyr eu perthynas â chydweithwyr fel agwedd gadarnhaol o’u gwaith. Adroddwyd hefyd eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi mewn timau cefnogol gydag ymdeimlad o bwrpas yn eu gwaith.

Er gwaethaf y mwyafrif yn dewis gweithio mewn gofal cymdeithasol i helpu eraill, mae cadw'r gweithlu yn parhau i fod yn risg. Dywedodd chwarter yr ymatebwyr eu bod yn ystyried gadael y sector, ac mae rhai (16 y cant) yn disgwyl gadael mewn llai na 12 mis. 

Ond, mae bron i hanner (39 y cant) o weithwyr eisiau aros yn y sector tan ymddeol, ac 11 y cant arall yn gweld eu hunain yn aros am fwy na 10 mlynedd.

Mae uchelgeisiau dilyniant o fewn y gweithlu yn gadarnhaol. Roedd 39 y cant eisiau rôl arweinydd yn y dyfodol, a chredai ychydig dros hanner o’r ymatebwyr (51 y cant) y byddai’n bosib dod yn arweinydd. 

Roedd telerau ac amodau yn parhau i fod yn bryder i bobl sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol. Ychydig dros hanner (57 y cant) a ddywedodd eu bod nhw'n fodlon â'u telerau ac amodau. Dywedodd llai o ymatebwyr eu bod nhw’n derbyn buddion fel cyfraniadau pensiwn cyflogwr (44 y cant o'i gymharu â 64 y cant yn 2025). Dywedodd llai hefyd eu bod yn derbyn 28 diwrnod neu fwy o wyliau â thâl (59 y cant o'i gymharu â 76 y cant) na'r llynedd.

Mae tâl yn dal i fod yn bryder. Dywedodd 24 y cant eu bod nhw’n ei chael hi’n anodd ymdopi’n ariannol, a dywedodd dros hanner (52 y cant) eu bod nhw’n teimlo'n anoddach i ymdopi’n ariannol na'r llynedd.

Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr:

“Hoffwn ddweud diolch yn fawr i bawb a gymerodd yr amser i gwblhau arolwg Dweud eich Dweud 2026, ein harolwg blynyddol o’r gweithlu. Mae'r safbwyntiau rydych chi wedi eu rhannu yn ein harolwg yn rhoi mewnwelediadau gwerthfawr i ni ar sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru heddiw. 

“Mae canlyniadau'r arolwg hwn unwaith eto yn dangos ymrwymiad y gweithlu gofal cymdeithasol i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Ac mae'n wych gweld bod y mwyafrif o bobl yn dal i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi gan eu cydweithwyr a'u rheolwyr. 

“Ond, rydych chi hefyd wedi dweud wrthym ni fod heriau yno o hyd. Er mwyn ceisio mynd i'r afael â rhai o'r pryderon rydych chi wedi'u codi yn ein harolwg, rydyn ni wedi trefnu sesiynau ar bynciau allweddol i'ch cefnogi chi a'ch timau. Mae'r sesiynau'n cynnwys trafodaethau am lesiant ariannol, dathlu staff, a chefnogi eich timoedd ynghylch gwahaniaethu ac aflonyddu. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar ein gwefan. 

"Byddwn ni’n defnyddio canfyddiadau'r arolwg i lywio'r cymorth a'r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig. Byddwn ni hefyd yn ei ddefnyddio i ddylanwadu ar waith partneriaid i sicrhau bod llais y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael ei glywed.”

Darganfod mwy

Ymunwch â ni ac ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd mewn gweminar ar 15 Hydref i glywed prif ganfyddiadau arolwg Dweud eich Dweud 2026. 

Cofrestrwch i ymuno yn ein gweminar, yma: Digwyddiad Canfyddiadau Arolwg 2026 Dweud Eich Dweud / Have Your Say Survey Findings Event 2026

Ein digwyddiadau

Ymunwch â’n timoedd cymorth i gyflogwyr a diwylliant ac arweinyddiaeth mewn sesiynau sy’n trafod pryderon ac heriau sydd wedi eu godi drwy arolwg Dweud Eich Dweud. 

Arolwg Dweud Eich Dweud 2026

Darllenwch yr arolwg

Darllenwch adroddiad llawn arolwg Dweud Eich Dweud 2026, ynghyd â chrynodebau o’r canfyddiadau gan wahanol swyddi ar ein gwefan y Grŵp Gwybodaeth: 

Cynhaliwyd yr arolwg eleni ar ein rhan gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, Canolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE ), Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK), ac wedi ei gefnogi gan Fforwm Gofal Cymru.