Ynglŷn â'r digwyddiad
- Ydych chi eisiau dathlu'r gwahaniaeth y mae eich staff yn ei wneud bob dydd?
- Ydych chi eisiau rhannu syniadau gyda chyflogwyr ledled Cymru ynglŷn â sut rydych chi'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi'ch gweithlu?
- Ydych chi eisiau ffyrdd ymarferol o ddal gwaith da eich gweithlu, fel y gallwch chi ddysgu ohono a rhannu gydag eraill?
Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn ar-lein ryngweithiol wedi'i ysbrydoli gan yr hyn a ddysgwyd gennym o arolwg Dweud eich dweud 2026. Fe wnaeth yr arolwg ddatgelu mai gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yw un o'r prif resymau pam mae pobl yn dewis gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Gyda'n gilydd, byddwn ni’n dathlu cyfraniad y gweithlu gofal cymdeithasol ac yn rhannu straeon ysbrydoledig o bob cwr o Gymru.
Byddwn ni’n archwilio sut y gall cydnabod a dal yr effaith y mae pobl yn ei chael helpu sefydliadau i ddenu gefnogi, ysgogi a chadw staff, a gwella gwasanaethau trwy ddysgu parhaus.
Yn ystod y sesiwn byddwn ni’n:
- edrych ar sut y gall recriwtio sy’n seiliedig ar werthoedd helpu i ddenu a chadw staff sy'n rhannu gwerthoedd gofal cymdeithasol
- archwilio beth mae "gwneud gwahaniaeth" yn ei olygu yn ymarferol
- clywed straeon sy'n tynnu sylw at effaith gofal cymdeithasol ar fywydau pobl
- rhannu syniadau ar gyfer cydnabod a dathlu llwyddiant
- trafod sut mae diwylliannau cadarnhaol yn y gweithle yn helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi
- archwilio'r cysylltiad rhwng pwrpas, cydnabyddiaeth a chadw staff
- meddwl am sut y gallwch chi daflu goleuni ar gyflawniadau eich sefydliad
- cyfeirio at adnoddau ymarferol gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae'r sesiwn wedi'i hanelu at gyflogwyr gofal cymdeithasol, rheolwyr cofrestredig, arweinwyr tîm ac eraill sydd â diddordeb mewn creu diwylliannau gweithle cadarnhaol lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cydnabod a'u hysbrydoli i aros yn y sefydliad.
Bydd hwn yn ddigwyddiad rhyngweithiol. Bydd cyfle i chi fyfyrio, rhannu profiadau a dysgu gan gydweithwyr ledled Cymru. Dewch yn barod i ddathlu cyflawniadau eich tîm a chymryd rhan yn y drafodaeth.