Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad hwn
- Gweithwyr cymdeithasol sy'n fentoriaid neu sydd â diddordeb mewn bod yn fentor
- Arweinwyr gwaith cymdeithasol.
- Pobl sy'n gyfrifol am drefnu cynlluniau mentora
- Pobl sy'n gyfrifol am hyfforddi a datblygu staff
- Sefydliadau sy'n darparu'r rhaglen cydgrynhoi gwaith cymdeithasol
- Gweithwyr cymdeithasol yn eu tair blynedd gyntaf yn ymarfer.
Yr hyn y byddwn yn ei gwmpasu
Ymunwch â ni ar gyfer lansiad ein Canllaw cenedlaethol i fentora mewn gwaith cymdeithasol.
Yn y sesiwn hon byddwn ni’n:
- esbonio sut a pham y datblygwyd y canllaw
- rhoi trosolwg o'r canllaw
- dweud wrthych am ein cynnig hyfforddi sydd ar gael i unrhyw un sydd eisiau defnyddio'r canllaw i ddechrau neu wella eu cynlluniau mentora
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad
Gweithdy ymarferol
Rydyn ni hefyd yn cynnig gweithdy ymarferol hanner diwrnod i gefnogi awdurdodau lleol a chyflogwyr gwaith cymdeithasol eraill i ddatblygu neu gryfhau cynlluniau mentora ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at gwaithcymdeithasol@gofalcymdeithasol.cymru