Jump to content
Gweithdy: Mentora ar gyfer gweithwyr cymdeithasol ar ddechrau gyrfa: dylunio cymorth sy'n gwneud gwahaniaeth
Digwyddiad

Gweithdy: Mentora ar gyfer gweithwyr cymdeithasol ar ddechrau gyrfa: dylunio cymorth sy'n gwneud gwahaniaeth

Dyddiad
1 Rhagfyr 2026 i 30 Ebrill 2027, 9am i 5pm
Lleoliad
Mewn person neu ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru - Gwasanaeth Hyfforddi ac Arloesi

Pryd?

Dyddiadau rhwng Ebrill a Rhagfyr 202, wedi'u trefnu ar gais.

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad hwn 

  • Arweinwyr gwaith cymdeithasol.   
  • Pobl sy'n gyfrifol am drefnu cynlluniau mentora.   
  • Pobl sy'n gyfrifol am hyfforddi a datblygu staff. 
  • Gweithwyr cymdeithasol yn eu tair blynedd gyntaf yn ymarfer. 
  • Gweithwyr cymdeithasol sy'n fentoriaid neu sydd â diddordeb mewn dod yn fentoriaid. 

Beth fyddwn ni'n ei gwmpasu 

Rydyn ni'n cynnig gweithdy hanner diwrnod ymarferol i'ch helpu i ddefnyddio ein Canllaw newydd i fentora mewn gwaith cymdeithasol. 

Bydd yn cefnogi awdurdodau lleol a chyflogwyr gwaith cymdeithasol eraill i ddatblygu neu gryfhau cynlluniau mentora ar gyfer gweithwyr cymdeithasol ar ddechrau eu gyrfa. 

Gan ddefnyddio ein canllaw, bydd y sesiwn yn rhoi cyfle i: 

  • archwilio pwrpas a gwerth mentora 
  • egluro rolau, cyfrifoldebau a ffiniau 
  • ystyried gwahanol fodelau a dulliau mentora 
  • nodi ffyrdd o wneud mentora yn gynaliadwy ac yn raddadwy 
  • datblygu dulliau ymarferol o fesur effaith a llwyddiant 
  • rhannu dysgu a syniadau.

Bydd cyfranogwyr yn gadael gyda fframwaith drafft ac offer ymarferol i gefnogi datblygiad mentora o fewn eu sefydliad eu hunain. 

Gwneud cais am sesiwn

I ofyn am sesiwn ar gyfer eich sefydliad, anfonwch e-bost at Gwaithcymdeithasol@gofalcymdeithasol.cymru