Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod pryderon diogelu difrifol yn cael eu profi yn erbyn Callum Harper, gweithiwr gofal cartref cofrestredig.
Canfu'r Panel fod addasrwydd presennol Callum Harper i ymarfer wedi ei amharu, a gosododd Orchymyn Dileu sy'n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol rheoledig yng Nghymru.
Bydd enw Callum Harper yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a'i roi ar y Rhestr o Bobl a Dynnwyd o'r Gofrestr.
Mae gan Callum Harper yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.
Mae mwy o wybodaeth am yr achos ar gael ar gais. Fodd bynnag, nodwch y gall rhywfaint o wybodaeth gael ei golygu.
----------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru