Rheolwr gwasanaethau maethu fydd yn pennu cyfeiriad gweithredol y gwasanaeth, ac yn trefnu bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n effeithiol er mwyn cyflawni datganiad o ddiben y lleoliad.
Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd
Cymwysterau sy'n cael eu hargymell ar gyfer ymarfer:
-
Gradd mewn gwaith cymdeithasol
a
-
Tystysgrif Ôl-radd mewn Rheoli Ansawdd Ymarfer mewn Gofal Cymdeithasol Cymdeithasol (adnabyddir hefyd fel Rhaglen Datblygu Rheolwyr Tîm (TMDP))
neu
-
Gradd mewn gwaith cymdeithasol
a
Cymhwyster rheoli generig ar yr amod ei fod:
- yn o leiaf lefel 3
- ganddo o leiaf 37 credyd
- wedi’i asesu yn y gweithle ar gyfer cymhwysedd galwadigaethol a bod y person cofrestriedig mewn rôl iechyd neu gofal cymdeithasol perthnasol pan gafodd y cymhwyster ei ymgymryd.
Noder: Mae’r rheolwyr sy’n dal y Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol ond dim un o’r cymhwysterau rheolwyr, yn gallu ceisio cofrestru ond fe fydd angen cwblhau y Tystysgrif Ôl-radd mewn Rheoli Ansawdd Ymarfer mewn Gofal Cymdeithasol yn ei cyfnod cofrestru 3 mlynedd.