Gall myfyrio eich helpu i feddwl am eich dysgu a'ch profiadau mewn ffyrdd gwahanol. Mae rhai dulliau'n eich helpu i fyfyrio'n gyflym ar ddysgu bob dydd, tra bod eraill yn eich helpu i archwilio profiad yn fanylach.
Nid y ffordd rydych chi'n myfyrio yw'r peth pwysicaf. Yr hyn sy'n bwysig yw cymryd amser i feddwl am yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu, sut mae'n berthnasol i'ch rôl a sut y gall wella eich ymarfer.
Dewiswch y dull sy'n gweddu orau i'ch dysgu ac i'r lefel o fyfyrio sydd ei angen arnoch.
Bydd y dull gorau yn dibynnu ar:
- y gweithgaredd neu'r profiad dysgu
- faint o fanylion sydd eu hangen arnoch
- diben eich myfyrdod
- eich ffordd eich hun o fyfyrio a ffefrir gennych.
Pa bynnag ddull a ddewiswch, dylai myfyrio eich helpu i ddeall eich dysgu, ei ddefnyddio yn ymarferol a gwella canlyniadau i'r bobl rydych chi'n eu cefnogi.
Dulliau gwahanol
Dull syml ar gyfer dysgu bob dydd
Mae'r dull hwn wedi'i ddatblygu i gefnogi myfyrio yn dilyn unrhyw fath o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP).
Mae'n eich annog i feddwl am:
- yr hyn ydych chi wedi'i ddysgu
- pam ei fod yn bwysig
- sut mae'n berthnasol i'ch rôl
- sut byddwch chi'n rhoi'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu ar waith
- y gwahaniaeth y gallai ei wneud i'r bobl rydych chi'n eu cefnogi.
Mae'r dull hwn yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o weithgareddau dysgu a dim ond ychydig funudau y mae'n eu cymryd i'w gwblhau. Gallwch ei ddefnyddio ar ôl hyfforddiant, gweminarau, darllen, goruchwylio, trafodaethau tîm a phrofiadau dysgu bob dydd eraill.
Mae'r dull hwn yn ddefnyddiol pan fyddwch chi eisiau:
- myfyrio'n gyflym ar ôl dysgu
- paratoi ar gyfer goruchwyliaeth
- cofnodi DPP anffurfiol
- nodi camau i wella eich ymarfer.
Beth? Beth felly? Beth nawr?
Strwythur syml ar gyfer meddwl am ddysgu a phrofiad
Mae'r model myfyrio hwn yn defnyddio tri chwestiwn syml i'ch helpu i wneud synnwyr o ddysgu neu brofiad.
Mae'n eich annog i:
- ddisgrifio beth ddigwyddodd
- ystyried pam ei fod yn bwysig
- benderfynu beth fyddwch chi'n ei wneud nesaf.
Mae'r dull hwn yn gyflym, yn ymarferol ac yn hawdd ei ddefnyddio. Mae'n eich helpu i nodi sut y gall dysgu wella eich ymarfer heb orfod ysgrifennu disgrifiad myfyriol manwl.
Mae'r dull hwn yn ddefnyddiol pan fyddwch chi eisiau:
- myfyrio ar ôl cyfarfod neu sesiwn hyfforddi
- meddwl am brofiad bob dydd
- paratoi ar gyfer goruchwyliaeth
- nodi camau gweithredu ar ôl dysgu.
Cylch myfyriol Gibbs
Dull wedi’i strwythuro o fyfyrio'n ddyfnach
Mae cylch myfyriol Gibbs yn eich helpu i archwilio profiad trwy weithio trwy gyfres o gamau.
Mae'n eich annog i feddwl am:
- beth ddigwyddodd
- sut roeddech chi'n teimlo
- beth aeth yn dda
- beth y gellid fod wedi'i wella
- beth wnaethoch chi ei ddysgu
- beth fyddech chi'n ei wneud mewn sefyllfa debyg yn y dyfodol.
Drwy archwilio profiad o safbwyntiau gwahanol, mae'r dull hwn yn eich helpu i ennill dealltwriaeth ddyfnach o'ch ymarfer ac i nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu yn y dyfodol.
Mae'r dull hwn yn ddefnyddiol pan fyddwch chi eisiau:
- cwblhau cymhwyster neu adroddiad myfyriol
- archwilio sefyllfa gymhleth
- dysgu o brofiadau heriol
- dadansoddi eich ymarfer yn fanylach.
Cylch dysgu Kolb
Dysgu trwy brofiad
Mae cylch dysgu Kolb yn canolbwyntio ar sut mae dysgu'n datblygu trwy brofiad.
Mae'r model yn eich annog i:
- gael profiad
- fyfyrio ar yr hyn a ddigwyddodd
- nodi'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu
- gymhwyso'r dysgu hwnnw mewn sefyllfaoedd yn y dyfodol.
Yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn a ddigwyddodd yn unig, mae'r dull hwn yn eich annog i ddefnyddio'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu i wella arfer yn y dyfodol.
Mae'n arbennig o ddefnyddiol wrth ddatblygu sgiliau newydd neu roi cynnig ar wahanol ffyrdd o weithio.
Mae'r dull hwn yn ddefnyddiol pan fyddwch chi eisiau:
- dysgu o brofiadau yn y gweithle
- datblygu sgiliau newydd
- gwella eich ymarfer dros amser
- cymhwyso'r hyn a ddysgwyd mewn sefyllfaoedd gwahanol.
Enghreifftiau o fyfyrdod
Mae'r enghreifftiau isod yn dangos sut y gallwch fyfyrio ar yr un gweithgaredd dysgu mewn ffyrdd gwahanol.
Nid oes un ffordd gywir o fyfyrio. Dewiswch yr ymagwedd sy'n diwallu eich anghenion orau ac yn cefnogi eich datblygiad proffesiynol.
Gweithgaredd dysgu: mynychu gweminar ar ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau
Dangosodd y weminar sut y gall canolbwyntio ar gryfderau, galluoedd a chanlyniadau unigolyn roi mwy o ddewis a rheolaeth iddyn nhw dros eu bywydau. Amlygodd hefyd bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â phobl i nodi'r hyn sydd bwysicaf iddyn nhw.