Jump to content
Gwaith Cynllunio datblygu'r gweithlu ac Addysgwyr Ymarfer

Helpwch ni i lunio cynlluniau'r dyfodol trwy ddweud wrthym ni beth sy'n bwysig i chi.

Rydyn ni’n diweddaru’r Cynllun gweithlu gwaith cymdeithasol, yn creu Cynllun datblygu gweithlu gofal preswyl i blant newydd, ac yn casglu mewnwelediadau gan Addysgwyr Ymarfer.

Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn ni lunio camau gweithredu clir ac ymarferol sy'n cefnogi dyfodol y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cefndir

Mae pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.

Er mwyn sicrhau bod y gweithlu yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi nawr ac yn y dyfodol, mae gan Gymru Strategaeth Genedlaethol y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r strategaeth hon yn nodi'r hyn sydd ei angen i helpu staff i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, wedi'u hyfforddi'n dda, ac yn gallu gwneud eu gwaith gorau.

Fel rhan o hyn, rydyn ni’n diweddaru'r Cynllun gweithlu gwaith cymdeithasol ac yn creu Cynllun gweithlu gofal preswyl i blant newydd. Bydd y cynlluniau hyn yn helpu i droi nodau hirdymor y strategaeth yn gamau gweithredu clir sy'n adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd yn y sector.

Rydyn ni hefyd yn casglu mewnwelediad gan Addysgwyr Ymarfer i ddeall sut mae myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn cael eu cefnogi yn eu lleoliadau. Mae hyn yn helpu i adeiladu darlun llawnach o'r gweithlu ac yn sicrhau bod y cynlluniau terfynol yn cydnabod pawb sy'n ymwneud â datblygu gweithwyr proffesiynol y dyfodol.

Trwy wrando ar bobl ar draws y sector, gallwn ni wneud yn siŵr bod y cynlluniau wedi'u seilio ar anghenion gwirioneddol y gweithlu. Ein bwriad yw i helpu i lunio gweithlu gofal cymdeithasol cryfach, gyda fwy o gefnogaeth ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Cymryd rhan a llenwi'r holidaur

Os hoffech chi fod yn rhan o siapio’r gwaith hwn, rhannwch eich profiadau â ni drwy lenwi holiadur byr.

Bydd yr holiadur yn cymryd dim mwy na 15 munud yr un yw cwblhau. Bydd eich barn chi yn ein helpu ni i adeiladu darlun clir o anghenion y gweithlu gofal cymdeithasol ledled Cymu.

Gweithio gyda phartneriaid

Rydyn ni’n gweithio gyda'r Institute of Public Care (IPC) ar y darn hwn o waith. Eu rôl nhw yw helpu i sicrhau ein bod ni’n clywed gan ystod eang o leisiau.

Bydd IPC yn arwain y gweithgareddau ymgysylltu gan siarad â phobl ar draws y sector i gasglu eu barn a'u profiadau.

Bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod ein cynlluniau gweithlu terfynol yn adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i'r bobl sy'n deall y gwaith orau.

Sut rydyn ni eisiau gweithio gyda chi

Amserlen

Cam 1: Ffurflen Datblygu’r gweithlu ac Addysgwyr Ymarfer (dechrau 2026)

Byddwn yn dechrau trwy ofyn i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i rannu eu barn trwy gyfres o ffurflenni byr. Mae hyn yn ein helpu i adeiladu darlun cynnar o'r hyn sy'n gweithio'n dda a lle gellid gwella pethau.

Cam 2: Gweithdai ac ymgysylltu (canol 2026)

Nesaf, bydd IPC yn cynnal gweithdai ac yn siarad â phobl ar draws y sector i archwilio'r themâu allweddol yn fwy manwl. Bydd y sgyrsiau hyn yn helpu i lunio camau gweithredu yn y ddau gynllun gweithlu ac yn rhoi dealltwriaeth gliriach i ni o dirwedd Addysgwyr Ymarfer.

Cam 3: Adroddiadau drafft (Haf 2026)

Yna byddwn yn dod â phopeth at ei gilydd mewn drafft o’r cynlluniau gweithlu a chrynodeb o ganfyddiadau'r Addysgwyr Ymarfer. Bydd y drafftiau hyn yn cael eu hadolygu a'u diwygio cyn i'r fersiynau terfynol gael eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2026.

Diweddariadau Cam 1 a 2

Rydyn ni bellach wedi cwblhau cam cyntaf o’r gwaith ymgysylltu ar gyfer ein gwaith Cynllunio datblygu’r gweithlu ac Ymchwiliad addysgwyr ymarfer. Cafwyd 112 o ymatebion o bob rhan o’r sector. Diolch i bawb a rannodd eu safbwyntiau. 

Canfyddiadau cynnar a phrif themâu

Mae canfyddiadau cynnar yn dangos cefnogaeth gref i gyfeiriad ein gwaith ar y cynlluniau gweithlu. Mae’r prif themâu yn cynnwys:

  • pwysigrwydd hyfforddiant o ansawdd uchel
  • cefnogi gweithwyr cymdeithasol newydd sydd gymhwyso
  • cydnabod a chynnal rôl yr addysgwr ymarfer. 

Rydyn ni nawr yn symud i Gam dau, lle byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i archwilio’r themâu hyn yn fwy manwl a siapio’r camau gweithredu o fewn y cynlluniau. 

Darganfod mwy

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech wybod mwy, gallwch chi gysylltu â ni drwy e-bostio workforcedevelopmentproject@socialcare.wales.