Rydyn ni nawr yn casglu data ar gyfer adroddiad y gweithlu fel rhan o broses datganiad blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru.
Bob blwyddyn, rydyn ni'n cynhyrchu adroddiad sy’n rhoi cipolwg ar y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn seiliedig ar ddata sy'n cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau annibynnol am niferoedd a nodweddion eu gweithlu.
Mae’n wahanol i'r wybodaeth sy’n cael ei gyhoeddi am y gweithlu cofrestredig gan ei fod yn casglu data ar bawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Mae hefyd yn edrych ar bethau fel contractau ac oriau gwaith, yn ogystal â'r rhai sy'n ymuno a gadael, i ble maen nhw’n symud ac o ble.
Mae cael y darlun mwyaf cyflawn posibl o faint a siâp y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ein helpu i gynllunio ymlaen llaw.
Drwy ddarparu eich data, rydych yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o’r bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Sut ydyn ni'n casglu'r data?
Ers 2026, rydyn ni wedi casglu’r data fel rhan o broses datganiad blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), sy’n golygu mai dim ond unwaith y bydd rhaid i ddarparwyr gyflwyno eu data o hyn ymlaen. Yn flaenorol, roedden ni ac AGC yn cynnal dau ymarfer casglu data ar wahân bob blwyddyn.
Bydd AGC yn casglu’r data gan ddarparwyr gofal cymdeithasol, a byddwn ni’n cynhyrchu ein hadroddiad yn seiliedig ar y data maen nhw'n ei gasglu. Yn ogystal â lleihau’r baich amser ar ddarparwyr, mae hyn hefyd yn sicrhau bod y data sydd gan y ddwy sefydliad yn gyson.
Dydy'r casgliad cyfun newydd ddim yn gofyn am unrhyw wybodaeth nad oedd eisoes yn cael ei chasglu fel rhan o’r ddau gasgliad blaenorol.
Pam ydyn ni'n casglu'r data?
Rydyn ni’n casglu’r data i gael gwell dealltwriaeth o’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae sicrhau bod gennym data o’r ansawdd uchaf i ddeall y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn hynod o bwysig. Heb ddata o ansawdd da, ni allwn wir ddeall siâp a maint gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae hefyd yn ein helpu i gael gwell syniad o ble mae’r galw am ofal, ym mha fathau o ddarpariaeth, ac i gynllunio’n effeithiol ar gyfer y dyfodol.
Mae data o ansawdd da yn ein galluogi i wneud penderfyniadau gwell, yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae hyn yn golygu y gallwn helpu i ddarparu gofal a chymorth gwell i bobl yng Nghymru ac annog cefnogaeth well i’r gweithwyr sy’n ei ddarparu.
Bydd y casgliad cyfun hefyd yn cefnogi ein hymrwymiad i Fframwaith Perfformiad a Gwella gofal cymdeithasol yng Nghymru, drwy symleiddio’r gwaith o gasglu data o ansawdd uchel.
Beth ydyn ni'n ei wneud gyda'r data?
Rydyn ni’n dadansoddi’r data ac yn ei gyflwyno mewn adroddiad rydyn ni’n ei gyhoeddi bob blwyddyn, sy’n rhoi trosolwg o’r gweithlu cyfan ac yn dadansoddi’r canfyddiadau ar gyfer gwahanol leoliadau.
Dyma’r unig ddata sy'n cael ei gasglu am y gweithlu gofal cymdeithasol cyfan yng Nghymru. Oherwydd hyn, mae gan yr adroddiad amrywiaeth o ddefnyddwyr, gan gynnwys:
- lywodraethau Cymru a’r DU
- Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS Cymru) ac awdurdodau lleol
- rheoleiddwyr fel Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru
- darparwyr gofal
- ymchwilwyr
- y cyfryngau
- aelodau o’r cyhoedd.
Mae’r data wedi cael ei ddefnyddio i gynllunio llefydd hyfforddi ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal yng Nghymru, yn ogystal ag i gefnogi prosiectau penodol fel datblygu’r rhaglen frechu ar gyfer gweithwyr gofal yn ystod pandemig Covid‑19.
Byddwn ni hefyd yn defnyddio’r data i gynhyrchu erthyglau a chynnwys cysylltiedig am wahanol agweddau ar ein canfyddiadau drwy Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru.
Angen mwy o gymorth?
Cysylltwch â ni ar data@gofalcymdeithasol.cymru os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.