Jump to content
Rheolau tŷ ar gyfer cyfryngau cymdeithasol

Ein rheolau tŷ ar gyfer defnyddio cyfryngau cymdeithasol

Rydyn ni'n cynnal sianeli cyfryngau cymdeithasol i helpu i rannu a chodi ymwybyddiaeth o'r canlynol:

  • ein gwaith, ein gwasanaethau, ein mentrau a'n hadnoddau
  • gwaith, gwasanaethau, mentrau ac adnoddau a fydd o ddefnydd neu o ddiddordeb i'r rheini sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Dyma'r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol rydyn ni'n eu defnyddio:

  • BlueSky
  • Facebook
  • Instagram
  • LinkedIn
  • YouTube.

Ein rheolau

Rydyn ni eisiau i chi rannu eich adborth, eich cwestiynau, eich straeon a'ch profiadau gyda ni ar ein cyfrifon.

Ond, rydyn ni hefyd eisiau i'n sianeli cyfryngau cymdeithasol fod yn llefydd diogel a pharchus i bawb.

Felly, er mwyn ein helpu i wneud hyn, mae gennym reolau syml:

  • chi sy’n gyfrifol am unrhyw gynnwys rydych chi’n ei bostio ar ein sianeli, gan gynnwys cynnwys rydych chi’n dewis ei rannu
  • byddwn yn dileu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, postiadau neu sylwadau sy’n amhriodol yn ein barn ni
  • byddwn yn adrodd am unrhyw broffiliau cyfryngau cymdeithasol sy’n cael eu creu gan ddefnyddio ein delweddau neu ein logos heb ein caniatâd.

Byddwn yn blocio ac adrodd unrhyw ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol sy’n amlygu’r canlynol yn eu postiadau neu’u cynnwys:

  • iaith sy'n ddifrïol, yn dramgwyddus neu'n anweddus - er enghraifft, sy'n hiliol, yn rhywiaethol, yn homoffobig, yn drawsffobig neu'n amlwg rywiol
  • iaith sy’n dwyllodrus neu'n gamarweiniol
  • sy’n torri unrhyw gyfraith neu reoliad
  • sy’n torri unrhyw hawliau eiddo deallusol
  • sy’n sbam (postiadau negyddol neu ddifrïol parhaus sy'n ceisio ysgogi ymateb)
  • sy’n hysbysebion neu'n ceisio hyrwyddo unrhyw beth.

Byddwn yn cadw manylion am unrhyw bostiadau cyhoeddus sy’n torri ein rheolau ac yn blocio’r cyfrif.

Sut rydyn ni’n rheoli ein cyfrifon

Mae ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cael eu rhedeg gan ein staff, sy'n gorfod dilyn ein cod ymddygiad.

Rydyn ni’n monitro ein cyfrifon rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ond nid gwyliau cyhoeddus) a byddwn yn ceisio ateb eich ymholiad o fewn dau ddiwrnod gwaith.

Byddwn yn gwneud ein gorau glas i’ch helpu ac os na allwn helpu, byddwn yn eich cyfeirio at bobl eraill a allai helpu, lle bo hynny’n bosibl. Ond gyda chymaint o negeseuon, efallai na fyddwn yn gallu ateb pob ymholiad.

Rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i sicrhau bod yr holl wybodaeth a roddwn i chi yn gywir. Ac os byddwn ni’n gwneud camgymeriad, byddwn ni’n ceisio ei gywiro’n gyflym a rhoi’r wybodaeth gywir i chi.

Rhowch wybod i ni os ydych chi’n meddwl ein bod ni wedi gwneud camgymeriad neu os ydych chi’n gweld unrhyw beth sy’n amhriodol yn eich barn chi neu rydych chi’n poeni amdano.

Rydyn ni’n cadw'r hawl i ddileu ein cyfrifon ac i ddiweddaru neu newid y rheolau hyn ar unrhyw adeg.

Fel corff a noddir gan Lywodraeth Cymru, rydyn ni wedi datblygu ein rheolau cyfryngau cymdeithasol yn seiliedig ar y rheolau ar GOV.UK a LLYW.CYMRU.