Mae ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cael eu rhedeg gan ein staff, sy'n gorfod dilyn ein cod ymddygiad.
Rydyn ni’n monitro ein cyfrifon rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ond nid gwyliau cyhoeddus) a byddwn yn ceisio ateb eich ymholiad o fewn dau ddiwrnod gwaith.
Byddwn yn gwneud ein gorau glas i’ch helpu ac os na allwn helpu, byddwn yn eich cyfeirio at bobl eraill a allai helpu, lle bo hynny’n bosibl. Ond gyda chymaint o negeseuon, efallai na fyddwn yn gallu ateb pob ymholiad.
Rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i sicrhau bod yr holl wybodaeth a roddwn i chi yn gywir. Ac os byddwn ni’n gwneud camgymeriad, byddwn ni’n ceisio ei gywiro’n gyflym a rhoi’r wybodaeth gywir i chi.
Rhowch wybod i ni os ydych chi’n meddwl ein bod ni wedi gwneud camgymeriad neu os ydych chi’n gweld unrhyw beth sy’n amhriodol yn eich barn chi neu rydych chi’n poeni amdano.
Rydyn ni’n cadw'r hawl i ddileu ein cyfrifon ac i ddiweddaru neu newid y rheolau hyn ar unrhyw adeg.
Fel corff a noddir gan Lywodraeth Cymru, rydyn ni wedi datblygu ein rheolau cyfryngau cymdeithasol yn seiliedig ar y rheolau ar GOV.UK a LLYW.CYMRU.