Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol – ymgysylltu â'r cyhoedd bellach ar agor. Rhannwch eich barn gyda ni cyn 27 Mawrth.
Cyflwyniad
Dyma’r cam cyntaf yn y gwaith ymgysylltu ar ein 'Cynllun cydraddoldeb strategol newydd ar gyfer 2027 i 2031'.
Mae’r cynllun hwn yn amlinellu ein gweledigaeth o ran sut y byddwn ni’n:
- mynd ati’n rhagweithiol i fynd i’r afael â gwahaniaethu
- hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith
- meithrin cymdeithas fwy cynhwysol ledled Cymru.
Mae cynllun cydraddoldeb strategol yn orfodol o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n amlinellu:
- ein hamcanion cydraddoldeb
- y camau a’r amserlenni ar gyfer cyflawni ein nodau
- sut y byddwn ni’n monitro ein cynnydd a’n heffeithiolrwydd
- sut y byddwn ni’n casglu ac yn cyhoeddi gwybodaeth berthnasol yn ymwneud â chydraddoldeb
- sut y byddwn ni’n cynnal asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb
- sut y byddwn ni’n mynd i’r afael â phroblemau, fel gwahaniaethau mewn tâl ac ymwybyddiaeth staff.
Gan dynnu ysbrydoliaeth o'n cynllun strategol 2022 i 2027 ac wedi'i siapio gan yr heriau niferus a ddaeth gan bandemig Covid-19, rydyn ni am adeiladu ar ei lwyddiant a mynd ymhellach i fynd i'r afael â gwahaniaethu. Gallwch ddarllen ein cynllun presennol yma.
Mae ein huchelgais yn mynd y tu hwnt i amcanion. Ni all cydraddoldeb fod yn goddefol, mae'n gofyn am onestrwydd, dewrder a chydweithrediad agored.
Helpwch ni i lunio ein cynllun cydraddoldeb strategol nesaf
Rydyn ni eisiau eich help i lunio dyfodol cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar ledled Cymru, ac o fewn Gofal Cymdeithasol Cymru.
I wneud hyn, hoffem ni glywed eich barn ar beth ddylai gael blaenoriaeth yn y meysydd canlynol:
- Y gweithlu: Cefnogi’r sectorau gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant fel lleoedd cadarnhaol a theg i weithio ynddynt
- Sefydliadau: Cefnogi gwasanaethau i ddatblygu diwylliannau positif, gwrth-wahaniaethol er budd holl ddinasyddion Cymru
- Systemau ac arweinyddiaeth: Systemau ac arweinyddiaeth strategol sy’n cefnogi tegwch a chydraddoldeb yn y sector gofal cymdeithasol
- Ein gwaith rheoleiddio: Sicrhau bod ein gwaith i reoleiddio’r sector gofal cymdeithasol yn deg.
Rydyn ni’n dymuno deall profiadau uniongyrchol gweithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol, defnyddwyr gofal a chymorth, gofalwyr a phartneriaid. Rydyn ni eisiau clywed ble mae anghydraddoldeb yn dal i fod, ble’r ydyn ni wedi gwneud cynnydd, a’r camau yr ydych chi’n teimlo y dylen ni ganolbwyntio arnynt.
Rydyn ni’n dymuno i’r cynllun hwn fod yn rhan o gyfres sy’n meddwl mewn ffordd hirdymor ac yn ystyried llesiant cenedlaethau’r dyfodol.
Bydd eich profiadau a’ch mewnwelediadau’n ein helpu i:
- sicrhau ein bod yn parhau i wneud gwaith sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol
- nodi ble mae anghydraddoldeb yn dal i fod
- creu nodau sy’n adlewyrchu heriau a chyfleoedd
- sicrhau bod ein cynllun cydraddoldeb strategol yn cyflawni newid ystyrlon ar gyfer gweithwyr proffesiynol, gofalwyr di-dâl a’r rhai sy’n defnyddio gofal a chymorth.
Trwy rannu eich barn, byddwch chi’n ein cynorthwyo i greu sector tecach, mwy cynhwysol a gwell i bawb. Dyma’ch cyfle i ddylanwadu ar sut y byddwn ni’n mynd i’r afael â gwahaniaethu ac yn hybu cydraddoldeb am flynyddoedd i ddod.
Helpwch ni i lunio ein cynllun fel ei fod yn adlewyrchu’n huchelgais ar gyfer newid positif a theg,ac yn dod yn ffordd ystyriol o symud ymlaen gyda thargedau uchelgeisiol a chyraeddadwy.