Jump to content
'Mae eich barn yn llywio'n uniongyrchol sut rydyn ni a'n partneriaid yn datblygu cefnogaeth i'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru'
Newyddion

'Mae eich barn yn llywio'n uniongyrchol sut rydyn ni a'n partneriaid yn datblygu cefnogaeth i'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru'

| Sarah McCarty, Prif Weithredwr

Rydyn ni'n anfon e-fwletin rheolaidd at bawb ar ein Cofrestr. Mae pob e-fwletin yn cynnwys neges gan ein Prif Weithredwr, Sarah McCarty.

Dyma neges Sarah o e-fwletin Chwefror 2026 yn ei gyfanrwydd.

Shwmae a chroeso i'n bwletin diweddaraf.

Mae'r rhifyn hwn yn nodi lansiad ein Codau Ymarfer Proffesiynol newydd. Mae'r rhain wedi'u datblygu mewn ymateb uniongyrchol i'ch adborth, gan wneud y Codau'n symlach, yn gliriach ac yn haws i'w defnyddio mewn ymarfer o ddydd i ddydd.

Bydden nhw yn mynd yn fyw ar 1 Gorffennaf, i roi amser i gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ddiweddaru eu hadnoddau a'u polisïau. Mae'r Codau'n nodi'r safonau y mae'n rhaid i chi weithio tuag atynt, felly rwy'n annog pawb i'w darllen yn ofalus a gwneud yn siŵr eich bod yn hyderus wrth eu cymhwyso.

Un maes rydyn ni wedi'i gryfhau yw ein disgwyliadau ynghylch arfer gwrthwahaniaethol, rhaid i chi barchu, cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a rhaid i chi beidio â gwahaniaethu yn erbyn unigolion, gofalwyr, cydweithwyr nac unrhyw berson arall.

Rwy'n annog pob gweithiwr i ystyried sut rydych chi'n cefnogi arfer gwrthwahaniaethol yn weithredol yn eich gwaith bob dydd. ​Gallwch gwblhau ein e-ddysgu gwrth-hiliol yma​. Rydyn ni hefyd yn cynnal sesiynau pwrpasol ar gyfer rheolwyr ar ymgorffori dulliau gwrthwahaniaethol ar draws sefydliadau.

Byddwn yn parhau i gefnogi gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae arolwg Dweud Eich Dweud bellach ar agor, gan roi cyfle i chi rannu eich profiadau. Mae eich barn yn llywio'n uniongyrchol sut rydyn ni a'n partneriaid yn datblygu cefnogaeth i'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallech gymryd ychydig funudau i gymryd rhan yn yr arolwg.

Os ydych chi'n Weithiwr Cymdeithasol mae gennym nifer fawr o ddigwyddiadau ar y gweill yn ystod wythnos Gwaith Cymdeithasol i gefnogi a dathlu eich ymarfer.

Gobeithio y byddwch chi'n mwynhau gweddill y bwletin hwn,

Diolch am yr holl waith rydych chi'n ei wneud yn ein holl gymunedau.

Sarah