Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal cartref o’r Gofrestr ar ôl cael ei wahardd rhag gweithio gydag oedolion sy'n agored i niwed
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal cartref o’r Gofrestr ar ôl cael ei wahardd rhag gweithio gydag oedolion sy'n agored i niwed

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal cartref yn Wrecsam wedi cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei addasrwydd i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd.

Clywodd y gwrandawiad fod Thomas Pedder wedi'i gynnwys ar Restr Gwahardd Oedolion y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ym mis Ebrill 2021 ar ôl iddo ddwyn symiau sylweddol o arian ar sawl achlysur yn 2020 gan unigolyn agored i niwed a oedd dan ei ofal.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i'r casgliad bod ei addasrwydd i ymarfer Mr Pedder wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd ei fod wedi'i gynnwys ar restr wahardd.

Wrth egluro’r penderfyniad, dywedodd y panel: “Roedd gweithredoedd Mr Pedder wrth gymryd arian gan [yr unigolyn agored i niwed] yn achos difrifol o dorri ymddiriedaeth ac roedden nhw'n debygol o achosi niwed gwirioneddol iddo [ef/hi].

“Manteisiodd Mr Pedder ar ei fynediad i gerdyn banc [yr unigolyn agored i niwed] a['i] ymddiriedaeth ynddo. Mae ei weithredoedd yn gyfystyr â thorri egwyddorion sylfaenol gofal cymdeithasol ac yn dangos diffyg uniondeb.”

Ychwanegodd y panel: “Nid oedd gweithredoedd Mr Pedder yn rhai unigol, roedden nhw'n rhan o batrwm ymddygiad dros bedwar mis ac roedden nhw'n gysylltiedig â phroblem sylfaenol gyda gamblo.

“Does gennym ni ddim tystiolaeth bod Mr Pedder wedi cymryd unrhyw gamau i fynd i'r afael â'r broblem honno er mwyn cyfyngu ar y risg y byddai'n ymddwyn yn yr un ffordd yn y dyfodol.”

Penderfynodd y panel dynnu Mr Pedder oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Rydyn ni wedi penderfynu mai Gorchymyn Dileu yw'r unig ffordd briodol o'i ddileu.

“Mae'n ganlyniad cymesur mewn achos o ddwyn swm mawr o arian oddi wrth unigolyn agored i niwed. Mae'n angenrheidiol tynnu Mr Pedder oddi ar y Gofrestr, er gwaethaf y penderfyniad i'w wahardd, oherwydd dim ond i weithio gydag oedolion y mae'r penderfyniad hwnnw'n berthnasol.”

Nid oedd Mr Pedder yn bresennol yn y gwrandawiad undydd, a gynhaliwyd dros Zoom yr wythnos diwethaf.